Y Gyfraith a Throseddeg (Llawn amser) (BA Anrh)
Ydych chi’n barod i blymio i fyd hynod ddiddorol y Gyfraith a Throseddu? Bydd y radd hon yn eich helpu i ddeall y system gyfreithiol a sut mae’n gweithio o fewn cymdeithas. Byddwch yn dysgu am y system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys y prif sefydliadau dan sylw, a’r rolau amrywiol y gallech eu dilyn yn y maes hwn.
Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar adeiladu eich gwybodaeth am system gyfreithiol Lloegr a sylfeini gwybodaeth gyfreithiol. Byddwch hefyd yn archwilio agweddau gwleidyddol, seicolegol a chymdeithasol ar droseddeg, gan roi dealltwriaeth eang i chi o sut mae cyfreithiau’n cael eu gwneud a’u cymhwyso. Mae hyn yn hanfodol i unrhyw un sy’n dymuno gweithio mewn meysydd fel plismona, carchardai, y gwasanaeth prawf, cyfiawnder ieuenctid neu unrhyw agwedd ar y system cyfiawnder troseddol.
Gydol eich astudiaethau, byddwch yn datblygu offer dadansoddi beirniadol i werthuso troseddu, cyfiawnder, a chosbi. Mae hyn yn cynnwys deall sut mae polisïau’n esblygu mewn ymateb i droseddu a dysgu am strategaethau atal troseddu ac ymateb i droseddu. Byddwch hefyd yn astudio canlyniadau cyfreithiol troseddu, gan gael mewnwelediad i droseddu cenedlaethol a rhyngwladol.
Un o uchafbwyntiau’r cwrs hwn yw ei bwyslais ar sgiliau ymarferol. Byddwch yn gwella’ch galluoedd ymchwil, dehongli a gwerthuso beirniadol. Mae’r sgiliau cyfreithiol ymarferol hyn yn amhrisiadwy p’un a benderfynwch ddod yn gyfreithiwr neu ddilyn rolau gyrfa eraill yn y system cyfiawnder troseddol.
Mae’r radd hon hefyd yn darparu dealltwriaeth drwyadl o ddamcaniaethu troseddegol. Byddwch yn astudio dimensiynau hanesyddol a gwleidyddol y gyfraith, yn ogystal â’r dimensiynau cymdeithasol, economaidd, a moesegol. Bydd y dull cynhwysfawr hwn yn caniatáu i chi weld effaith troseddu ar gymdeithas a deall sut caiff ymatebion cymdeithasol i droseddu eu llunio.
Addysgir y cwrs gan academyddion ac ymarferwyr profiadol, gan sicrhau eich bod yn cael addysg a mewnwelediad o ansawdd uchel gan y rheini sy’n gweithio yn y maes. Byddwch yn clywed hefyd gan lunwyr polisïau ac arbenigwyr eraill, gan ddarparu safbwynt cytbwys ar y gyfraith a throseddeg. Byddwch yn dysgu i wneud eich ffordd drwy sefyllfaoedd cyfreithiol cymhleth a chymhwyso eich gwybodaeth i broblemau’r byd go iawn, gan eich gwneud yn ased gwerthfawr mewn unrhyw yrfa yn y gyfraith neu gyfiawnder troseddol.
I grynhoi, mae’r BA (Anrh) Y Gyfraith a Throseddeg wedi’i llunio i’ch paratoi am ystod eang o yrfaoedd yn y sectorau cyfreithiol a chyfiawnder troseddol. P’un a oes diddordeb gennych mewn dadansoddi ymddygiad troseddol, polisi cyhoeddus, llywodraethu, neu ddod yn gyfreithiwr wrth ei waith, mae’r radd hon yn cynnig y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i lwyddo. Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych ddealltwriaeth eang o’r gyfraith a byddwch yn barod i wynebu’r heriau a’r cyfleoedd yn y maes deinamig hwn.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein hathroniaeth dysgu ac addysgu’n canolbwyntio ar ddarparu dealltwriaeth gynhwysfawr o’r gyfraith a throseddeg drwy gyfuniad o wybodaeth ddamcaniaethol a chymhwyso ymarferol. Ein nod yw datblygu meddwl yn feirniadol, sgiliau datrys problemau, a gwerthfawrogiad manwl o gymhlethdodau’r systemau cyfreithiol a chyfiawnder troseddol.
Mae’r cwrs hwn yn cyfuno astudio Troseddeg lle bydd y myfyriwr yn edrych ar droseddu, pam mae pobl yn troseddu, beth sy’n atal pobl rhag troseddu, plismona troseddu a’r system gosbi cyfreithiol, â sylfaen o egwyddorion cyfreithiol megis Cyfraith Contract, Camweddau Cyhoeddus, Eiddo, a Throsedd.
Yn y flwyddyn gyntaf, cewch eich cyflwyno i sylfeini gwybodaeth gyfreithiol a damcaniaethau troseddegol. Byddwch yn astudio Cyfraith Trosedd, yn dysgu am y broses gyfreithiol, ac yn archwilio’r ddeinameg gymdeithasol, wleidyddol, ac ymddygiadol yn y maes hwn. Mae’r flwyddyn sylfaen hon yn rhoi’r offer dadansoddi hanfodol i chi a dealltwriaeth o gysyniadau cyfreithiol allweddol.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Mae’r ail flwyddyn yn adeiladu ar eich gwybodaeth sylfaenol trwy ymchwilio’n ddyfnach i ddeall trosedd, cyfiawnder a chosb, a chanlyniadau cyfreithiol trosedd. Byddwch yn archwilio cyfraith cam, contract a chyfraith teulu. Mae eleni yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau meddwl beirniadol ac ymchwil.
Gorfodol
(20 credyd)
( credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 Credydau)
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn mireinio eich dealltwriaeth o sefyllfaoedd cyfreithiol cymhleth, megis ecwiti ac ymddiriedolaethau a chyfraith eiddo. Byddwch yn ymgymryd â modylau megis trosedd a bod yn agored i niwed yn ogystal â rhyw, hil, crefydd a throsedd ac yn dysgu sut byddech yn cymhwyso eich gwybodaeth i broblemau’r byd go iawn. Mae’r flwyddyn hon yn eich paratoi am rolau gyrfa amrywiol yn y gyfraith a throseddeg.
Gorfodol
(40 credydau)
(20 Credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Course Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
96 Pwynt UCAS
-
Asesir y cwrs trwy gymysgedd o waith cwrs ysgrifenedig ac arholiadau. Mae pob modwl yn werth 20 credyd a fyddai’n cyfateb i ddau asesiad fesul modwl gyda’r hyn sydd gyfwerth ag aseiniad 2,000 o eiriau neu arholiad fesul 10 credyd.
-
Nid oes gan y cwrs hwn unrhyw gostau ychwanegol.
-
Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.
-
Mae tîm y cwrs wedi datblygu cysylltiadau agos iawn â nifer o sefydliadau proffesiynol yn y sector cyhoeddus a meysydd y gwasanaethau cyfreithiol. Mae hyn wedi caniatáu ymgynghori agos ar ddatblygu cynnwys y cwrs ac argaeledd cyfleoedd profiad gwaith unigryw.
I’r myfyrwyr hynny sy’n dymuno dilyn gyrfa gyda’r Heddlu, mae’r cwrs yn gweithio’n agos gyda Heddlu De Cymru a Heddlu Dyfed Powys ac wedi datblygu rhaglen waith gwirfoddol i’r myfyrwyr gael profiad gwerthfawr a chipolwg ar y proffesiwn.
Mae’r cwrs yn cynnwys yr opsiwn o Blismona Gweithredol sy’n ymgorffori’r Dystysgrif Gwybodaeth o Blismona (CKP).
Erbyn hyn, mae cael CKP yn ofyniad hanfodol gan sawl Heddlu cyn ymgeisio.
Bydd hyn yn rhoi’r myfyrwyr mewn sefyllfa fwy manteisiol i gael cyflogaeth yn eu dewis broffesiwn.
Mae’r cwrs yn rhoi cyfle da i fyfyrwyr a fyddai â diddordeb yn y llwybr Carlam i’r Heddlu.
Mae’r cwrs yn gweithio’n agos â sefydliadau eraill yn y sector Cyhoeddus, y mae gan bob un ohonynt adrannau cyfreithiol, a byddai’r cyfuniad o ddealltwriaeth a gwybodaeth am y sector cyhoeddus a chyfreithiol yn cael ei ystyried yn fantais ar gyfer swydd o’r fath.
Mae’r tîm wedi datblygu perthynas agos â chwmnïau cyfreithiol lleol ac yn datblygu cyfleoedd profiad gwaith a fyddai o fudd i’r myfyrwyr pe baent yn dewis parhau i astudiaethau cyfreithiol pellach.