ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

TAR Uwchradd Mathemateg gyda SAC (Llawn amser) (PGCE)

Abertawe
1 Flwyddyn Llawn amser

Mae ein rhaglen TAR Uwchradd Mathemateg yn cyd-fynd yn gadarn â’r cwricwlwm newydd i Gymru ac yn darparu Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) gynhwysfawr.  Byddwch yn cyflawni Statws Athro Cymwysedig (SAC) gyda chyfuniad o hyfforddiant dan arweiniad y brifysgol a lleoliadau mewn ysgolion.  Cewch wybodaeth am y cwricwlwm i addysgu mathemateg yn effeithiol, wedi’i chefnogi gan sesiynau arloesol ar addysgeg ac arfer adfyfyriol. 

Byddwch yn ymwneud ag amgylchedd dysgu cefnogol, gan drafod ymchwil academaidd cyfredol a datblygu sgiliau addysgu ymarferol.  Cewch brofiad o ystod o amgylcheddau addysgu drwy leoliadau trefol a gwledig, gan gynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae profiad addysgu proffesiynol (PAP) a chymorth mentoriaid yn elfennau allweddol, gan eich paratoi am yrfa lwyddiannus yn addysgu. 

Byddwch yn astudio agweddau amrywiol ar addysgu ar draws yr ystod oed uwchradd, gan gynnwys TGAU a Safon Uwch.  Mae’r rhaglen hon yn sicrhau y gallwch ysbrydoli mathemategwyr y dyfodol gyda’ch brwdfrydedd am y pwnc.  Mae cymorth ariannol ar gael drwy ein bwrsariaethau ac ysgoloriaethau. Mae’r cwrs hwn wedi’i ddynodi gan Lywodraeth Cymru yn faes pwnc blaenoriaeth uchel, ac mae bwrsariaethau £15,000 ar gael.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
Eng: 2X65 Cym: UMA1
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser

Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae’r Athrofa yn un o’r ychydig ddarparwyr addysg athrawon dethol sydd wedi’u hachredu gan CGA.
02
Mae’r Athrofa’n defnyddio technoleg ddiweddaraf Sony Vision Exchange i gefnogi dysgu ac addysgu o safon mewn oes ddigidol.
03
Llwybrau Cymraeg, Saesneg a dwyieithog ar gael.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r TAR yn rhaglen academaidd a phroffesiynol amser llawn a chynhwysfawr a luniwyd i’ch paratoi am yrfa lwyddiannus yn addysgu.  Mae’r rhaglen yn cwmpasu 36 wythnos, gydag oddeutu 12 wythnos o ddarpariaeth yn y brifysgol ac o leiaf 24 wythnos mewn ysgolion. 

Cwricwlwm Craidd  

Ein cwricwlwm craidd arloesol a achredwyd yn ddiweddar yw asgwrn cefn ein rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA). Mae’n cynnwys: 

  • Modylau Gorfodol: Mae’r modylau hanfodol hyn yn cwmpasu agweddau sylfaenol ar addysgu ac addysg. 
  • Datblygu Sgiliau Ymchwil: Byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil beirniadol sy’n hanfodol ar gyfer arfer adfyfyriol a datblygiad proffesiynol parhaus. 
  • Llwybr Proffesiynol ar gyfer Statws Athro Cymwysedig (SAC): Mae’r llwybr hwn yn sicrhau eich bod yn bodloni’r safonau proffesiynol sy’n ofynnol ar gyfer SAC.
  • Llwybr Datblygu’r Gymraeg: Byddwch yn gwella’ch gallu i addysgu a chyfathrebu yn y Gymraeg, sgil gwerthfawr yn ein system addysg ddwyieithog. 
  • Pontio: Gweithgareddau sy’n integreiddio damcaniaeth yn ddi-dor â chymhwyso’n ymarferol, gan atgyfnerthu eich profiad dysgu. 
  • Profiadau dewisol: Dewiswch brofiad yn yr ysgol mewn maes o ddiddordeb i ddyfnhau eich arbenigedd a’ch sgiliau ymarferol. 
  • Lleoliad Amgen: Cewch fewnwelediad drwy brofi lleoliadau addysg tu allan i ysgolion traddodiadol, megis amgylcheddau addysg arbennig. 
Partneriaeth Gydweithredol 

Rydym yn gweithio mewn cydweithrediad agos ag amrywiaeth o ysgolion, yn cynnwys ysgolion cynradd ac arbennig.  Mae’r bartneriaeth hon yn cynnig ystod amrywiol o brofiadau addysgu i chi, gan ehangu eich gwybodaeth ymarferol a’ch sgiliau. 

Cyfleoedd Datblygu Proffesiynol 

  • Partneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa: Cynhadledd Anelu at Ragoriaeth: Gallwch gymryd rhan yn ein cynhadledd fawreddog, gan wella eich rhwydwaith proffesiynol a dysgu gan arbenigwyr. 
  • Ysgrifennu Blog:  Cewch gyfrannu i’n blog addysgol, gan rannu eich dealltwriaeth a phrofiadau. 
  • Canolfannau Ymchwil: Cewch fudd o’n canolfannau ymchwil, gyda mynediad at ymchwil addysg a methodolegau blaengar.

Erbyn diwedd y rhaglen hon, byddwch wedi’ch paratoi’n dda gyda’r profiad ymarferol, y sgiliau ymchwil, a’r wybodaeth broffesiynol i ragori fel athro cymwysedig. 

Cylch 1 Astudiaethau Craidd: Y Dysgwr: pwy ydw i'n ei addysgu?

(20 credydau)

Cylch 3 Astudiaethau Proffesiynol ac Addysgegol: Arwain y Dysgu: beth, sut a pham ydw i'n addysgu?

(30 credydau)

Welsh in Professional Practice

(10 Credits)

Astudiaethau Craidd: Dysgwyr, Ysgolion a Chymunedau: ble ydw i'n addysgu?

(30 credydau)

Astudiaethau Proffesiynol ac Addysgegol: Ymchwilio i'r Dysgu: beth, sut a pham ydw i'n addysgu?

(30 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Gradd Israddedig

    Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd dda (o leiaf 2:2) mewn maes sy’n gysylltiedig â’r dewis bwnc uwchradd.

    Cymwysterau TGAU

    • Gradd C (gradd 4 yn Lloegr) neu uwch mewn TGAU Saesneg – Iaith neu Cymraeg – Iaith neu safon gyfwerth.
    • Gradd C (gradd 4 yn Lloegr) neu uwch mewn TGAU Mathemateg neu TGAU Rhifedd neu safon gyfwerth.

    Yn ogystal bydd angen i ddarpar athrawon sy’n astudio i addysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg gael TGAU gradd C neu uwch mewn Cymraeg (Iaith Gyntaf).

    Cymwysterau Lefel A/Galwedigaethol Lefel 3

    Os nad oes gan ymgeiswyr radd israddedig mewn pwnc cwricwlwm, rhaid iddynt brofi eu bod wedi astudio’n llwyddiannus ar lefelau uwch.

    Profiad Gwaith

    Dylech fod yn ymwybodol o realiti bod yn athro ac o fywyd yn yr ystafell ddosbarth ac felly rydym yn gofyn am brofiad diweddar a pherthnasol o leoliad addysg uwchradd. Gall hyn fod trwy swydd neu drwy wirfoddoli mewn ysgol a ddylai fod am gyfnod o ddwy wythnos ar y lleiaf.

    Bydd magu hyder mewn ystafell ddosbarth ysgol yn helpu i gryfhau eich cais ac yn sail feirniadol well ar gyfer eich datganiad personol. Hefyd, fe fydd yn eich paratoi at ein proses dethol ac yn rhoi peth profiad i chi y gallwch ei ddefnyddio yn eich cyfweliad.

    Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

    Os cewch eich derbyn ar ein rhaglen, bydd rhaid ichi gael gwiriad clirio uwch DBS (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd - CRB, Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt) cyn gynted â phosibl. Mae ffi ynghlwm wrth y gwasanaeth a dylech sicrhau eu bod yn dewis y gwasanaeth â€˜diweddaru’.

    Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa weinyddol y TAR Uwchradd: 01792 482111 yn TeacherEd@pcydds.ac.uk

    Am beth ydym ni’n chwilio?

    • Safbwynt positif o addysg fel ffordd i drawsnewid bywydau
    • Cymhelliant i fod yn athro rhagorol
    • Awydd empathig i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc
    • Agweddau positif at gyfiawnder, cynhwysiant ac ecwiti cymdeithasol
    • Gallu i weithio’n unigol ac fel rhan o dîm
    • Egni, brwdfrydedd a hyblygrwydd
    • Gwydnwch a dibynadwyedd
    • Agweddau ac ymddygiad proffesiynol
    • Parodrwydd i ddysgu gydol eich oes

    Sut ydym ni’n dewis ein darpar athrawon?

    • Ansawdd y datganiad personol
    • Tystiolaeth o arbenigedd pwnc
    • Profiad diweddar a pherthnasol mewn lleoliad addysgol
    • Ansawdd y cyfweliad unigol
    • Perfformiad mewn profion dethol – e.e. llythrennedd, rhifedd a chymeriad
  • Strwythur y Rhaglen

    Cyflwynir y rhaglen dros 36 wythnos gan staff Partneriaeth Dysgu Broffesiynol yr Athrofa. Mae cyflwyno’r rhaglen yn y ffordd hon yn dod ag arbenigedd ymarferol o’r sector ysgol at ei gilydd ag ymchwil ac arbenigedd addysg uwch.

    Yn gyffredinol, mae’r rhaglen yn cynnwys darpariaeth 12 wythnos yn y brifysgol ac o leiaf 24 wythnos mewn ysgol.

    Mae’r rhaglen yn cynnwys cwricwlwm craidd a ddarperir ar draws ein casgliad o raglenni HGA. Mae hyn yn cynnwys:

    • Modylau Gorfodol
    • Datblygu sgiliau ymchwil
    • Llwybr proffesiynol ar gyfer Statws Athro Cymwysedig
    • Llwybr Datblygu’r Gymraeg
    • Pontio – gweithgareddau sy’n dod â theori ac arfer at ei gilydd
    • Maes Dewisol – profiad mewn ysgol yn dilyn maes penodol o ddiddordeb
    • Lleoliad amgen – cyfle i gael profiad mewn lleoliadau addysg nad ydynt yn ysgolion

    Darpariaeth prifysgol

    Mae’r ddarpariaeth prifysgol ôl-radd yn cael ei gynnal yn ein campws newydd o’r radd flaenaf ar ardal marina Abertawe. Gyda’r dechnoleg addysgu ddiweddaraf a mannau eang i fyfyrwyr astudio ynddynt, byddwch yn cymryd rhan mewn sesiynau creadigol ac arloesol a fydd yn eich paratoi at y cwricwlwm newydd.

    Mae eich amser yn y brifysgol yn ffocysu ar ddysgu addysgeg o ansawdd uchel sy’n cael effaith bositif yn yr ystafell ddosbarth. Gan weithio gydag addysgwyr athrawon sy’n arbenigwyr yn eu maes nhw o addysg, byddwch yn dysgu sgiliau mewn deall sut mae plant a phobl ifanc yn dysgu a sut y gallent ddod yn ddysgwyr uchelgeisiol a medrus.  

    Mae ein hathroniaeth addysgu yn annog ein darpar athrawon i gymryd rhan mewn dadleuon bywiog a meddwl gweithredol sy’n datblygu eich sgiliau meddwl creadigol ac ymgysylltu. Bydd hyn yn eich paratoi at fod yn athro sy’n seilio’ch arfer ar ymchwil ac yn ymchwilio’n weithredol, ac yn barod i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc.

    Strwythur y Rhaglen – profiad yn yr ysgol

    Bydd eich Profiad Addysgu Proffesiynol (PAP) yn digwydd dros gyfnod o 24 wythnos mewn ysgol, gyda dau leoliad addysgu o sylwedd. Bydd y rhain mewn rhwydwaith PDPA sy’n cynnwys ysgol a fydd yn arwain a nifer o ysgolion partneriaeth lle bydd mentoriaid profiadol a thiwtoriaid prifysgol yn eich cefnogi wrth i chi gyflawni SAC.

    Mae pob profiad addysgu mewn lleoliadau gwahanol i roi ichi ystod o brofiadau a’r cyfle i ymgysylltu ag amrywiaeth o ymagweddau at addysgu a dysgu.

    Yn ystod eich profiad ysgol, cewch eich cefnogi i gyfuno theori ac arfer fel y gallwch ddatblygu’r sgiliau adfyfyriol sydd eu hangen i fod yn athro tra llwyddiannus.

    Cewch gyflwyniad i addysgu fesul cam i roi amser ichi fagu hyder, datblygu gwybodaeth o’r cwricwlwm a sgiliau trefnu ystafell ddosbarth. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda grwpiau bach o ddysgwyr cyn symud tuag at fod yn gyfrifol am y dosbarth cyfan.

    Bydd seminarau a gynhelir mewn ysgolion ac a gyflwynir gan fentoriaid a staff prifysgol yn rhoi’r cyfle ichi gwrdd â myfyrwyr eraill yn eich rhwydwaith a chymryd rhan mewn trafodaeth gydweithredol. Mae adfyfyrio mewn ffordd a rennir fel hyn yn arf grymus wrth symud eich arfer ymlaen.

    Mae ein partneriaeth o rwydweithiau’n cynnig lleoliadau trefol a gwledig yn ogystal â lleoliadau sydd ar gael naill ai mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu Saesneg.

  • Mae’r rhaglen yn cynnig 60 credyd ar lefel Meistr a 60 credyd ar lefel Graddedig. Dyfernir y rhain wrth gwblhau asesiadau modwl yn llwyddiannus, sy’n cynnwys:

    • Astudiaethau achos
    • Portffolios
    • Cyflwyniad fideo
    • Prosiect Ymchwil

    Mae pob aseiniad wedi’i gysylltu’n agos ag arfer ac wedi’u dylunio i gynnig cyfle i chi ddatblygu addysgu a dysgu sy’n cael effaith bositif ar blant a phobl ifanc.

  • Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr yn wynebu rhai costau ychwanegol na ellir eu hosgoi yn ogystal â chost eu hyfforddiant yn y brifysgol. Mae’r rhain fel a ganlyn:

    Costau gorfodol:

    • Teithio i ysgolion lleoliad ac i’r Brifysgol.
    • Teithio i ddarpariaeth arbenigol oddi ar y safle (gan gynnwys ysgolion a darparwyr hyfforddiant eraill).
    • Teithio i ysgolion ar gyfer ‘Diwrnodau Pontio’ a mentrau eraill ar gyfer y garfan gyfan, yn unol â’r calendr.
    • Y defnydd o liniadur (mae MS Office yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr).
    • Myfyrwyr Celf – teithiau i orielau Lundain ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Llyfr braslunio â rhwymyn sbiral A3, portffolio A1

    Costau Angenrheidiol:

    • Teithio i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi pwnc a drefnir gan y Tiwtor Pwnc
    • Adnoddau addysgu, er enghraifft, gwerslyfrau Safon Uwch/TGAU
    • Teithio i leoliadau ‘Meysydd Dewisol’

    Dewisol:

    • Costau argraffu
    • Teithiau astudio dewisol
  • Mae bwrsariaethau gwerth £15,000 ar gael gan Lywodraeth Cymru mewn meysydd pwnc blaenoriaeth uchel. 

    _______________________________________________________

    Bwrsariaeth Dilyniant Ôl-raddedigion Y Drindod Dewi Sant

    ar gyfer myfyrwyr israddedig (a graddedigion diweddar PCYDDS) sy’n mynd ymlaen i raglen ôl-raddedig a addysgir gan PCYDDS.

    Bwrsariaeth a ddyfernir i fyfyrwyr sydd newydd (o fewn dwy flynedd) gwblhau gradd israddedig yn y Drindod Dewi Sant ac sy’n mynd ymlaen i raglen ôl-radd amser llawn neu ran amser e.e. MA/MRes/MTh/MSc/MBA/TAR (ond gan eithrio PGDip/PG Cert)

    Swm y Dyfarniad: ±á²â»å&²Ô²ú²õ±è;²¹³Ù&²Ô²ú²õ±è;£2,500

    Dyddiad olaf i wneud cais: ddim yn berthnasol - bydd y fwrsariaeth yn cael ei dyfarnu’n awtomatig i unrhyw fyfyriwr cymwys.

    Gwybodaeth Ychwanegol: Mae’r fwrsariaeth yn cael ei dyfarnu fel gostyngiad ffioedd a hynny pro-rata ar sail cost a dwyster yr astudio. Mae’r £2,500 llawn ar gyfer cyrsiau sy’n costio £7,500 neu fwy. (Bydd gostyngiad o £1,000 ar gyfer cyrsiau MA llawn a addysgir sy’n costio Â£5050)

  • Mae gan Yr Athrofa gyfraddau cyflogaeth graddedigion rhagorol gyda 99% o raddedigion yn mynd ymlaen i waith neu astudiaethau pellach.

    Mae gan adrannau llawer o ysgolion a cholegau, yn lleol a chenedlaethol, nifer o’n hathrawon ac mae llawer wedi mynd ymlaen i lunio gyrfaoedd addysgu llwyddiannus ar lefel strategol, proffesiynol a rheoli yma yng Nghymru a thramor.

    Fel arfer mae ein graddedigion TAR yn cadw mewn cysylltiad agos â’r Athrofa wrth iddynt lunio eu gyrfaoedd ym myd addysg ac yn aml, maent yn mynd ymlaen i fod yn fentoriaid pwnc ar y rhaglen.  Mae hyn yn creu rhwydwaith proffesiynol cryf, cynaliadwy o athrawon, sy’n ffynhonnell gyfoethog o ddatblygu proffesiynol parhaus.

Mwy o gyrsiau Addysgu a TAR

Chwiliwch am gyrsiau