ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Cyfiawnder Troseddol a Phlismona (Llawn amser) (MA)

Abertawe
18 Mis Llawn amser

Mae ein MA mewn Cyfiawnder Troseddol a Phlismona yn cynnig golwg fanwl ar fyd cyfiawnder troseddol a’r grymoedd sy’n ei siapio. Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol os oes gennych ddiddordeb mewn archwilio sut mae ein system gyfiawnder yn gweithredu, beth sy’n gyrru plismona, a sut i fynd i’r afael ag effaith gymdeithasol troseddu. Drwy ddeall sylfeini damcaniaethol plismona ac ymchwilio’n ddwfn i ddamcaniaethau troseddegol trosedd, byddwch yn datblygu golwg cyflawn ar sut mae gwahanol ymagweddau at reoli ac ymchwilio i droseddau wedi esblygu dros amser.

Dan arweiniad tîm sydd â chyfoeth o brofiad, mae’r rhaglen yn dod â gwybodaeth ac arfer ynghyd. Byddwch yn cael cipolwg ar arferion gorfodi’r gyfraith byd go iawn ac yn datblygu’r sgiliau dadansoddol sydd eu hangen i asesu trosedd a materion cyfiawnder yn feirniadol. Bydd arbenigedd eich hyfforddwyr yn eich cefnogi wrth i chi archwilio effaith ffactorau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd ar bolisi troseddu a pholisi cyfiawnder troseddol, gan roi’r i chi’r sgiliau i ddeall sut mae tueddiadau ehangach yn siapio’r heriau sy’n wynebu plismona modern yr oes sydd ohoni.

Trwy gydol y cwrs, byddwch yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, gan gynnwys seiberdroseddu, terfysgaeth, a phlismona ymateb. Fe’ch anogir i ddatblygu eich gwybodaeth am ddatblygiadau rhyngwladol ym maes troseddeg a chyfiawnder troseddol, a fydd yn rhoi safbwynt byd-eang i chi ar faterion dybryd a gwahanol fodelau plismona. Bydd hyn yn eich galluogi i ennill sgiliau sy’n berthnasol ar gyfer rolau gorfodi’r gyfraith, datblygu polisi, ymchwil a thu hwnt.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Ar y campws
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
18 Mis Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Bydd y myfyrwyr yn gallu datblygu eu gwybodaeth am Gyfiawnder Troseddol a Phlismona ymhellach.
02
Mae'r tîm yn gweithio'n agos gyda nifer o sefydliadau yn y maes i ddarparu cyfleoedd ymchwil i'r myfyrwyr gynnal ymchwil yn eu maes dewisol.
03
Mae'r tîm yn gweithio'n agos gyda sefydliadau i alluogi'r myfyrwyr i fynd ar leoliadau gwaith a chael cyfleoedd i wirfoddoli.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein hymagwedd at addysgu’r MA mewn Cyfiawnder Troseddol a Phlismona yn canolbwyntio ar ddysgu diddorol, seiliedig ar ymchwil. Rydym yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â mewnwelediadau ymarferol, gan alluogi myfyrwyr i werthuso’n feirniadol heriau cyfredol ac esblygol ym maes cyfiawnder troseddol. Gyda hyfforddwyr profiadol a sesiynau rhyngweithiol, ein nod yw paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd effeithiol o fewn maes cyfiawnder troseddol a phlismona.

Drwy gydol y cwrs, byddwch yn archwilio elfennau hanfodol y system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys swyddogaethau cyfiawnder ieuenctid a systemau carchardai, wrth ymgysylltu â heriau cyfoes yn y maes. Byddwch yn dadansoddi’r berthynas rhwng plismona a chymdeithas ac yn ystyried y gwahanol ffactorau sy’n siapio ymatebion effeithiol i drosedd. Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn canolbwyntio ar faterion dybryd fel bygythiadau i ddiogelwch y cyhoedd sy’n dod i’r amlwg a chymhlethdodau trosedd modern. Yn ogystal, byddwch yn ymgymryd â phrosiect ymchwil manwl, sy’n eich galluogi i arbenigo mewn maes diddordeb penodol. Bydd yr ymchwiliad helaeth hwn yn eich helpu i ddatblygu sgiliau beirniadol wrth ddadansoddi ac yn cyfrannu at eich dealltwriaeth o’r maes.

Gorfodol

Materion Cyfoes mewn Cyfiawnder Troseddol

(30 credydau)

Y System Cyfiawnder Troseddol, Cyfiawnder Ieuenctid a Systemau Carchardai yng Nghymru a Lloegr

(30 credydau)

Modelau Plismona, Pwerau a Chymdeithas

(30 credydau)

Terfysgaeth a Seiberdroseddu

(30 credydau)

Traethawd Hir Mewn Plismona

(60 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

tysteb

Gwybodaeth allweddol

  • Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion o bob disgyblaeth cyn belled â bod ganddyn nhw radd a/neu gymwysterau proffesiynol. Rydym hefyd yn annog ceisiadau gan unigolion sydd â phrofiad proffesiynol, profiad o arweinyddiaeth a phlismona a allai gael eu derbyn ar raglen meistr yn ôl disgresiwn cyfarwyddwr y rhaglen.

    Rhaid i ymgeiswyr fod dros 21 oed ac yn meddu ar un neu fwy o’r canlynol:

    1. Gradd anrhydedd gydnabyddedig (o leiaf 2:2) neu gymhwyster cyfatebol.
    2. Cymhwyster proffesiynol.
    3. Gall ymgeiswyr sydd dros 25 oed ac nad ydynt yn bodloni’r meini prawf uchod gael eu derbyn ar y cwrs ar yr amod bod eu profiad proffesiynol yn cael ei ystyried yn briodol.

    Gellir ystyried rhai eithriadau o fodiwlau a addysgir a chaiff penderfyniadau eu gwneud yn unigol yn unol â phroses Achredu Dysgu drwy Brofiad Blaenorol (RPEL) PCYDDS.

  • Mae’r modiwlau a’r asesiadau wedi’u cynllunio ar y cyd gan dîm y rhaglen, i sicrhau eu bod yn ffurfio cyfanwaith cydlynol.  

    Prif bwrpas y cynllun asesu yw galluogi myfyrwyr i ddangos yn unigol eu bod wedi bodloni nodau’r rhaglenni ac wedi cyflawni’r deilliannau dysgu i’r safon sy’n ofynnol ar gyfer lefel yr astudiaeth. Bydd asesu hefyd yn cael ei ddefnyddio i roi adborth i fyfyrwyr i’w cynorthwyo gyda dysgu dilynol. 

  • Ni fydd unrhyw gostau ychwanegol gorfodol i astudio y tu hwnt i dalu am ffioedd dysgu. Dylai myfyrwyr fod yn barod i ysgwyddo’r costau sylfaenol sy’n gysylltiedig ag astudio, fel cludiant, ac efallai y byddan nhw am brynu coffi, byrbrydau neu eitemau amrywiol eraill ar y campws.

    Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn dewis buddsoddi mewn offer fel gliniaduron i’w cynorthwyo gyda’u hastudiaethau, er nad yw hyn yn ofynnol ar gyfer y rhaglen. Bydd unrhyw weithgareddau sy’n ymwneud ag astudio neu fywyd myfyriwr sy’n dwyn cost y tu hwnt i gost ffioedd dysgu yn ddewisol, a bydd y gost yn cael ei chyfleu’n glir i fyfyrwyr wrth gofrestru.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae gan dîm y rhaglen gysylltiadau helaeth â sefydliadau sy’n gweithio yn y maes ac mae llawer o fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i weithio yn y diwydiant trwy gysylltiadau a wnaed drwy’r tîm.

    Ceir ffocws galwedigaethol i gynnwys y rhaglen, ac mae’n defnyddio astudiaethau achos go iawn o sefydliadau cyfredol. Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i rannu eu profiad gwaith eu hunain a chymhwyso eu gwybodaeth a’u sgiliau mewn ffyrdd creadigol ac arloesol.