ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol (Rhan amser) (LLM)

Abertawe
36 Mis Rhan amser

Mae ein LLM yn Y Gyfraith ac Arfer Cyfreithiol wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion sy’n anelu at ragori yn y proffesiwn cyfreithiol a chyflawni cymhwyster cyfreithiol uwch yn y DU.

Mae’r radd meistr arbenigol hon yn archwilio meysydd allweddol arfer cyfreithiol, gan gynnwys Cyfraith Gofal Plant, Cyfraith Cyflogaeth, Cyfraith Mewnfudo, Eiddo Masnachol, a Gwasanaethau Cleientiaid Preifat. Mae’r rhaglen yn cyfuno sylfaen ddamcaniaethol gadarn Ã¢ sgiliau ymarferol, gan baratoi graddedigion i fynd i’r afael â heriau cyfreithiol cymhleth a chymhwyso eu harbenigedd mewn lleoliadau proffesiynol ac academaidd.

Wedi’i deilwra ar gyfer graddedigion y gyfraith, cyfreithwyr wrth eu gwaith, ac ymarferwyr proffesiynol o feysydd amrywiol, mae’r rhaglen yn cynnig gwybodaeth fanwl am bynciau cyfreithiol beirniadol a’r cyfle i ddatblygu sgiliau ymchwil a dadansoddol uwch. Mae myfyrwyr yn meithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o egwyddorion cyfreithiol hanfodol wrth hogi’r sgiliau datrys problemau a chyfathrebu sy’n ofynnol yn y dirwedd gyfreithiol gystadleuol sydd ohoni.

P’un a ydynt yn dilyn gyrfa fel cyfreithiwr, ymgynghorydd cyfreithiol, cynghorydd polisi, neu ymchwilydd academaidd, caiff graddedigion eu cymhwyso i symud ymlaen i rolau uwch yn y sectorau cyfreithiol a gwasanaethau proffesiynol. Mae’r LLM hwn yn arbennig o addas i’r rhai sy’n ceisio dyfnhau eu harbenigedd neu drosglwyddo i rolau cyfreithiol arbenigol.

Drwy gwblhau’r LLM yn Y Gyfraith ac Arfer Cyfreithiol, byddwch yn gwella eich gallu i gynnal ymchwil gyfreithiol fanwl, mireinio eich sgiliau cyfathrebu a gwneud penderfyniadau moesegol, gan roi eich hun mewn sefyllfa wych ar gyfer dilyniant gyrfaol yn y proffesiwn cyfreithiol.

Mae’r opsiwn rhan-amser hon yn darparu llwybr hyblyg i gwblhau’r LLM.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Hyd y cwrs:
36 Mis Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Gwybodaeth Arbenigol: Ymchwiliwch i feysydd penodol fel Cyfraith Eiddo Masnachol a Chyflogaeth, gan feithrin dealltwriaeth ddofn o arferion cyfreithiol arbenigol.
02
Cymhwysiad Ymarferol: Dysgwch i gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol i achosion byd go iawn, gan sicrhau eich bod yn barod am amrywiaeth o heriau cyfreithiol.
03
Ffocws ar Yrfa: Cewch y sgiliau sydd eu hangen i wneud cynnydd yn y proffesiwn cyfreithiol, gyda'r cyfle i gymryd rhan mewn ymchwil sy'n cefnogi dilyniant gyrfa.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r LLM yn Y Gyfraith ac Arfer Cyfreithiol yn cyfuno dysgu yn yr ystafell ddosbarth, astudio annibynnol, a chymhwysiad ymarferol i ddatblygu dealltwriaeth fanwl o arfer cyfreithiol. Gyda chyfuniad o sesiynau ar y campws yng Nghampws Busnes Abertawe ac adnoddau ar-lein, bydd myfyrwyr yn cael mynediad i brofiad dysgu cyfoethog. Mae modylau’r rhaglen yn cwmpasu meysydd cyfreithiol allweddol trwy ddarlithoedd, astudiaethau achos, gwaith grŵp a phrosiectau ymchwil. Mae’r fformat hwn wedi’i gynllunio i ddarparu cydbwysedd rhwng mewnwelediadau damcaniaethol a sgiliau ymarferol.

Yn ystod eich amser ar y cwrs, byddwch yn astudio meysydd allweddol y gyfraith, gan gynnwys Cleientiaid Preifat (ewyllysiau a chynllunio ystadau), Eiddo Masnachol (caffael safleoedd a phrydlesau), Cyfraith ac Arfer Gofal Plant (diogelu a chyfraith teulu), Cyfraith ac Arfer Cyflogaeth (hawliau a thribiwnlysoedd), a Chyfraith ac Arfer Mewnfudo (fframweithiau mewnfudo’r DU). Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol drwy Fethodoleg Ymchwil, gan arwain at Draethawd Hir y Gyfraith ac arfer Cyfreithiol ar bwnc o’ch dewis.

Cleientiaid Preifat

(20 credyd )

Eiddo Masnachol

(20 credyd )

Cyfraith ac Arfer Gofal Plant

(20 credyd )

Cyfraith ac Arfer Cyflogaeth

(20 credyd )

Cyfraith ac Arfer Mewnfudo

(20 credyd )

Methodoleg Ymchwil

(20 credyd )

Traethawd Hir y Gyfraith ac Arfer

(60 credyd )

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 2:2 neu uwch i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau naill ai’r cymwysterau CILEX Paragyfreithiol a Pharagyfreithiol Uwch, wedi’i ategu gan yr LLB Y Gyfraith ar Waith neu wedi cwblhau’r LLB Y gyfraith ac Arfer Cyfreithiol neu’r rhai sydd wedi penderfynu dilyn y llwybr Cyfreithiwr CILEX.

  • Bydd ystod o ddulliau asesu crynodol yn cael eu defnyddio, h.y. asesiad sy’n cael ei gyfleu mewn marciau sy’n cyfrif tuag at gyfrifiad y marc terfynol. Mae gwaith cwrs ac asesiadau ymarferol yn cael eu defnyddio i brofi gwybodaeth a dealltwriaeth ond maent yn tueddu i ffocysu mwy ar ddatblygiad sgiliau gwybyddol, ymarferol ac allweddol. Mae dulliau o’r fath yn addas iawn ar gyfer natur disgyblaeth y gyfraith ac arfer cyfreithiol am eu bod yn hwyluso asesu ac arfer dilys, perthnasol i’r gweithle. Caiff gwaith cwrs a thasgau ymarferol eu gosod ar amrywiaeth o fformatau. Mae’r rhain yn cynnwys:
    • Traethodau • Portffolios • Prosiectau ymchwil • Cyflwyniadau

  • Dim costau ychwanegol heblaw am offer TG y bydd ei angen ar fyfyrwyr i gwblhau’r rhaglen.

  • Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.

  • Cynlluniwyd y cwrs ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau parhau Ã¢â€™u hastudiaethau cyfreithiol ar lefel Ã´l-raddedig.Mae’n caniatáu i fyfyrwyr astudio meysydd arbenigol o’r gyfraith ymhellach. Gallai hyn arwain at yrfaoedd yn yr alwedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys gweithio fel Cyfreithwyr CILEx, twrnai ac ymarferwyr cyfreithiol.