ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Gwyddor Data a Dadansoddeg (Llawn Amser) (MSc)

Abertawe
1 Blwyddyn

Mae’r rhaglen MSc Gwyddor Data a Dadansoddeg yn PCYDDS Abertawe yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ffynnu mewn byd sy’n newid yn barhaus drwy dechnoleg. Wrth i dechnoleg ddatblygu, mae’r galw am weithwyr proffesiynol sy’n deall gwyddor data, dadansoddeg data, a’r defnydd o ddata mawr yn parhau i dyfu. Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth uwch y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt mewn meysydd fel busnes, llywodraeth, a llawer mwy.

Ffocws allweddol y rhaglen hon yw dysgu gydol oes. Byddwch nid yn unig yn dysgu am gyflwr presennol y diwydiant, ond byddwch hefyd yn datblygu’r gallu i ddiweddaru eich sgiliau drwy gydol eich gyrfa.  Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i’ch helpu i addasu i newidiadau yn y dyfodol mewn gwyddor data a meysydd cysylltiedig, sy’n golygu y byddwch bob amser yn barod ar gyfer y cam nesaf yn eich taith broffesiynol.

Yn ystod yr MSc, byddwch yn astudio meysydd fel dysgu peirianyddol, cloddio data, rhaglennu a phrosesu a modelu data. Byddwch yn dysgu sut i weithio gyda data strwythuredig ac anstrwythuredig, a sut i gael dealltwriaeth o ddata o setiau data cymhleth. Mae’r cwrs hefyd yn cynnwys cyfrifiadura cwmwl a’i ddefnydd yn y byd modern, gan roi profiad ymarferol i chi gyda’r offer a’r technolegau a ddefnyddir yn y maes hwn.

Mae cyfle hefyd i gael cymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant fel ardystiad SAS, a fydd yn eich helpu i ragori yn y farchnad swyddi a gwella eich cyflogadwyedd fel unigolyn graddedig. Mae’r MSc yn cynnwys opsiwn lleoliad gwaith yn y diwydiant, sy’n eich galluogi i ddefnyddio’r wybodaeth a gafwyd yn ystod eich astudiaethau mewn lleoliadau byd go iawn, gan eich gwneud yn fwy apelgar i ddarpar gyflogwyr.

P’un a oes gennych ddiddordeb mewn gweithio ym maes llywodraeth a busnes, neu archwilio technolegau blaengar fel rhwydweithiau niwral, mae’r cwrs hwn yn cynnig sylfaen gadarn ar gyfer ystod o lwybrau gyrfa. Gan ganolbwyntio ar ragoriaeth ymchwil, mae’r MSc hefyd yn rhoi’r opsiwn i fyfyrwyr wneud gwaith academaidd pellach os ydynt yn dymuno.

Erbyn i chi gwblhau’r rhaglen hon, bydd gennych yr arbenigedd i gyfrannu at sectorau sy’n dibynnu ar wyddor data, nawr ac yn y dyfodol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Blwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae’r cwrs yn cael ei addysgu gan staff sydd â chymwysterau academaidd ac yn y diwydiant.
02
Cewch brofiad ymarferol gyda'r holl galedwedd a’r feddalwedd berthnasol.
03
Byddwch yn dysgu am amrywiaeth o gysyniadau rhaglennu, delweddu data a thechnegau cloddio data’n drylwyr er mwyn datblygu datrysiadau systemau gwybodaeth soffistigedig a chymhleth.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein rhaglen MSc Gwyddor Data a Dadansoddeg wedi’i chynllunio gan ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr. Rydym yn canolbwyntio ar weithredu yn y byd go iawn, gan gyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â sgiliau ymarferol. Ein nod yw rhoi’r offer sydd eu hangen arnoch ar gyfer dysgu gydol oes, gan ganiatáu i chi gadw’n gyfredol ym myd gwyddor data a dadansoddeg sy’n datblygu’n gyflym.

Yn ystod y flwyddyn, byddwch yn datblygu sylfaen gref mewn cloddio data, delweddu data, a diogelwch data, ynghyd â rhaglennu ystadegol uwch. Bydd y sgiliau hyn yn eich helpu i archwilio, prosesu a dadansoddi data cymhleth. Byddwch hefyd yn astudio systemau dysgu peiriannau a chronfeydd data, gan ddefnyddio’r technegau hyn mewn senarios y byd go iawn. Drwy gydol y cwrs, mae pwyslais ar ddulliau ymchwil a datblygiad proffesiynol, gan arwain at brosiect meistr cynhwysfawr. Mae’r prosiect hwn yn eich galluogi i ddangos eich arbenigedd drwy fynd i’r afael â phroblem sylweddol sy’n ymwneud â data, gan eich paratoi ar gyfer rolau mewn diwydiant neu ymchwil pellach.

Systemau Cronfa Ddata

(20 credydau)

Cloddio a Delweddu Data

(20 credydau)

Rhaglennu Ystadegol Uwch

(20 credydau)

Cymhwyso Dysgu Peirianyddol

(20 credydau)

Deallusrwydd Artiffisial

(20 credydau)

Diogelwch, Llywodraethu a Chydymffurfiaeth Data

(20 credydau)

Prosiect Gradd Meistr

(60 credydau)

tysteb

CISCO logo: Networking Academy Partner 2025.

Mae’r Drindod Dewi Sant yn falch o fod yn Bartner Cisco Premier+, gan gydnabod ein harbenigedd mewn rhwydweithio a seiberddiogelwch. Mae’r bartneriaeth hon yn rhoi mynediad i’n myfyrwyr at dechnoleg sy’n arwain y diwydiant, hyfforddiant ymarferol, ac ardystiadau a gydnabyddir yn fyd-eang, gan wella eu rhagolygon gyrfa yn y sector TG. Fel Partner Premier+, mae’r Drindod Dewi Sant yn elwa o adnoddau unigryw, cymorth arbenigol a chydweithrediadau ymchwil, gan sicrhau ein bod yn parhau i fod ar flaen y gad o ran arloesi digidol. 

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai y bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modiwlau fel y Prosiect Mawr ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni fydd yn cael unrhyw effaith ar y radd derfynol. 

  • Caiff gwaith myfyrwyr ei asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, portffolio, arholiadau ymarferol mewn labordy ac arholiadau ysgrifenedig.

    Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modiwlau gynnwys un neu fwy o ddarnau asesu a gaiff eu gosod a’u cwblhau yn ystod y modiwl.

    Mae gwaith prosiect yn cael ei asesu trwy adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad llafar. Mae’n ofynnol i’r myfyriwr ymchwilio a pharatoi prosiect unigol sylweddol ar gyfer Rhan 2. 

    Gall myfyrwyr prifysgol sydd ddim yn gallu cwblhau pob agwedd ar Ran 1 yn llwyddiannus fod yn gymwys i gael Diploma Ôl-raddedig (120 credyd) neu Dystysgrif Ôl-raddedig (60 credyd). 

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai y bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modiwlau fel y Prosiect Mawr ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni fydd yn cael unrhyw effaith ar y radd derfynol. 

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae myfyrwyr ar y rhaglen hon yn datblygu ystod eang o sgiliau technegol a byddant yn astudio nifer o bynciau sy’n ymwneud â systemau gwybodaeth.

    Mae’r rhaglen yn ymdrin â thair thema yn y sector cyfrifiadura - Rheoli Data, Profiad y Defnyddiwr a Thechnolegau yn y sector cyfrifiadura.

    Rhoddir pwyslais sylweddol ar reoli data a gweithredu cymwysiadau ar gyfer trin gwybodaeth, gan gynnwys systemau cronfa ddata a chymwysiadau gwe.

    Yn ogystal â hynny, byddai graddedigion yn gallu arwain timau a rheoli prosiectau.

    Mae’n debygol y byddai graddedigion yn chwilio am swyddi fel:

    • Rheolwr prosiect (ym maes Cyfrifiadura)
    • Dadansoddwr data
    • Gweinyddwr cronfa ddata
    • Datblygwr rhaglen
    • Datblygwr gwefannau

Mwy o gyrsiau Cyfrifiadura

Chwiliwch am gyrsiau