ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Y Gyfraith (Llawn amser) (LLB)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
96 o Bwyntiau UCAS

Mae gradd LLB Y Gyfraith yn darparu sylfaen drylwyr ym meysydd sylfaenol y gyfraith wrth archwilio pynciau cyfreithiol allweddol eraill ar gyfer dealltwriaeth gynhwysfawr o’r maes. Trwy’r rhaglen, bydd myfyrwyr yn astudio pynciau megis Proses Gyfreithiol, Cyfraith Contract, Cyfraith Droseddol, Cyfraith Camweddau, Cyfraith Cyflogaeth, a Chyfraith Busnes.

Byddwch yn datblygu gwybodaeth gyfreithiol hanfodol ac yn mireinio eich sgiliau ymchwil trwy brosiectau ymchwil gyfreithiol a thraethawd hir, gan helpu i feithrin sgiliau adfyfyriol ar gyfer llwyddiant proffesiynol. Mae’r cwrs hefyd yn canolbwyntio ar eich paratoi ar gyfer arfer cyfreithiol a rolau yn y proffesiwn cyfreithiol ehangach, gan gynnwys y Weinyddiaeth Gyfiawnder, adrannau cyfreithiol mewnol, a’r Gwasanaeth Sifil.

Wedi’i gynllunio i fod Ã¢ ffocws ar y proffesiwn, mae’r rhaglen hon yn sicrhau bod ei modylau’n diwallu anghenion cyflogwyr a’r system cyfiawnder cyfreithiol, gan eich helpu i baratoi ar gyfer gyrfa ystyrlon. P’un a ydych yn anelu at arfer y gyfraith neu ddefnyddio eich sgiliau trosglwyddadwy mewn meysydd eraill, mae’r radd hon yn rhoi i chi’r sgiliau i lwyddo.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
LAW1
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
96 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae’r cwrs yn paratoi myfyrwyr i sefyll yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE).
02
Mae'r cwrs yn ymdrin â meysydd sy'n hollbwysig o ran Ymarfer Cyfreithiol yn yr 21ain Ganrif.
03
Cyflwynir y cwrs gan staff profiadol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r radd LLB Y Gyfraith yn PCYDDS wedi’i chynllunio i ddatblygu eich dealltwriaeth o’r gyfraith a’ch sgiliau ymarferol o ran dadansoddi cyfreithiol. Trwy gyfuniad o ddysgu damcaniaethol, astudiaethau achos, ac aseiniadau ymarferol, rydym yn sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer arfer cyfreithiol wrth ganolbwyntio ar gyflogadwyedd.

Blwyddyn 1

Yn eich blwyddyn gyntaf, cewch eich cyflwyno i feysydd sylfaenol y gyfraith, gan gynnwys Cyfraith Contract, Cyfraith Droseddol, a Chyfraith Camweddau. Byddwch hefyd yn archwilio’r Broses Gyfreithiol, gan adeiladu sylfaen gref ar gyfer astudiaethau mwy datblygedig. Bydd y ffocws ar ddatblygu eich sgiliau ymchwil cyfreithiol, sy’n hanfodol ar gyfer llwyddiant academaidd a phroffesiynol.

Blwyddyn 2

Mae blwyddyn dau yn ymchwilio’n ddyfnach i bynciau cyfreithiol penodol fel Cyfraith Cyflogaeth a Chyfraith Busnes. Fe gewch y cyfle i arbenigo mewn pynciau sy’n cyd-fynd â’ch dyheadau gyrfaol, megis Arfer Cyfreithiol ac ymchwil pellach i feysydd penodol o’r gyfraith. Bydd y ffocws hefyd ar feddwl beirniadol a chymhwyso theori i senarios ymarferol.

Blwyddyn 3

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd Ã¢ thraethawd hir, lle gallwch gymhwyso eich sgiliau ymchwil i bwnc cyfreithiol o’ch dewis. Bydd y flwyddyn hon hefyd yn eich galluogi i arbenigo ymhellach mewn meysydd arfer cyfreithiol. Byddwch yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau adfyfyriol a pharatoi ar gyfer rolau yn y proffesiwn cyfreithiol, boed hynny fel cyfreithiwr, bargyfreithiwr, neu mewn meysydd cysylltiedig fel y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Cyfraith Droseddol

(20 credydau)

Proses Gyfreithiol

(20 credydau)

Cyfraith Gyhoeddus

(20 credydau)

Paratoi ar gyfer Cyflogaeth

(20 credydau)

Pobl ifanc, Gangiau a Throseddu Difrifol

(20 credyd)

Sgiliau Astudio

(20 credydau)

Cyfraith ac Ymarfer Busnes

(20 credydau)

Cyfraith Contract

( credydau)

Cyfraith ac Ymarfer Teulu

(20 credyd)

Paratoi ar gyfer Ymchwil

(20 credydau)

Cyfraith Camwedd

(20 credydau)

Gwirfoddoli: Y Porth i Gyflogaeth

(20 Credydau)

Ecwiti ac Ymddiriedolaethau

(20 credydau)

Cyfraith Cyflogaeth

(20 Credydau)

Cyfraith Mewnfudo

(20 Credydau)

Cyfraith Tir

(20 Credydau)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 96 pwynt UCAS neu gyfwerth.

  • Asesir y cwrs trwy gymysgedd o waith cwrs ysgrifenedig, efelychiadau, llyfrau gwaith, cyflwyniadau ac arholiadau. Mae pob modwl yn 20 credyd ac eithrio’r Prosiect Annibynnol ar Lefel 6 sy’n 40 credyd. 

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai y bydd myfyrwyr am brynu gwerslyfrau ar gyfer modylau, megis y Prosiect Ymchwil, ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni fydd yn effeithio ar y radd derfynol.

    Efallai y bydd teithiau maes dewisol hefyd a allai olygu rhai costau.

  • Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.

  • Mae tîm y cwrs wedi datblygu cysylltiadau agos iawn â nifer o sefydliadau proffesiynol yn y sector cyhoeddus a meysydd y gwasanaethau cyfreithiol. Mae hyn wedi caniatáu ymgynghori agos ar ddatblygu cynnwys y cwrs ac argaeledd cyfleoedd profiad gwaith unigryw.

    Mae’r cwrs yn gweithio’n agos â sefydliadau eraill yn y sector Cyhoeddus, a byddai’r cyfuniad o ddealltwriaeth a gwybodaeth am y sector cyfreithiol a chyhoeddus yn cael ei ystyried yn fanteisiol i’r proffesiynau Cyfiawnder cyfreithiol ehangach.

    Mae’r tîm wedi datblygu perthynas agos â chwmnïau a sefydliadau cyfreithiol lleol ac yn datblygu cyfleoedd profiad gwaith a fyddai o fudd i’r myfyrwyr pe baent yn dewis parhau i astudiaethau cyfiawnder cyfreithiol pellach.