Seiberddiogelwch a Fforenseg Digidol (Llawn Amser) (MSc)
Mae’r MSc Seiberddiogelwch a Fforenseg Digidol yn PCYDDS yn gwrs arbenigol iawn sydd wedi’i gynllunio er mwyn datblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth ym maes seiberddiogelwch sy’n tyfu’n gyflym. Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar roi’r gallu i chi ddiogelu systemau TG sefydliad rhag ymosodiadau seiber amrywiol, tra hefyd yn eich paratoi i ymchwilio ac ymateb i ddigwyddiadau o seiberdroseddu. Byddwch yn dysgu technegau hanfodol fel cynnal profion hacio, gan eich helpu i asesu gwendidau mewn systemau a diogelu rhag bygythiadau posibl.
Fel rhan o’r cwrs hwn, byddwch yn cael profiad ymarferol mewn seiberddiogelwch a fforenseg digidol trwy ddadansoddi ac ymateb i ddigwyddiadau seiber mewn amser real. Mae’r dull ymarferol hwn yn sicrhau eich bod nid yn unig yn deall cysyniadau damcaniaethol ond hefyd yn meddu ar yr hyder a’r gallu technegol i’w rhoi ar waith mewn sefyllfaoedd yn y byd go iawn. Bydd y cwrs yn eich dysgu sut i gasglu a dadansoddi tystiolaeth ddigidol, gan roi sylfaen gref ar gyfer ymchwilio i achosion o fethiant diogelwch neu droseddau digidol eraill.
Yr hyn sy’n gosod PCYDDS ar wahân yw ei phartneriaethau â’r prif werthwyr seiberddiogelwch. Fel Academi Cisco er 1999, yn bartner Academi EC-Council er 2018, ac yn rhan o Academi Seiberddiogelwch Palo Alto ac Academi Ddiogelwch Checkpoint, rydym yn cynnig cyfuniad unigryw o gwricwla gan y sefydliadau blaenllaw hyn. Mae hyn yn golygu, ochr yn ochr â’ch gradd, y byddwch hefyd yn barod ar gyfer ardystiadau diwydiant gwerthfawr fel CEH (Haciwr Moesegol Ardystiedig), CHFI (Ymchwilydd Fforensig Hacio Cyfrifiaduron), CCNA (Cydymaith Rhwydwaith Ardystiedig Cisco), a CCSA (Gweinyddwr Diogelwch Ardystiedig Checkpoint). Gall yr ardystiadau hyn roi mantais gystadleuol i chi yn y farchnad swyddi.
Drwy gydol y rhaglen, bydd gennych fynediad at offer diogelwch rhwydwaith uwch a’r labordy rhwydweithio a seiberddiogelwch gorau yng Nghymru. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau mewn meysydd fel ymateb i ddigwyddiadau, dadansoddi maleiswedd a fforenseg digidol. P’un a ydych yn rheoli methiant diogelwch, yn casglu tystiolaeth ar gyfer ymchwiliad fforensig, neu’n cynnal ymchwil fanwl ar gyfer eich traethawd hir, mae’r cwrs yn sicrhau eich bod wedi’ch paratoi’n dda ar gyfer heriau cymhleth y byd digidol.
Mae’r rhaglen hon yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd am gyfuno arbenigedd technegol â sgiliau ymarferol, gan ddarparu sylfaen gref ar gyfer gyrfaoedd mewn seiberddiogelwch a fforenseg digidol.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Wrth wraidd y rhaglen MSc Seiberddiogelwch a Fforenseg Digidol mae dull rhyngweithiol, ymarferol o ddysgu. Mae ein hathroniaeth yn pwysleisio profiad ac ymchwil ymarferol, gan sicrhau bod myfyrwyr yn ymgysylltu’n ddwfn ag elfennau academaidd a diwydiannol y meysydd hyn. Mae’r cyfuniad hwn o wybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau cymhwysol yn paratoi graddedigion ar gyfer yr heriau byd go iawn y byddan nhw’n eu hwynebu mewn seiberddiogelwch a fforenseg digidol.
Drwy gydol y flwyddyn, bydd myfyrwyr yn datblygu eu harbenigedd mewn meysydd craidd fel diogelwch rhwydwaith, profi hacio, fforenseg digidol ac ymateb i ddigwyddiadau. Mae’r rhaglen wedi’i seilio ar bynciau blaengar, gan gynnwys dadansoddi maleiswedd, ymosodiadau seiber a chasglu tystiolaeth ddigidol. Mae’r cwrs hefyd yn pwysleisio gwaith ymarferol, gan arwain at draethawd hir yn seiliedig ar ymchwil.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(60 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Course Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Gradd anrhydedd 2:2 
-
neu gyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS.
Llwybrau mynediad amgen 
-
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch (Tyst. Ôl-radd). Dyma ran gyntaf y radd Meistr lawn.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau Tyst. Ôl-radd yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i weddill y radd Meistr. &²Ô²ú²õ±è;
Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch gyflawni’n raddau roeddech eu hangen i gael lle ar y radd hon. &²Ô²ú²õ±è;
Cyngor a Chymorth Derbyn 
I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg 
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. &²Ô²ú²õ±è;
-
-
Caiff gwaith myfyrwyr ei asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, portffolio, arholiadau ymarferol mewn labordy ac arholiadau ysgrifenedig.
Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modiwlau gynnwys un neu fwy o ddarnau asesu a gafodd eu gosod a’u cwblhau yn ystod y modiwl.
Mae gwaith prosiect yn cael ei asesu trwy adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad llafar. Mae’n ofynnol i’r myfyriwr ymchwilio a pharatoi prosiect unigol/traethawd hir sylweddol ar gyfer Rhan 2.
Gall myfyrwyr prifysgol sydd ddim yn gallu cwblhau pob agwedd ar Ran 1 yn llwyddiannus fod yn gymwys i gael Diploma Ôl-raddedig (120 credyd) neu Dystysgrif Ôl-raddedig (60 credyd).
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai y bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modiwlau fel y prosiect mawr ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni fydd yn cael unrhyw effaith ar y radd derfynol.
Efallai y bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n dymuno dilyn hyfforddiant ardystio Cisco neu’r EC-Council dalu £150 (CCNP) neu £300 (tystysgrif yr EC-Council).
Byddai myfyrwyr sy’n dymuno dilyn ardystiad diwydiant Cisco a’r EC-Council yn wynebu costau ychwanegol er mwyn talu ffioedd yr arholiad.
Rhaid archebu holl arholiadau Cisco trwy ganolfan brofi Pearson VUE. Trwy gwblhau cwrs Cisco Academy yn llwyddiannus efallai y byddwch yn gymwys i gael taleb ar gyfer gostyngiad.
Gellir sefyll arholiad ardystio’r EC-Council yn y Brifysgol gyda ffi ychwanegol o £300 yr arholiad.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Bydd graddedigion yn ymgymryd ag amrywiaeth o dasgau sy’n gysylltiedig â rhwydweithio mewn sefydliadau a byddant yn gallu datblygu datrysiadau soffistigedig i broblemau rhwydweithio a diogelwch.
Efallai y bydd gofyn iddynt reoli timau o gymdeithion/peirianwyr rhwydwaith o fewn amgylchedd menter naill ai ar brosiect bach neu ar raddfa fawr.
Er mwyn cyflawni hyn, bydd angen tipyn o ddealltwriaeth dechnegol o’r materion sy’n codi a gwerthfawrogi pa mor gymhleth yw’r tasgau.
Mewn BBaCh, uwch aelod o’r staff datblygu sydd â dyletswyddau datblygu a rheoli sy’n aml yn cyflawni’r rôl hon ac agwedd bwysig o’r rhaglen hon yw datblygu’r sgiliau rheoli angenrheidiol at y diben hwn.
Fel uwch beiriannydd neu reolwr rhwydwaith, byddai disgwyl i’r myfyriwr graddedig ddangos ei fenter a defnyddio ei sgiliau ymchwil i addasu’n gyflym i ofynion technoleg newydd.
Mae’n debygol y byddai graddedigion yn chwilio am swyddi fel:
- Peirianwyr Rhwydwaith
- Uwch Beirianwyr Rhwydwaith
- Peirianwyr Cefnogi Rhwydwaith
- Peirianwyr Diogelwch
- Peirianwyr Systemau
- Arbenigwyr Rhwydwaith
- Dadansoddwyr Rhwydwaith/Diogelwch
- Ymgynghorwyr Rhwydwaith/Diogelwch
- Rheolwyr Rhwydwaith