ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (TAR) ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO) (Ôl-raddedig)

Abertawe
1 Flwyddyn Llawn Amser

Mae’r rhaglen TAR PCET wedi’i chynllunio ar gyfer unigolion sy’n dymuno dilyn gyrfa ym maes addysgu yn y sector Addysg a Hyfforddiant Ã”l-orfodol. 

Mae’n gymhwyster uchel ei barch sy’n rhoi i raddedigion y sgiliau sydd eu hangen i addysgu mewn amgylcheddau addysgol amrywiol, gan gynnwys colegau, sefydliadau hyfforddi, a chanolfannau dysgu oedolion.

Mae’r cwrs hwn yn cynnig hyblygrwydd, gydag opsiynau llawn amser a rhan-amser, sy’n darparu ar gyfer rhai a raddiodd yn ddiweddar, gweithwyr proffesiynol sy’n ceisio datblygu eu gyrfaoedd, a’r rhai sy’n dychwelyd i astudio ar ôl toriad. Mae wedi’i deilwra i fodloni anghenion unigol wrth gynnal safonau academaidd a phroffesiynol uchel.

Mae’r rhaglen yn cyfuno dysgu yn y brifysgol â phrofiad addysgu ymarferol, gan ddarparu sylfaen gref mewn addysg athrawon. Byddwch yn archwilio arferion gorau o ran cefnogi a datblygu dysgu wrth ennill profiad ymarferol mewn amgylcheddau addysgu byd go iawn. Mae’r cyfuniad hwn yn sicrhau y gallwch gymhwyso theori i arfer yn effeithiol, gan fagu eich hyder fel gweithiwr addysgu proffesiynol.

P’un a oes gennych ddiddordeb mewn addysgu galwedigaethol, cyfrannu at y sector dysgu gydol oes, neu arbenigo mewn maes pwnc penodol, bydd y Dystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg yn eich paratoi ar gyfer gyrfa foddhaus ym maes addysg.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn Amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cynigia’r cwrs hwn i’r rhai sydd â gradd mewn pwnc nad yw wedi’i ddysgu’n eang ar gyrsiau TAR megis seicoleg, y gyfraith, y cyfryngau, nyrsio gyfle i sicrhau cymhwyster addysgu proffesiynol sydd ei angen i addysgu eu harbenigedd pwnc.
02
Cymhwyster hyblyg a throsglwyddadwy, cydnabyddir y dyfarniad hwn ar draws y sector ôl-orfodol.
03
Cynigiwn feintiau dosbarth bach i helpu i hwyluso trafodaeth mewn awyrgylch cyfeillgar a chefnogol lle mae dod i’ch adnabod yn fyfyriwr yn ganolog i bopeth a wnawn.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Yn PCYDDS, rydym yn credu mewn ymagwedd at addysgu sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr, gan gyfuno theori â phrofiad ymarferol i sicrhau eich bod yn gwbl barod ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym maes addysgu. Mae’r rhaglen TAR PCET yn meithrin meddwl beirniadol, arfer adfyfyriol, a datblygu strategaethau addysgu effeithiol ar gyfer y  sector Addysg a Hyfforddiant Ã”l-orfodol.

Lefel 6

Yn Lefel 6, byddwch yn canolbwyntio ar adeiladu sylfaen mewn strategaethau addysgu, dysgu ac asesu. Byddwch yn archwilio damcaniaethau ac egwyddorion allweddol sy’n sail i addysg effeithiol, wrth ddatblygu eich gallu i gynllunio, cyflwyno ac asesu gwersi mewn amrywiaeth o leoliadau addysgol.

Lefel 7

Mae Lefel 7 yn ehangu eich gwybodaeth drwy ymagwedd fwy beirniadol ac adfyfyriol. Byddwch yn cymryd rhan mewn ymchwil, gan ganolbwyntio ar feysydd fel addysg gynhwysol a datblygiad proffesiynol. Mae’r lefel hon yn eich annog i fireinio eich arfer addysgu, gan ddefnyddio dulliau seiliedig ar dystiolaeth i wella dysgu a datblygiad myfyrwyr.

Pecyn Cymorth Addysgu 1

(20 credydau)

Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Arfer Cynhwysol

(10 credydau)

Rheoli Ymddygiad a Chefnogi Ymgysylltiad Dysgwyr

(10 credydau)

Arloesi Digidol ac Arfer Proffesiynol

(20 credydau)

Pecyn Cymorth Addysgu 2

(20 credydau)

Datblygiad Proffesiynol a'r Ymarferydd Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol

(20 credydau)

Prosiect Ymchwil Gweithredu

(20 credydau)

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

    • Yn achos y Dystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (PCET) bydd angen bod ymgeiswyr radd israddedig ar radd 2.2 neu uwch.
    • Yn achos Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (PCET) bydd angen cymhwyster lefel tri perthnasol ynghyd ag addysgu a/neu brofiad hyfforddi.
    • Nid yw’r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (PCET) yn ddyfarniad y dylid cofrestru arno a gall myfyrwyr drosglwyddo i hyn o’r Dystysgrif Raddedig Broffesiynol (PCET) mewn rhan dau os byddant yn bodloni’r meini prawf.
  • Mae asesiad y rhaglen wedi’i adeiladu ar egwyddorion ymarfer adfyfyriol ac yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau megis portffolios, adfyfyrdodau ysgrifenedig, adroddiadau, blogiau, arsylwadau ffurfiol ymarfer proffesiynol a phosteri.

  • Mae gwiriadau manwl DBS yn orfodol yn rhan o ofynion mynediad y rhaglenni, a’r ymgeiswyr sy’n gyfrifol am gostau ychwanegol hyn.

    Gall teithio i’r lleoliad profiad addysgu proffesiynol greu costau i’r myfyriwr a gallant amrywio yn dibynnu ar ble mae’r lleoliad. Pan drefnir lleoliadau ar ran y myfyriwr, gwneir pob ymdrech i fodloni gofynion unigol (gan gynnwys dewisiadau lleoliad) ond ni ellir gwarantu hyn.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae graddedigion o’r rhaglen yn gyflogadwy dros ben mewn amrywiaeth o sectorau addysgu a hyfforddi ar draws amrywiaeth fawr o broffesiynau.

Mwy o gyrsiau Addysgu a TAR

Chwiliwch am gyrsiau