ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL) (Llawn amser) (MA)

Caerfyrddin
1 Flynedd Llawn amser

Mae Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL) (MA) yn gwrs sydd wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sy’n angerddol am addysgu Saesneg ac sy’n awyddus i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i addysgu dysgwyr o gefndiroedd a galluoedd amrywiol. P’un a ydych yn dod o’r DU neu dramor, mae’r rhaglen hon yn darparu’r wybodaeth hanfodol a’r sgiliau ymarferol TESOL i ddilyn gyrfa yn addysgu Saesneg i siaradwyr anfrodorol Saesneg ar draws amrywiaeth o gyd-destunau addysgu byd-eang.

Mae’r cwrs hwn wedi’i grefftio’n ofalus i hyfforddi gweithwyr proffesiynol addysgu iaith hunan feirniadol sy’n gwerthfawrogi dealltwriaeth a thwf yn eu hymarfer addysgu. Mae’n cynnig sylfaen gadarn mewn theori ac ymarfer addysgu iaith, gan ganolbwyntio ar ieithyddiaeth gymhwysol ac addysgeg addysgu ieithoedd. Byddwch yn archwilio dulliau caffael ail iaith a dulliau seiliedig ar ymchwil gan adeiladu’r hyder a’r gallu i addasu sydd eu hangen i lwyddo yn y maes hwn. Wrth i chi symud ymlaen, byddwch yn ennill sgiliau addysgu ymarferol a gwybodaeth fanwl am ymchwil TESOL a datblygu’r cwricwlwm, sy’n amhrisiadwy mewn unrhyw leoliad addysgol.

Elfen unigryw o’r TESOL (MA) yw ei ffocws ar sgiliau ymchwil, gan eich galluogi i ddylunio a chynnal prosiectau ymchwil ar bynciau sy’n bwysig mewn addysg iaith Saesneg. Mae’r pwyslais hwn ar ymchwil yn darparu cyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa yn TESOL, gan gynnwys llwybrau i astudiaethau doethurol. Gall graddedigion sydd â’r sgiliau hyn fynd ymlaen i wneud cyfraniadau sylweddol i’r maes neu ymgymryd â rolau yn ymchwil TESOL a datblygu’r cwricwlwm, prosiectau TESOL yn y gymuned, neu arweinyddiaeth addysgol.

Mae croeso cynnes i fyfyrwyr rhyngwladol a bydd angen iddynt fodloni gofynion iaith Saesneg penodol i ymuno â’r rhaglen hon. Mae’r Brifysgol yn gofyn am sgôr IELTS o 6.0 o leiaf (neu gyfwerth), heb unrhyw gydran yn is na 5.5. Mae bodloni’r safonau hyn yn sicrhau bod gan bob myfyriwr y galluoedd iaith sydd eu hangen i astudio ar lefel Meistr a’u bod yn gallu ymgysylltu’n llawn ag agweddau damcaniaethol ac ymarferol y cwrs.

Bydd cwblhau’r TESOL (MA) hwn yn rhoi nid yn unig ardystiad addysgu i chi, ond hefyd dealltwriaeth ddofn o ieithyddiaeth ac addysg. Mae’n agor drysau i rolau addysgu a hyfforddi ledled y byd, gan eich paratoi i gefnogi myfyrwyr o bob oed a gallu. Yn ogystal â darparu’r sgiliau hanfodol i addysgu Saesneg, mae’r rhaglen hon yn eich helpu i adeiladu gyrfa foddhaus, addasadwy mewn maes sy’n datblygu’n barhaus.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Ar y campws
  • Dysgu o bell
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Flynedd Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Addysg sy’n cael ei harwain gan waith ymchwil ac sy’n canolbwyntio ar gyflogadwyedd ac ar ddefnydd ymarferol
02
Cyfle i raddedigion llwyddiannus fynd ymlaen i wneud Doethuriaeth Proffesiynol mewn Addysg Saesneg Iaith a Llenyddiaeth Saesneg
03
Cymysgedd o arddulliau addysgu, gan gynnwys astudiaethau grŵp cyfan a darlithoedd mwy ffurfiol yn ogystal â grwpiau trafod bychain, seminarau, a thiwtorialau un i un

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein cwrs TESOL (MA) yn cael ei yrru gan athroniaeth bod addysgu Saesneg effeithiol  yn gofyn am sylfaen ddamcaniaethol gadarn a phrofiad ymarferol helaeth. Trwy integreiddio sgiliau ymchwil, hunan feirniadaeth a hyfforddiant addysgeg, ein nod yw datblygu gweithwyr proffesiynol sy’n barod i ddiwallu anghenion amrywiol dysgwyr Saesneg ledled y byd.

Yn semester 1 a 2, mae myfyrwyr yn ymgysylltu â theori ac ymarfer addysgu iaith, gan archwilio caffael ail iaith, Addysg Athrawon Iaith Saesneg, a methodolegau addysgu cyfredol. Mae modylau allweddol, gan gynnwys Damcaniaethau Cyfredol Caffael Ail Iaith ac Addysg Athrawon Iaith Saesneg, yn datblygu sgiliau ymarferol TESOL mewn rheoli ystafell ddosbarth, dylunio’r cwricwlwm, ac asesu dysgwyr. Mae modylau dewisol, fel Materion Allweddol mewn Ieithyddiaeth ac Addysgu Saesneg fel ail iaith, yn caniatáu arbenigedd pellach. Mae Dulliau Ymchwil Llenyddol a’r Cynnig Traethawd Hir yn gosod sylfaen mewn sgiliau ymchwil, gan eich paratoi ar gyfer eich prosiect terfynol.

Yn y semester olaf, byddwch yn ymgymryd â Thraethawd Hir MA (TESOL), gan eich galluogi i ganolbwyntio ar faes arbenigol o ymchwil a chwricwlwm TESOL. Bydd y prosiect ymchwil-ddwys hwn yn cryfhau eich sgiliau mewn addysgu iaith hunan feirniadol ac ymchwil gymhwysol. Trwy eich traethawd hir, byddwch yn cyfrannu mewnwelediadau gwreiddiol i faes TESOL, gan eich paratoi ar gyfer datblygiad gyrfa yn TESOL neu ymchwil academaidd bellach.

Gorfodol

Addysg Athrawon Iaith Saesneg

(30 credydau)

Damcaniaethau Cyfredol ym maes Caffael Ail Iaith

(30 credydau)

Traethawd Hir MA (TESOL)

(60 credydau)

Dulliau Ymchwil Llenyddol

(15 credydau)

Cynnig traethawd hir

(15 Credydau)

Dewisol

Materion Allweddol mewn Ieithyddiaeth

(30 credydau)

Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor

(30 credydau)

Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Gradd anrhydedd 2:2  

    • neu gyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS. 

    Llwybrau mynediad amgen  

    • Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch (Tyst. Ôl-radd). Dyma ran gyntaf y radd Meistr lawn. 

    Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau Tyst. Ôl-radd yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i weddill y radd Meistr. &²Ô²ú²õ±è;

    Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch gyflawni’n raddau roeddech eu hangen i gael lle ar y radd hon. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

    Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. &²Ô²ú²õ±è;

  • Mae’r strategaeth asesu y rhaglen yn cynnwys asesiadau ffurfiannol a chrynodol. Mae’r asesiadau ffurfiannol yw defnyddio’r ffurf ‘asesiad troellog’, sydd yn annog myfyrwyr i ailedrych ac i ailddefnyddio’r safonau sydd wedi’u cynnwys mewn modiwlau blaenorol. Yn yr un modd, disgwylir y bydd hunan-fyfyrio yn un o agweddau proffesiynol pob un o raddedigion y rhaglen hon, a bydd yn cael ei ymgorffori a’i ymarfer trwy aseiniadau penodol ym mhob modiwl.


    Mae fformatau asesu nodweddiadol yn cynnwys traethodau, cyflwyniadau llafar, adolygiadau beirniadol, arddangosiadau o addysgu, ac aseiniadau ysgrifenedig byr eraill.


    Mae asesiadau’r modiwlau wedi’u cynllunio i baratoi myfyrwyr ar gyfer y dasg o gyflwyno traethawd hir MA yn Rhan 2. Mae rhai modiwlau felly’n defnyddio patrwm asesu safonol sy’n cynnwys un neu ddau o draethodau hirach yn ogystal â chyflwyniad. Mewn rhai modiwlau, fodd bynnag, bydd cynnydd myfyrwyr yn cael ei asesu trwy ddefnyddio fformat y portffolio. Mae’r portffolio yn cynnig mwy o hyblygrwydd o ran asesu sgiliau â ffocws proffesiynol, ar y cyd ac yn unigol, o gymharu â’r fformat traethawd/cyflwyniad arferol.

  • Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL) yn faes lle mae mwy a mwy o bobl yn cael eu cyflogi. Bydd y sgiliau a ddysgwch yn ar y cwrs hwn (e.e. cynllunio gwersi, sgiliau cyflwyno, profiad yn yr ystafell ddosbarth, sgiliau ymchwilio) yn gallu cael eu trosglwyddo i ieithoedd eraill ac i ystod o sefyllfaoedd proffesiynol eraill.


    O ran gyrfaoedd, gallwch ddod yn diwtor iaith mewn amrywiaeth o wahanol gyd-destunau yn y sector preifat neu gyhoeddus, yn athro cynradd/uwchradd, neu’n hyfforddwr galwedigaethol/diwydiant.

Mwy o gyrsiau Addysgu a TAR

Chwiliwch am gyrsiau