ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Sgiliau Cyfrifiadura ar gyfer y Gweithle (Llawn amser) (CertHE)

Llundain
1 Blynedd

Ydych chi’n barod i ddatblygu eich sgiliau cyfrifiadura a chymryd y cam nesaf tuag at yrfa mewn technoleg? Mae’r cwrs Sgiliau Cyfrifiadura ar gyfer y Gweithle (Llawn Amser) yn PCYDDS Llundain yn cynnigTystysgrif Addysg Uwch i chi sy’n canolbwyntio ar ddysgu ymarferol a’i roi ar waith yn y byd go iawn. Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i’ch helpu i fagu hyder, gweithio’n effeithiol ar eich pen eich hun a gydag eraill, a datblygu’r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw yn y farchnad swyddi heddiw.

Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio’n bennaf ar roi’r sgiliau yn y gweithle i chi y gellir eu trosglwyddo’n uniongyrchol i unrhyw leoliad proffesiynol. Byddwch yn dysgu sut i fynd i’r afael â heriau yn uniongyrchol, sut i gynllunio’ch gwaith o’r dechrau i’r diwedd, a sut i ddatblygu sgiliau datrys problemau a fydd yn eich helpu i lwyddo mewn amrywiaeth o rolau. Boed yn nodi problemau cyn iddynt godi neu ddod o hyd i atebion pan fyddant yn codi, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddatblygu’r meddylfryd sydd ei angen i ffynnu mewn amgylchedd gwaith prysur.

Drwy gydol y cwrs, byddwch yn canolbwyntio ar symud ymlaen gyda’ch gyrfa a datblygu eich gyrfa, gan sicrhau eich bod nid yn unig yn cael y sgiliau technegol sydd eu hangen ar gyfer y gweithle ond hefyd yn deall sut i dyfu a datblygu yn eich maes dewisol. Mae’r rhaglen yn rhoi pwyslais cryf ar ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy, y gellir eu defnyddio ar draws gwahanol sectorau, gan roi’r hyblygrwydd i chi ddilyn amrywiaeth o gyfleoedd gwaith ar ôl graddio.

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol os ydych chi am ailddechrau eich gyrfa, neu hyd yn oed dechrau gyrfa newydd mewn cyfrifiadura, ac mae’n rhoi cyfle gwych i adeiladu sylfaen gref mewn cyfrifiadura a fydd yn cefnogi eich uchelgeisiau gyrfa hirdymor.

Mae’r rhaglen ar agor i ymgeiswyr o’r gwledydd cartref yn unig.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Hyd y cwrs:
1 Blynedd

Ffioedd Dysgu 25/26
Cartref (Llawn-amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hon?

01
Ymuno â chymuned ddysgu a fydd yn dod yn rhwydwaith busnes am oes.
02
Gweithio gyda thiwtoriaid cyfeillgar, profiadol, ar sail ymarfer a fydd yn eich arwain trwy bob cam o'r broses.
03
Datblygu’r sgiliau a'r wybodaeth allweddol sydd eu hangen arnoch i wella eich gyrfa.

Beth fyddwch yn dysgu?

Yn  PCYDDS, rydym yn canolbwyntio ar ddysgu ymarferol. Mae’r cwrs Sgiliau Cyfrifiadura ar gyfer y Gweithle yn rhoi’r arbenigedd technegol a’r sgiliau meddwl beirniadol sydd eu hangen arnoch i ragori mewn amgylcheddau proffesiynol. Mae ein dull gweithredu yn annog datrys problemau, cydweithredu a’r gallu i ddefnyddio eich gwybodaeth yn uniongyrchol yn y gweithle.

Byddwch yn cael sgiliau cyfrifiadura craidd fel rhaglennu, rheoli system a rhwydweithio. Mae’r cwrs hefyd yn datblygu eich gallu i fynd i’r afael â heriau’r byd go iawn trwy wella’ch sgiliau datrys problemau. Byddwch yn adeiladu portffolio digidol, gan arddangos eich galluoedd ar gyfer paratoi ar gyfer cyfweliadau a datblygu gyrfa. Yn ogystal, mae’r rhaglen yn pwysleisio sgiliau trosglwyddadwy fel gwaith tîm, cyfathrebu a gwaith annibynnol, gan eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o rolau yn y diwydiant technoleg.

  • Dadansoddi a Datrys Problemau

    (20 credydau)

    Pensaernïaeth a Systemau Gweithredu Cyfrifiadurol

    (20 credydau)

    Cyflwyniad i Gysyniadau Gwe a Chronfeydd Data

    (20 credydau)

    Hanfodion Rhwydwaith a Seiberddiogelwch

    (20 credydau)

    Dysgu yn yr Oes Ddigidol

    (20 credydau)

    Datrysiadau Meddalwedd ar gyfer Busnes

    (20 credydau)

Ein pobl

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Mae’r rhaglen hon ar gael i ymgeiswyr Cartref. 

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesnega Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

     Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.  

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.  

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.  

  • Caiff myfyrwyr eu hasesu drwy gyfuniad o daflenni gwaith, sesiynau ymarferol, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau.​ Mae modiwlau’n aml yn cael eu hasesu trwy aseiniad, neu aseiniad ac arholiad Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modiwlau gynnwys un neu fwy o ddarnau o waith cwrs a gafodd eu gosod a’u cwblhau yn ystod y modiwl.

  • Caiff pob ymgeisydd ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun. Fel arfer bydd gan fyfyrwyr dan 21 oed o leiaf 1 Lefel A neu Ddiploma/Tystysgrif Genedlaethol BTEC neu gyfwerth. Ymgeiswyr HÅ·n – yn aml gellir ystyried profiad yn lle cymwysterau ffurfiol. Mae graddau yn bwysig; fodd bynnag, nid ydym yn cynnig lle ar y cwrs yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig.

    Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i’r maes pwnc y maen nhw wedi’i ddewis ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd.​ Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i’r maes pwnc y maen nhw wedi’i ddewis ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd.​ Bydd yn rhaid i’r ymgeiswyr basio asesiad gydag un o’n hacademyddion er mwyn cael eu derbyn ar y rhaglen.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio’n benodol ar gyflogadwyedd, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gallu defnyddio profiadau yn y gweithle i lywio eu hastudiaethau trwy gydol pob modiwl.​

    Mae canlyniadau penodol yn cynnwys creu portffolios digidol, lle gall myfyrwyr ddangos eu dealltwriaeth o sgiliau allweddol, damcaniaethau a methodolegau i’w defnyddio mewn cyfweliad ac i wella eu gyrfaoedd.​

Mwy o gyrsiau Cyfrifiadura

Chwiliwch am gyrsiau