ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Cyfrifiadura Cymhwysol (BSc Anrh)

Llundain
2 Blynedd Llawn Amser
Bydd angen cwblhau TystAU Lefel 4 Sgiliau Cyfrifiadura ar gyfer y Gweithle (120 credyd).

Mae’r BSc (Anrh) Cyfrifiadura Cymhwysol ar ein Campws yn Llundain yn rhaglen gyffrous a chynhwysfawr sydd wedi’i chynllunio ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno archwilio ystod eang o bynciau cyfrifiadurol. Mae’r cwrs hwn yn sicrhau eich bod yn cael dealltwriaeth ddofn o fodiwlau cyfrifiadura hanfodol craidd, ac yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ffynnu ym maes cyfrifiadureg sy’n datblygu’n barhaus.

Mae’r cwrs wedi’i strwythuro’n benodol i adeiladu ar y Dystysgrif Addysg Uwch Lefel 4 mewn Sgiliau Cyfrifiadura ar gyfer y Gweithle. Mae’r llwybr cynnnydd hwn yn galluogi myfyrwyr i wella eu gwybodaeth sylfaenol a symud ymlaen at bynciau mwy cymhleth. Erbyn diwedd y cwrs, byddwch wedi cael dealltwriaeth ddamcaniaethol a phrofiadau ymarferol, gan eich gwneud yn weithiwr cyfrifiadura proffesiynol cyflawn.

Drwy gydol y cwrs BSc (Anrh) Cyfrifiadura Cymhwysol, byddwch yn ymwneud â phynciau cyfrifiaduraamrywiol sy’n hanfodol yn y byd technolegol sydd ohoni. Mae’r cwricwlwm yn cynnwys modiwlau craiddhanfodol sy’n ymdrin â hanfodion cyfrifiadureg. Mae’r modiwlau hyn wedi’u cynllunio i roi’r sgiliau technegolcadarn sydd eu hangen arnoch ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y sector TG.

Mae’r rhaglen yn ymchwilio i feysydd pwysig fel peirianneg meddalwedd, lle byddwch yn dysgu dylunio, datblygu a chynnal systemau meddalwedd. Byddwch hefyd yn archwilio rheoli data, gan gael arbenigedd mewn trin a dadansoddi data’n effeithiol. Bydd cyrsiau ar ddeallusrwydd artiffisial (AI) yn eich cyflwyno i egwyddorion a’r defnydd o dechnolegau AI, gan eich paratoi ar gyfer dyfodol systemau deallus.

Mae rhwydweithio yn agwedd hanfodol arall sy’n cael ei gynnwys yn y cwrs, lle byddwch yn deall cymhlethdodau dylunio a rheoli rhwydweithiau. Mae’r cwricwlwm hefyd yn cynnwys seiberddiogelwch i roi’r sgiliau i chi ddiogelu systemau a data rhag bygythiadau seiber. Yn ogystal, byddwch yn astudio profiad defnyddwyr (UX) a thechnolegau’r we, gan ddysgu sut i greu profiadau digidol greddfol a diddorol.

Mae’r rhaglen yn rhoi pwyslais sylweddol ar ddysgu ymarferol. Byddwch yn cael cyfleoedd i weithio ar brosiectau byd go iawn, gan roi eich gwybodaeth ar waith i ddatrys problemau go iawn. Mae’r dull trwy brofiad hwn yn sicrhau eich bod nid yn unig yn dysgu cysyniadau damcaniaethol, ond hefyd yn cael profiad ymarferol, sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr yn y diwydiant.

Hefyd, mae’r cwrs yn cynnwys hyfforddiant mewn cyfrifiadura perfformiad uchel, gan eich galluogi i weithio gydag adnoddau cyfrifiadurol uwch. Byddwch hefyd yn dysgu am systemau cronfa ddata a chymwysiadau’r we, sy’n rhannau hanfodol o seilweithiau cyfrifiadura cyfoes.

Fel myfyriwr BSc (Anrh) Cyfrifiadura Cymhwysol ar ein campws yn Llundain, byddwch yn datblygu sgiliau arwain tîm a rheoli prosiect. Mae’r rhain yn hanfodol ar gyfer rheoli prosiectau TG ac arwain timau yn effeithiol. Mae’r cwrs hefyd yn eich annog i archwilio technolegau blaengar, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y datblygiadau diweddaraf yn y maes.

Bydd ein tiwtoriaid profiadol yn eich arwain drwy’r broses ddysgu, gan sicrhau eich bod yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen i lwyddo. Mae’r rhaglen BSc (Anrh) Cyfrifiadura Cymhwysol nid yn unig yn daith academaidd ond hefyd yn gam tuag at yrfa werth chweil yn y sector TG. Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn barod i ddilyn gyrfaoedd amrywiol yn y sector TG, gan gael effaith sylweddol ym myd technoleg.

Ymunwch â ni i gychwyn ar brofiad addysgol trawsnewidiol sy’n cyfuno elfennau ymarferol o’r rhaglen gyda’r diweddaraf mewn pynciau cyfrifiadura. Boed eich diddordeb mewn peirianneg meddalwedd, seiberddiogelwch, neu unrhyw ddisgyblaeth gyfrifiadurol arall, bydd y BSc (Anrh) Cyfrifiadura Cymhwysolyn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i chi ragori.

Mae’r rhaglen hon ar gael i ymgeiswyr Cartref yn unig.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Hyd y cwrs:
2 Blynedd Llawn Amser
Gofynion mynediad:
Bydd angen cwblhau TystAU Lefel 4 Sgiliau Cyfrifiadura ar gyfer y Gweithle (120 credyd).

Ffioedd Dysgu 25/26
Cartref (Llawn-amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae’r cynllun gradd hwn wedi’i gynllunio i greu graddedigion sy’n barod i ddechrau gweithio yn niwydiant cyfrifiadura a systemau gwybodaeth yn y DU.
02
Mae'r rhaglen yn dysgu’r cysyniadau, yr egwyddorion a’r technegau traddodiadol a geir ym meysydd datblygu meddalwedd a systemau cronfeydd data, ond gan eu cymhwyso yng nghyd-destun peiriannu systemau mawr a chymhleth.
03
Gan ddefnyddio ein cysylltiadau diwydiannol, rydym wedi datblygu strwythur rhaglen sy’n dysgu’r sgiliau diweddaraf i fyfyrwyr ac yn meithrin gwerthfawrogiad o ofynion y diwydiant.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Yn PCYDDS, mae ein hathroniaeth addysgu yn canolbwyntio ar ddysgu ymarferol a datblygu sgiliau’r byd go iawn. Ein nod yw sicrhau bod myfyrwyr yn cael dealltwriaeth gynhwysfawr o gysyniadau damcaniaethol a’u defnydd ymarferol, gan eu paratoi ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus ym maes deinamig cyfrifiadura.

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen gadarn mewn cyfrifiadureg. Byddwch yn astudio modiwlau craidd, megis Cyflwyniad i Raglennu, Systemau Cyfrifiadurol, a Datblygu’r We. Bydd y pynciau hyn yn rhoi sgiliau technegol a gwybodaeth hanfodol i chi, gan eich paratoi ar gyfer pynciau mwy datblygedig yn y blynyddoedd dilynol.

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Rheoli Busnes a'r We

(20 credydau)

Systemau a Gwasanaethau Gweithredu Rhwydwaith

(20 credydau)

Diogelwch a Chydymffurfiaeth Data

(20 credydau)

Cysyniadau Sgriptio a Rhaglennu

(20 credydau)

Datblygu Cymwysiadau Cronfeydd Data

(20 credyd)

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn ymchwilio i bynciau uwch a thechnolegau blaengar. Mae’r modiwlau’n cynnwys Seiberddiogelwch Uwch, Tueddiadau Newydd, a defnyddio peirianneg. Yn ogystal, byddwch yn ymgymryd â phrosiect annibynnol sylweddol, gan ddefnyddio eich dysgu cronnol i ddatrys problemau cymhleth ac yn darparu ffocws ar gyfer eich astudiaethau.

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Peirianneg Defnyddioldeb

(20 credydau)

Tueddiadau sy'n dod i'r Amlwg

(20 credydau)

Warysu Data a Chloddio Data

(20 credydau)

Seiberddiogelwch Uwch

(20 credydau)

testimonial

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Mae’r rhaglen hon ar gael i ymgeiswyr Cartref yn unig.

    Bydd angen cwblhau TystAU Lefel 4 Sgiliau Cyfrifiadura ar gyfer y Gweithle (120 credyd).

    Llwybrau mynediad amgen  

    Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:  

    • ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.   

    Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd.  

    • Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd baglor tair blynedd, llawn amser.  

     Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor.  

    Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon.  

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesnega Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

     Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.  

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.  

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.   

  • Caiff myfyrwyr eu hasesu drwy gyfuniad o daflenni gwaith, sesiynau ymarferol, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau. Yn aml, bydd modiwlau’n cael eu hasesu drwy aseiniad, neu drwy aseiniad ac arholiad. Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modiwlau gynnwys un neu fwy o ddarnau o waith cwrs sy’n cael eu gosod a’u cwblhau yn ystod y modiwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu drwy adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.

  • Ni fydd costau ychwanegol gorfodol y tu hwnt i’r ffioedd dysgu. 

    Dylai myfyrwyr fod yn barod i ysgwyddo rhai costau sylfaenol sy’n gysylltiedig ag astudio, fel cludiant, ac unrhyw wario ar y campws, fel prynu paneidiau, byrbrydau neu eitemau eraill.

    Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn dewis buddsoddi mewn offer i’w helpu i astudio, fel gliniaduron, er nad yw’r rhaglen yn gwneud hyn yn ofynnol Bydd unrhyw gostau y tu hwnt i ffioedd dysgu sy’n gysylltiedig ag astudio neu fywyd myfyrwyr yn ddewisol, a bydd y gost yn cael ei chyfleu’n glir i fyfyrwyr ar adeg cofrestru.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael ewch i’n hadran ar Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

  • Mae gan ein graddedigion ragolygon cyflogaeth rhagorol ym meysydd cyfrifiadura, addysgu, darlithio, TGCh, yn ogysgal â mewn rhannau eraill o’r economi. Mae ystadegau diweddar yn dangos bod y mwyafrif helaeth yn dechrau dilyn eu llwybrau gyrfa dewisol o fewn chwe mis o raddio.

    Mae ein graddedigion yn mynd i weithio ym meysydd datblygu rhaglenni, dadansoddi systemau busnes, datblygu a gweinyddu cronfeydd ddata, systemau gwybodaeth, ymgynghoriaeth a rheoli, ac ati.

Mwy o gyrsiau Cyfrifiadura

Chwiliwch am gyrsiau