ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Cyfrifiadura (Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiber Ddiogelwch) (Llawn amser) (BSc Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
104 o Bwyntiau UCAS

Mewn byd mwyfwy cydgysylltiedig, mae diogelu asedau digidol a sicrhau cyfathrebu diogel yn fwy pwysig nag erioed.  Mae ein gradd BSc Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch wedi’i llunio i roi i chi’r sgiliau hanfodol i adeiladu, diogelu, a rheoli seilweithiau rhwydwaith cadarn gan eu hamddiffyn rhag seiberfygythiadau.  Mae’r rhaglen yn pwysleisio’r cydadwaith hollbwysig rhwng rhwydweithio a seiberddiogelwch, gan eich paratoi am yrfa ddeinamig a boddhaus ar flaen y gad ym maes diogelu digidol. 

Gan ganolbwyntio ar dri maes craidd, sef rhwydweithio, diogelwch, a gwaith fforensig, mae’r rhaglen hon yn cyfuno hyfforddiant ymarferol â gwybodaeth ddamcaniaethol.   Byddwch yn datblygu arbenigedd mewn dylunio a chynnal a chadw seilweithiau rhwydwaith cymhleth gan feistroli’r egwyddorion a’r offer sy’n angenrheidiol i ddiogelu’r systemau hyn rhag seiberymosodiadau.  Gyda rhwydweithio’n asgwrn cefn i seiberddiogelwch, byddwch yn dysgu sut mae dealltwriaeth ddofn o bensaernïaeth rhwydwaith yn hanfodol er mwyn dynodi mannau gwan, atal tor ddiogelwch, ac ymateb yn effeithiol i ddigwyddiadau. 

Dan arweiniad academyddion sydd â phrofiad helaeth yn y diwydiant, mae’r cwrs hwn yn adlewyrchu’r tueddiadau a’r safonau diweddaraf ym maes seiberddiogelwch.  Byddwch yn elwa o’n cysylltiadau cryf â diwydiant, yn cynnwys ein partneriaethau â sefydliadau blaenllaw megis Cisco ac EC-Council, gan sicrhau eich bod yn cael mynediad i nifer o dystysgrifau perthnasol megis y canlynol: Llwybro a Switsio gan CCNA, Seiberweithrediadau gan CCNA, Ymchwilydd Gwaith Fforensig Hacio (CHFI) gan EC-Council.  Mae’r cymwysterau hyn yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan gyflogwyr a byddant yn rhoi mantais gystadleuol i chi yn y farchnad swyddi. 

Mae’r rhaglen yn pwysleisio profiad ymarferol, gan ganiatáu i chi gymhwyso beth rydych yn ei ddysgu mewn sefyllfaoedd yn y byd go iawn.  Byddwch yn gweithio mewn labordai seiberddiogelwch o’r radd flaenaf gyda thechnolegau arloesol, lle byddwch yn efelychu ymosodiadau rhwydwaith, yn datblygu systemau diogel, ac yn ymchwilio i seiberddigwyddiadau.  Bydd y profiadau trochol hyn yn eich paratoi i fynd i’r afael â’r heriau sy’n dod i’r amlwg ym maes diogelwch rhwydweithiau a gwaith fforensig, gan sicrhau eich bod yn graddio â’r sgiliau technegol angenrheidiol i gael effaith ar y maes ar unwaith. 

Bydd eich addysg yn cwmpasu sbectrwm eang o bynciau seiberddiogelwch, o ddylunio rhwydweithiau diogel i ddadansoddi fforensig ar dor ddiogelwch, gan ddatblygu eich galluoedd i ddatrys problemau’n barhaus.  Mae’r rhaglen hefyd yn darparu sylfaen gref mewn gweinyddu rhwydweithiau a phensaernïaeth diogelwch, gan eich galluogi i asesu risgiau, gweithredu mesurau diogelu, a rheoli rhwydweithiau diogel i unrhyw sefydliad. 

Erbyn i chi raddio, byddwch wedi’ch paratoi’n llawn i ddilyn gyrfa lwyddiannus mewn gweinyddu rhwydweithiau, dadansoddi seiberddiogelwch, neu ymateb i ddigwyddiadau.  P’un a ydych yn dymuno amddiffyn seilweithiau hollbwysig, rheoli diogelwch TG i sefydliadau mawr, neu ymchwilio i seiberdroseddu, bydd y radd hon yn darparu’r wybodaeth a’r profiad ymarferol i’ch helpu i lwyddo.  Mae ymuno â’r rhaglen hon yn golygu cymryd y cam cyntaf tuag at ddod yn arweinydd ym maes hollbwysig seiberddiogelwch sy’n tyfu’n gyflym.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
233S
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
104 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Wedi’i addysgu gan staff sydd ag ardystiadau academaidd a diwydiannol perthnasol.
02
Ceir profiad ymarferol gyda llwybryddion, switsys, waliau tân a meddalwedd Cisco a ddefnyddir o fewn y diwydiant rhwydweithio a diogelwch.
03
Wedi’i gyfuno ag ardystiad Llwybro a Switsio CCNA y mae galw mawr amdano.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein hathroniaeth yn cyfuno cymhwysiad ymarferol â thrylwyredd academaidd, gan sicrhau eich bod yn cael profiad ymarferol a gwybodaeth ddamcaniaethol. Mae’r dull hwn yn eich paratoi ar gyfer heriau go iawn mewn Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch, gan roi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer gyrfa lwyddiannus.

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn canolbwyntio ar hanfodion technolegau rhwydweithio a datblygu meddalwedd. Byddwch yn dysgu am ddadansoddi data, egwyddorion delweddu sylfaenol, ac yn cael cyflwyniad i waith fforensig. Mae’r wybodaeth sylfaenol hon yn gosod y llwyfan ar gyfer pynciau uwch yn y blynyddoedd dilynol.

Gorfodol 

Dadansoddi a Delweddu Data

(20 credydau)

Datblygu Meddalwedd

(20 credydau)

Pensaernïaeth a Systemau Gweithredu Cyfrifiadurol

(20 credydau)

Cyflwyniad i Gysyniadau Gwe a Chronfeydd Data

(20 credydau)

Hanfodion Rhwydwaith a Seiberddiogelwch

(20 credydau)

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Mae’r ail flwyddyn yn ymchwilio’n ddyfnach i weinyddu rhwydwaith a seilwaith rhwydwaith. Byddwch yn gwneud tasgau ymarferol, gan wella’ch sgiliau a’ch gwybodaeth. Mae’r ail flwyddyn hefyd yn cyflwyno mesurau diogelwch mwy cymhleth a thechnegau fforensig, gan eich paratoi ar gyfer heriau’r diwydiant.

Gorfodol 

Systemau a Gwasanaethau Gweithredu Rhwydwaith

(20 credydau)

Rhwydweithio Uwch

(20 credydau)

Rhaglenadwyedd Rhwydweithiau

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Diogelwch a Chydymffurfiaeth Data

(20 credydau)

Fforenseg Cyfrifiadurol

(20 credydau)

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn canolbwyntio ar bynciau uwch mewn Seiberddiogelwch a datrysiadau rhwydweithio. Byddwch yn gweithio ar brosiect annibynnol mewn maes sydd o ddiddordeb i chi. Mae’r drydedd flwyddyn yn pwysleisio cymhwyso tueddiadau a thechnolegau sy’n dod i’r amlwg ac yn eich paratoi ar gyfer rolau proffesiynol mewn gweinyddu rhwydwaith a seiberddiogelwch.

Gorfodol 

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Tueddiadau sy'n dod i'r Amlwg

(20 credydau)

Switsio, Llwybro a Di-wifr

(20 credydau)

Rhwydweithio Menter, Diogelwch ac Awtomatiaeth

(20 credydau)

Ymchwil Seiliedig ar Ddiwydiant

(20 credydau)

Seiberddiogelwch Uwch

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 104 pwynt tariff UCAS (260 cynt) gan gynnwys:

    • Dwy radd C Safon Uwch/AVCE; neu
    • Diploma Cenedlaethol BTEC graddau Pas, Pas, Pas; neu
    • Tystysgrif Genedlaethol BTEC graddau Teilyngdod, Pas; neu
    • NVQ Lefel 3 - Pas

    Sylwer y dylai/gall pynciau Lefel Uwch gynnwys TGCh, Cyfrifiadura, Mathemateg, Ffiseg neu debyg.

    Mae TGAU Mathemateg Gradd 4 (C cynt) neu uwch yn ddymunol.

    Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau. 

  • Nod yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yw cynhyrchu graddedigion sy’n helpu i siapio dyfodol seilweithiau rhwydwaith. Mae cynnwys y cwrs yn gyfoes ac wedi’i lunio er mwyn annog cyflogadwyedd drwy gysylltiadau agos gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol.

    Caiff myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o asesiadau ymarferol yn y labordy, aseiniadau, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau. Yn aml, caiff modylau eu hasesu drwy aseiniadau, neu aseiniad ac arholiad. Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modylau gynnwys gosod a chwblhau un neu fwy darn o waith cwrs yn ystod y modwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu gan adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.

    Anogir myfyrwyr i ddefnyddio ein cysylltiadau gyda Chynghrair Meddalwedd Cymru a Go Wales i weithio ar gynlluniau masnachol ar gyfer eu modwl Prosiect Mawr. Mae Go Wales yn darparu’r cyfle i fynd ar leoliadau gwaith â chyflog gyda busnesau lleol.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis prif brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r rhaglen yn pwysleisio pedair thema allweddol o fewn Rhwydweithio Cyfrifiadurol: llwybro a switsio, technolegau rhwydwaith sy’n dod i’r amlwg, dylunio rhwydweithiau a diogelwch.

    Bydd graddedigion yn gallu ymgymryd ag ystod o dasgau cysylltiedig â rhwydweithio mewn sefydliadau ac yn gallu datblygu datrysiadau soffistigedig i broblemau rhwydweithio.

    Rhagwelir bod graddedigion ym maes rhwydweithiau cyfrifiadurol (RhC) yn gallu dod o hyd i waith mewn nifer o wahanol feysydd o RhC, gan gynnwys llwybro a switsio, dylunio rhwydweithiau a diogelwch.

    Disgwylir i raddedigion chwilio am swyddi fel:

    • Gweinyddwyr Rhwydwaith
    • Cymdeithion Rhwydwaith
    • Peirianwyr Rhwydwaith
    • Gweinyddwr System

Mwy o gyrsiau Cyfrifiadura

Chwiliwch am gyrsiau