Y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol (Llawn amser) (LLB)
Mae ein gradd Y Gyfraith ac Arfer Cyfreithiol LLB yn cynnig dealltwriaeth fanwl o System Gyfreithiol Lloegr a Sylfeini Gwybodaeth Gyfreithiol, gan ddarparu sylfaen gadarn ar gyfer gyrfa mewn arfer cyfreithiol. Byddwch yn astudio cyfraith gyhoeddus a phreifat o fewn cyd-destunau amrywiol, gan gwmpasu meysydd allweddol megis Egwyddorion Rheoleiddio SRA a gofynion moesegol, ecwiti ac ymddiriedolaethau, cyfraith eiddo, trawsgludo, cyfraith busnes, ac arfer profiant.
Mae’r cwrs yn eich paratoi ar gyfer yr Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE). Byddwch yn datblygu sgiliau i ddod o hyd i ymchwil yn y gyfraith ac ymarfer cyfreithiol, gwerthuso a rhoi sylwadau ar yr ymchwil, dysgu meddwl yn feirniadol a dadansoddi cysyniadau cymhleth. Mae ein rhaglen yn cynnwys modiwlau craidd a meysydd arbenigol o’r gyfraith fel cyfraith droseddol, cyfraith teulu, cyfraith camwedd a chyfraith contract, gan sicrhau eich bod wedi’ch paratoi’n dda ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd cyfreithiol.
Mae ein rhaglen yn pwysleisio mynediad at gyfiawnder ac addysg gyfreithiol, gan sicrhau eich bod yn deall effaith ehangach y gyfraith ar gymdeithas. Ar ôl ei gwblhau, byddwch wedi’ch paratoi’n dda ar gyfer gyrfa mewn ymarfer cyfreithiol, boed fel cyfreithiwr, bargyfreithiwr, neu mewn rolau cyfreithiol eraill o fewn y systemau cyfiawnder sifil neu droseddol, Mae ein gradd israddedig yn y gyfraith yn eich gosod ar y llwybr cywir.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Ein hathroniaeth yw cyfuno gwybodaeth academaidd â phrofiad ymarferol, gan sicrhau eich bod yn ennill dealltwriaeth fanwl o egwyddorion cyfreithiol a’u cymwysiadau yn y byd go iawn. Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau dadansoddi, ymchwil a phroffesiynol er mwyn eich paratoi am yrfa lwyddiannus yn y gyfraith.
Yn eich blwyddyn gyntaf, cewch eich cyflwyno i feysydd craidd y gyfraith, gan gynnwys cyfraith droseddol, ymgyfreitha troseddol, cyfraith gyhoeddus, a phroses gyfreithiol. Byddwch yn datblygu sgiliau hanfodol mewn ymchwil gyfreithiol, ysgrifennu a dadansoddi, gan osod y sylfeini ar gyfer eich dealltwriaeth o system gyfreithiol Lloegr a’i phrif egwyddorion.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Mae’r ail flwyddyn yn dyfnhau eich gwybodaeth gydag astudiaethau uwch mewn cyfraith camwedd a chyfraith contract. Byddwch yn archwilio ymgyfreitha sifil ac yn ennill dealltwriaeth o gyfraith ac ymarfer busnes a theulu, tra’n mireinio eich sgiliau ymchwil cyfreithiol ymhellach.
Gorfodol
(20 credyd)
( credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Mae eich blwyddyn olaf yn canolbwyntio ar feysydd arbenigol fel trawsgludo, ecwiti ac ymddiriedolaethau, arferion profiannol a chyfraith tir. Byddwch hefyd yn astudio egwyddorion ymarfer cyfreithiol proffesiynol a gynlluniwyd i’ch paratoi ar gyfer taith ymlaen fel gweithiwr cyfreithiol proffesiynol.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credyd)
(20 credydau)
(20 Credydau)
Course Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
96 pwynt UCAS neu gyfwerth.
-
Asesir y cwrs trwy gymysgedd o waith cwrs ysgrifenedig, efelychiadau, llyfrau gwaith, cyflwyniadau ac arholiadau. Mae pob modwl yn werth 20 credyd a fyddai’n cyfateb i ddau asesiad fesul modwl gyda’r hyn sydd gyfwerth ag aseiniad 2,000–3,500 o eiriau neu arholiad fesul 10 credyd, yn dibynnu ar y lefel astudio.
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai y bydd myfyrwyr am brynu gwerslyfrau ar gyfer modylau, megis y Prosiect Ymchwil, ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni fydd yn effeithio ar y radd derfynol.
Efallai y bydd teithiau maes dewisol hefyd a allai olygu rhai costau.
-
Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.
-
Mae tîm y cwrs wedi datblygu cysylltiadau agos iawn â nifer o sefydliadau proffesiynol yn y sector cyhoeddus a meysydd y gwasanaethau cyfreithiol. Mae hyn wedi caniatáu ymgynghori agos ar ddatblygu cynnwys y cwrs ac argaeledd cyfleoedd profiad gwaith unigryw.
Mae’r cwrs yn gweithio’n agos â sefydliadau eraill yn y sector Cyhoeddus, a byddai’r cyfuniad o ddealltwriaeth a gwybodaeth am y sector cyfreithiol a chyhoeddus yn cael ei ystyried yn fanteisiol i’r proffesiynau Cyfiawnder cyfreithiol ehangach.
Mae’r tîm wedi datblygu perthynas agos â chwmnïau a sefydliadau cyfreithiol lleol ac yn datblygu cyfleoedd profiad gwaith a fyddai o fudd i’r myfyrwyr pe baent yn dewis parhau i astudiaethau cyfiawnder cyfreithiol pellach.