ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Peirianneg Meddalwedd a Deallusrwydd Artiffisial (Llawn amser) (MSc)

Abertawe
1 Flwyddyn, llawn amser

Ydych chi’n barod i gamu i fyd lle mae technoleg yn datblygu bob eiliad? Y cymhwyster MSC Peirianneg Meddalwedd a Deallusrwydd Artiffisial (AI) yw eich allwedd i ddyfodol sy’n llawn arloesedd a chyfleoedd. Mae’r radd ôl-raddedig (MSc) hon wedi’i llunio ar gyfer y rhai sydd am fod ar flaen y gad o ran datblygiadau technolegol, gan roi’r sgiliau a’r wybodaeth i chi sy’n bwysig mewn byd sy’n newid yn gyflym.

Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddau faes allweddol: Deallusrwydd Artiffisial (AI) a Pheirianneg Meddalwedd. Byddwch yn cael gwybodaeth fanwl yn y ddau bwnc, gan ymchwilio’n ddwfn i sut mae AI yn trawsnewid diwydiannau a sut mae meddalwedd blaengar yn ysgogi’r trawsnewid hwnnw. O ddylunio systemau deallus i ddatrys problemau byd go iawn cymhleth, byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio eich sgiliau lle mae eu hangen fwyaf.

Mewn oes o alw di-baid gan y diwydiant, mae’r MSc hwn yn sicrhau nid yn unig eich bod yn cadw i fyny ond yn aros ar y blaen. Mae’r cwrs wedi’i gynllunio er mwyn eich paratoi ar gyfer heriau’r byd go iawn, gan gyfuno dealltwriaeth ddamcaniaethol ag arbenigedd ymarferol. Erbyn diwedd eich astudiaethau, byddwch chi’n barod i greu, arloesi ac arwain mewn diwydiannau sy’n galw am weithwyr proffesiynol medrus.

Ond nid yw’r cwrs hwn yn ymwneud â heddiw yn unig; mae’n eich paratoi ar gyfer yfory. Mae pwyslais cryf ar ddysgu gydol oes yn golygu y byddwch yn datblygu’r gallu i addasu wrth i dechnoleg ddatblygu, gan sicrhau bod eich sgiliau’n parhau i fod yn berthnasol drwy gydol eich gyrfa. P’un a ydych chi am ymgymryd â rolau ymchwil, datblygu neu arwain, mae’r cymhwyster MSc hwn yn eich rhoi mewn sefyllfa i ddatblygu eich gyrfa yn ystyrlon mewn marchnad swyddi gystadleuol.

Mae’r rhaglen hefyd yn darparu amgylchedd dysgu bywiog a chydweithredol lle mae arloesedd yn ffynnu. Byddwch yng nghwmni unigolion o’r un anian ac yn cael eich arwain gan arbenigwyr yn y maes, pob un yn gweithio tuag at wthio ffiniau Deallusrwydd Artiffisial (AI) a Pheirianneg Meddalwedd.

Mae graddedigion yr MSc hwn mewn sefyllfa dda i ateb y galw byd-eang am arbenigedd yn y meysydd hyn. Mae’n fwy na dim ond gradd — mae’n llwybr at lunio dyfodol technoleg a chael effaith wirioneddol ar y byd.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn, llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Byddwch yn dysgu am amrywiaeth o gysyniadau rhaglennu, delweddu data a thechnegau cloddio data’n drylwyr er mwyn datblygu datrysiadau systemau gwybodaeth soffistigedig a chymhleth.
02
Mae staff sydd â sgiliau arbennig yn diweddaru’r rhaglen yn gyson i adlewyrchu’r maes cyfrifiadura cyffrous, deinamig sy’n datblygu’n gyflym yn yr amgylchedd busnes sydd ohoni.
03
Datblygwyd strwythur y rhaglen ar y cyd â chwmnïau sy'n arwain y diwydiant.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein cwrs MSc mewn Peirianneg Meddalwedd a Deallusrwydd Artiffisial (AI) wedi’i seilio mewn athroniaeth ddysgu sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr, sy’n cydbwyso theori ac ymarfer, gan rymuso myfyrwyr i ddod yn weithwyr proffesiynol addasadwy a medrus. 

Mae ein dull gweithredu yn integreiddio profiadau ymarferol gyda gwybodaeth academaidd drwyadl, gan annog meistrolaeth dechnegol a dysgu gydol oes, gan alluogi myfyrwyr i ragori mewn meysydd technolegol sy’n datblygu.



Elfennau Craidd yr Astudio
  1. Peirianneg Meddalwedd Uwch
    Yn y modiwl hwn, mae myfyrwyr yn archwilio egwyddorion ac arferion blaengar ym maes peirianneg meddalwedd, gan ganolbwyntio ar ddylunio, datblygu a chynnal systemau cymhleth yn effeithlon. Byddwch yn dysgu defnyddio methodolegau, fframweithiau ac offer uwch i ddatrys problemau’r byd go iawn, gan eich paratoi i ddylunio atebion meddalwedd gwydn a graddadwy ar gyfer anghenion amrywiol y diwydiant.
     
  2. Cymwysiadau Dysgu Peirianyddol
    Mae myfyrwyr yn ymchwilio i sylfeini Dysgu Peirianyddol (ML), gan archwilio ei rôl wrth wneud penderfyniadau a systemau rhagfynegol ar draws diwydiannau. Trwy brosiectau ymarferol, byddwch yn cael profiad o adeiladu modelau, dadansoddi patrymau data, a datblygu algorithmau addasol, gan ddarparu set sgiliau cadarn i fodloni gofynion marchnad sy’n cael ei ysgogi gan AI.
     
  3. Deallusrwydd Artiffisial ar Waith
    Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) ar gyfer heriau’r byd go iawn, o awtomeiddio i brofiadau defnyddwyr personol Bydd myfyrwyr yn dysgu theori a defnydd AI, gan ddatblygu systemau sy’n efelychu deallusrwydd dynol. Mae’r ffocws ymarferol hwn yn eich galluogi i gyfrannu at arloesi ym maes AI ar draws sectorau gwahanol, o ofal iechyd i gyllid.
     
  4. Gwyddor Data a Data Mawr
    Mae myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i egwyddorion gwyddor data, gan archwilio dulliau o reoli a dadansoddi setiau data mawr i gael dealltwriaeth weithredadwy. Mae pwyslais yn cael ei roi ar dechnolegau data mawr a dadansoddi ystadegol, gan roi’r sgiliau i chi weithio gyda data cymhleth, sy’n hanfodol ar gyfer peirianneg meddalwedd a defnyddiau AI yn y byd sy’n canolbwyntio ar ddata heddiw.
     
  5. Moeseg a Chyfrifoldeb ym maes AI
    Mae’r modiwl hwn yn archwilio ystyriaethau moesegol ym maes Deallusrwydd Artiffisial (AI) a Pheirianneg Meddalwedd, gan gynnwys preifatrwydd data, tegwch, ac atebolrwydd. Trwy astudiaethau achos a thrafodaethau beirniadol, mae myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth gadarn o egwyddorion moesegol, gan eu paratoi i wneud penderfyniadau cyfrifol sy’n effeithio’n gadarnhaol ar gymdeithas a maes technoleg.
     
  6. Dysgu Gydol Oes a Datblygiad Proffesiynol
    Yn canolbwyntio ar ddatblygu gyrfa a dysgu gydol oes, mae’r elfen hon yn annog myfyrwyr i ddiweddaru eu gwybodaeth a’u sgiliau yn barhaus. Byddwch yn dysgu strategaethau ar gyfer twf proffesiynol, yn datblygu’r gallu i addasu ac yn deall pwysigrwydd aros yn gyfredol mewn diwydiant sy’n datblygu’n gyflym, gan sicrhau llwybr gyrfa parhaus a llwyddiannus.
Datblygu Ystwyth a DevOps Meddalwedd

(20 credydau)

Cymhwyso Dysgu Peirianyddol

(20 credydau)

Deallusrwydd Artiffisial

(20 credydau)

Egwyddorion ac Arfer Peirianneg Cwmwl

(20 credydau)

Diogelwch, Llywodraethu a Chydymffurfiaeth Data

(20 credydau)

Prosiect Gradd Meistr

(60 credydau)

Dulliau Ymchwil a Datblygiad Proffesiynol

(20 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Mae angen i ymgeiswyr feddu ar Radd Anrhydedd (2.2 neu uwch) neu gymhwyster uwch mewn Cyfrifiadureg neu ddisgyblaeth berthnasol o Brifysgol yn y DU neu sefydliad tramor cydnabyddedig neu brofiad diwydiannol mewn TG a Gradd Anrhydedd. 

    Ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol, gofynnwn eich bod wedi cymryd prawf IELTS Academaidd gyda sgôr o 6.0 o leiaf (dim un elfen yn llai na 5.5). Am wybodaeth lawn, ewch i’n tudalen Ryngwladol.

  • Caiff gwaith myfyrwyr ei asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, portffolio, arholiadau ymarferol mewn labordy ac arholiadau ysgrifenedig.

    Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modiwlau gynnwys un neu fwy o ddarnau asesu a gaiff eu gosod a’u cwblhau yn ystod y modiwl.

    Mae gwaith prosiect yn cael ei asesu trwy adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad llafar. Mae’n ofynnol i’r myfyriwr ymchwilio a pharatoi prosiect unigol sylweddol ar gyfer Rhan 2. 

    Gall myfyrwyr prifysgol sydd ddim yn gallu cwblhau pob agwedd ar Ran 1 yn llwyddiannus fod yn gymwys i gael Diploma Ôl-raddedig (120 credyd) neu Dystysgrif Ôl-raddedig (60 credyd). 

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y Prif Brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol. 

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae myfyrwyr ar y rhaglen hon yn datblygu ystod eang o sgiliau technegol a byddant yn astudio nifer o bynciau sy’n ymwneud â systemau gwybodaeth.

    Mae’r rhaglen yn ymdrin â thair thema yn y sector cyfrifiadura - Rheoli Data, Profiad y Defnyddiwr a Thechnolegau yn y sector cyfrifiadura.

    Rhoddir pwyslais sylweddol ar reoli data a gweithredu cymwysiadau ar gyfer trin gwybodaeth, gan gynnwys systemau cronfa ddata a chymwysiadau gwe.

    Yn ogystal â hynny, byddai graddedigion yn gallu arwain timau a rheoli prosiectau.

    Mae’n debygol y byddai graddedigion yn chwilio am swyddi fel:

    • Rheolwr prosiect (ym maes Cyfrifiadura)
    • Dadansoddwr data
    • Gweinyddwr cronfa ddata
    • Datblygwr rhaglen
    • Datblygwr gwefannau

Mwy o gyrsiau Cyfrifiadura

Chwiliwch am gyrsiau