ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Prentisiaeth mewn Cyfrifiadura (Systemau Data a Gwybodaeth) (BSc Anrh)

Abertawe
4 blynedd
Lefel 3

Mae systemau cronfa ddata wrth wraidd sefydliadau modern, gan ddarparu’r offer i reoli, dadansoddi a defnyddio data’n effeithiol. Mae’r brentisiaeth hon wedi’i chynllunio ar gyfer y rhai sy’n awyddus i ddyfnhau eu harbenigedd a symud eu gyrfaoedd ymlaen. Mae’n cyfuno profiad yn y gweithle Ã¢ dysgu uwch i’ch paratoi ar gyfer heriau dylunio a rheoli systemau gwybodaeth soffistigedig.

Yn brentis, byddwch yn datblygu’r wybodaeth dechnegol a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i greu datrysiadau arloesol a yrrir gan ddata. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar gylch bywyd llawn systemau gwybodaeth: dylunio, gweithredu, profi a chynnal meddalwedd a chronfeydd data sy’n bodloni anghenion byd go iawn. Byddwch yn cyfoethogi eich medrau datrys problemau wrth ddysgu sut i fynd i’r afael Ã¢heriau cymhleth trwy ddatrysiadau effeithlon, a allai datblygu’n gyflym.

Erbyn diwedd y cwrs, nid yn unig y bydd gennych ddealltwriaeth fanylach o egwyddorion cyfrifiadura ond hefyd y sgiliau i ddylunio a chynnal systemau ansawdd uchel yn rhan o dîm cydweithredol. Mae galw mawr am y sgiliau hyn yn y diwydiant, gan roi mantais gystadleuol i chi wrth i chi ddatblygu eich gyrfa.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Prentisiaethau
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
4 blynedd
Gofynion mynediad:
Lefel 3

Ffioedd wedi eu talu gan Lywodraeth Cymru.  Dim cost i’r Prentis nac i’r cyflogwr.

Pam dewis y cwrs hwn?

01
Mae prentisiaethau’n llwybr dysgu gydol oes heb unrhyw derfyn oedran, felly ar yr amod nad ydych mewn addysg amser llawn a thros 18 oed gallwch wneud cais.
02
Mae prentisiaeth gradd yn dechrau ar Lefel 4, fodd bynnag, bydd profiad/cymwysterau blaenorol perthnasol yn cael eu hystyried. Byddwch yn astudio’n rhan-amser o amgylch eich ymrwymiadau gwaith, a bydd y rhaglen yn para 2-4 blynedd.
03
Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu gan y Llywodraeth a bydd gennych hawl i gyflog, gwyliau statudol ac amser i ffwrdd â thâl i astudio.
04
Rhaid i brentisiaid fod mewn gwaith perthnasol, ond mae gradd-brentisiaeth yn addas ar gyfer pob sector o ddiwydiant a busnesau o bob maint.
05
Rhaid i brentisiaid fod yn gymwys i weithio yn y DU a derbyn isafswm cyflog o £16,770 y flwyddyn o leiaf.
06
Gallwch hefyd wneud cais os ydych yn hunangyflogedig yng Nghymru.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd myfyrwyr y rhaglen hon yn datblygu arbenigedd o ran dylunio, creu, gweinyddu, a rhaglennu cronfeydd data i adeiladu cymwysiadau a yrrir gan ddata.

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio ystod eang o bynciau a rennir ar draws y Portffolio Cyfrifiadura.Mae’r modylau sylfaenol hyn yn cwmpasu egwyddorion cyfrifiadura allweddol ac yn rhoi i chi’r hyblygrwydd i drosglwyddo i lwybrau eraill os bydd eich diddordebau’n datblygu.

Yn ystod eich ail flwyddyn, mae’r ffocws yn symud i fodylau mwy arbenigol sydd wedi’u teilwra i weddu i’ch dewis lwybr. Bydd y rhain yn dyfnhau eich dealltwriaeth o’r cysyniadau ac arferion craidd sydd wrth wraidd eich rhaglen.

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd Ã¢ phrosiect mawr sy’n dod Ã¢â€™ch astudiaethau i ben. Mae’r prosiect hwn yn eich galluogi i gymhwyso’ch gwybodaeth a sgiliau i her byd go iawn, gan ddangos eich gallu i ddarparu datrysiadau arloesol ac ymarferol.

Dadansoddi a Delweddu Data

(20 credydau)

Datblygu Meddalwedd

(20 credydau)

Pensaernïaeth a Systemau Gweithredu Cyfrifiadurol

(20 credydau)

Cyflwyniad i Gysyniadau Gwe a Chronfeydd Data

(20 credydau)

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Hanfodion Rhwydweithiau a Seiberddiogelwch

(20 credyd)

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Systemau a Gwasanaethau Gweithredu Rhwydwaith

(20 credydau)

Diogelwch a Chydymffurfiaeth Data

(20 credydau)

Rhaglennu Ystadegol

(20 credydau)

Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol

(20 credydau)

Datblygu Cymwysiadau Cronfeydd Data

(20 credyd)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Deallusrwydd Artiffisial a Dysgu Peirianyddol

(20 credydau)

Peirianneg Defnyddioldeb

(20 credydau)

Warysu Data a Chloddio Data

(20 credydau)

Dewisol

Tueddiadau sy'n dod i'r Amlwg

(20 credydau)

Ymchwil Seiliedig ar Ddiwydiant

(20 credydau)

testimonial

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Saesneg a Mathemateg lefel 2 (TGAU A*-C, 4-8 neu gyfwerth) a chymhwyster lefel 3 (Safon Uwch, BTech, Diploma neu gyfwerth) yw’r gofyniad mynediad gofynnol arferol. 

  • Saesneg a Mathemateg lefel 2 (TGAU A*-C, 4-8 neu gyfwerth) a chymhwyster lefel 3 (Safon Uwch, BTech, Diploma neu gyfwerth) yw’r gofyniad mynediad gofynnol arferol. 

Mwy o gyrsiau Cyfrifiadura

Chwiliwch am gyrsiau