ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (TAR) ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO) (Rhan amser) (Ôl-raddedig)

Abertawe
2 Blynedd Rhan Amser

Mae’r Dystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (PCET) yn gymhwyster gwerthfawr i’r rhai sy’n ceisio addysgu ym maes addysg Ã´l-orfodol. 

Mae’r cwrs hwn yn darparu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo mewn lleoliadau fel addysg alwedigaethol, addysg bellach, ac addysg oedolion. Drwy gydbwysedd o hyfforddiant athrawon ac arfer addysgu byd go iawn, byddwch yn dysgu sut i gynllunio a chyflwyno profiadau dysgu effeithiol.

Wedi’i chynllunio gydag opsiynau astudio hyblyg, mae’r rhaglen yn darparu ar gyfer graddedigion diweddar, gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio, a’r rhai sy’n dychwelyd i addysg. Byddwch yn ymgysylltu â modylau ar ddatblygu’r cwricwlwm, cynllunio ar gyfer dysgu, ac asesu ar gyfer dysgu er mwyn sicrhau dull addysgu cyflawn.

Gyda phwyslais ar fentoriaeth ac arfer seiliedig ar ymchwil, mae’r cwrs hwn yn helpu i ddatblygu eich gallu i gefnogi dysgwyr ac adfyfyrio ar eich addysgu eich hun. Mae’n agor ystod o lwybrau gyrfaol ym maes addysg a thu hwnt, gan feithrin datblygiad proffesiynol a’ch paratoi ar gyfer llwyddiant mewn amgylchedd addysgu deinamig.

 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Hyd y cwrs:
2 Blynedd Rhan Amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cynigia’r cwrs hwn i’r rhai sydd â gradd mewn pwnc nad yw wedi’i ddysgu’n eang ar gyrsiau TAR megis seicoleg, y gyfraith, y cyfryngau, nyrsio gyfle i sicrhau cymhwyster addysgu proffesiynol sydd ei angen i addysgu eu harbenigedd pwnc.
02
Cymhwyster hyblyg a throsglwyddadwy, cydnabyddir y dyfarniad hwn ar draws y sector ôl-orfodol.
03
Cynigiwn feintiau dosbarth bach i helpu i hwyluso trafodaeth mewn awyrgylch cyfeillgar a chefnogol lle mae dod i’ch adnabod yn fyfyriwr yn ganolog i bopeth a wnawn.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Yn PCYDDS, mae ein hathroniaeth yn canolbwyntio ar feithrin addysgwyr adfyfyriol, addasadwy a medrus sy’n barod i ysbrydoli ac ennyn diddordeb dysgwyr mewn lleoliadau addysg ôl-orfodol amrywiol. Mae ein dull addysgu yn integreiddio theori ac arfer, gan annog twf proffesiynol trwy gydweithredu, meddwl beirniadol a chefnogaeth bersonol, gan sicrhau eich bod yn ffynnu yn eich taith addysgol.

Pecyn Cymorth Addysgu 1 a 2

Byddwch yn ennill sgiliau sylfaenol ac uwch mewn addysgeg trwy gyrsiau sy’n canolbwyntio ar gynllunio gwersi, strategaethau asesu, a dulliau addysgu effeithiol. Trwy archwilio arferion seiliedig ar dystiolaeth, byddwch yn dysgu creu amgylcheddau dysgu cynhwysol a diddorol wedi’u teilwra i anghenion amrywiol y dysgwyr. Mae’r modylau hyn yn pwysleisio addysgu adfyfyriol i wella eich gallu i addasu a’ch effeithiolrwydd.

Rheoli Ymddygiad ac Ymgysylltu â Dysgwyr

Byddwch yn datblygu strategaethau i feithrin amgylcheddau cadarnhaol yn yr ystafell ddosbarth a rheoli heriau ymddygiad amrywiol. Mae’r modwl hwn yn rhoi i chi ymagweddau ymarferol at hyrwyddo ymgysylltiad a llesiant dysgwyr, gan eich helpu i fynd i’r afael â heriau gyda hyder ac empathi, gan sicrhau awyrgylch dysgu cynhyrchiol.

Arloesi Digidol ac Arfer Proffesiynol

Byddwch yn gwella eich llythrennedd digidol ac archwilio technolegau arloesol mewn addysg. Mae’r modwl hwn yn eich paratoi i integreiddio offer digidol i addysgu, gan gefnogi hygyrchedd ac ymgysylltiad dysgwyr mewn amgylcheddau addysgol deinamig a modern.

Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Arfer Cynhwysol

Adeiladwch arbenigedd wrth gefnogi dysgwyr ag anghenion ychwanegol drwy strategaethau addysgu cynhwysol. Mae’r modwl hwn yn rhoi’r sgiliau i chi nodi a mynd i’r afael â rhwystrau at ddysgu, meithrin tegwch a chyfleoedd i bob myfyriwr yn yr ystafell ddosbarth.

Datblygiad Proffesiynol a’r Ymarferydd PCET

Canolbwyntiwch ar dwf proffesiynol parhaus trwy adfyfyrio ar eich profiadau ac archwilio arferion moesegol mewn addysg. Mae’r modwl hwn yn eich annog i ddatblygu’n ymarferydd hyderus a chymwys, sy’n barod i fodloni gofynion addysg Ã´l-orfodol.

Prosiect Ymchwil Gweithredu

Ymgymerwch ag archwiliad a yrrir gan ymchwil o her neu arloesedd addysgol allweddol. Mae’r prosiect hwn yn eich helpu i gymhwyso mewnwelediadau damcaniaethol i faterion byd go iawn, gan feithrin dadansoddiad beirniadol a sgiliau datrys problemau sy’n hanfodol ar gyfer addysgu effeithiol.

Pecyn Cymorth Addysgu 1

(20 credydau)

Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Arfer Cynhwysol

(10 credydau)

Rheoli Ymddygiad a Chefnogi Ymgysylltiad Dysgwyr

(10 credydau)

Arloesi Digidol ac Arfer Proffesiynol

(20 credydau)

Pecyn Cymorth Addysgu 2

(20 credydau)

Datblygiad Proffesiynol a'r Ymarferydd Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol

(20 credydau)

Prosiect Ymchwil Gweithredu

(20 credydau)

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

    • Yn achos y Dystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (PCET) bydd angen bod ymgeiswyr radd israddedig ar radd 2.2 neu uwch.
    • Yn achos Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (PCET) bydd angen cymhwyster lefel tri perthnasol ynghyd ag addysgu a/neu brofiad hyfforddi.
    • Nid yw’r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (PCET) yn ddyfarniad y dylid cofrestru arno a gall myfyrwyr drosglwyddo i hyn o’r Dystysgrif Raddedig Broffesiynol (PCET) mewn rhan dau os byddant yn bodloni’r meini prawf.
  • Mae asesiad y rhaglen wedi’i adeiladu ar egwyddorion ymarfer adfyfyriol ac yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau megis portffolios, adfyfyrdodau ysgrifenedig, adroddiadau, blogiau, arsylwadau ffurfiol ymarfer proffesiynol a phosteri.

  • Mae gwiriadau manwl DBS yn orfodol yn rhan o ofynion mynediad y rhaglenni, a’r ymgeiswyr sy’n gyfrifol am gostau ychwanegol hyn.

    Gall teithio i’r lleoliad profiad addysgu proffesiynol greu costau i’r myfyriwr a gallant amrywio yn dibynnu ar ble mae’r lleoliad. Pan drefnir lleoliadau ar ran y myfyriwr, gwneir pob ymdrech i fodloni gofynion unigol (gan gynnwys dewisiadau lleoliad) ond ni ellir gwarantu hyn.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae graddedigion o’r rhaglen yn gyflogadwy dros ben mewn amrywiaeth o sectorau addysgu a hyfforddi ar draws amrywiaeth fawr o broffesiynau.

Mwy o gyrsiau Addysgu a TAR

Chwiliwch am gyrsiau