Addysg (Cymru): Anghenion Dysgu Ychwanegol (Rhan amser) (MA)
Mae’r MA Addysg (Cymru): Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn gwrs rhan-amser arloesol sydd wedi’i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol addysg yng Nghymru sy’n ymroi i wella profiadau dysgu disgyblion ag anghenion amrywiol. Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer addysgwyr ar bob cyfnod gyrfa, p’un a ydych yn dechrau arni neu eisoes yn meddu ar brofiad yn y maes.
Ffrwyth llafur datblygiadcydweithredol rhwng saith prifysgol a Llywodraeth Cymru yw’r rhaglen, gan gynnig cyfle unigryw i ennill y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i wneud gwahaniaeth go iawn yn eich ysgol neu gymuned. Drwy astudio’r cwrs hwn, byddwch yn archwilio sut i wella’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a darparu cymorth effeithioli ddisgyblion sydd ei angen fwyaf.
Drwy gydol y cwrs, byddwch yn ymgysylltu â’r strategaethau a’r polisïau diweddaraf sy’n canolbwyntio ar greu tegwch mewn lleoliadau addysgol. Mae’r dulliau hyn wedi’u cynllunio i’ch helpu i feithrin tegwch a chynhwysiant, gan sicrhau bod pob disgybl yn cael cyfle i lwyddo, waeth beth fo’u cefndir neu eu hanghenion dysgu.
Mae astudio’r cwrs rhan-amser hwn yn golygu y gallwch gydbwyso eich cyfrifoldebau proffesiynol â’ch datblygiad personol. P’un a ydych chi’n gweithio mewn ystafell ddosbarth neu rôl arweinyddiaeth, mae’r cwrs yn ddigon hyblyg i ffitio o gwmpas eich ymrwymiadau presennol. Byddwch hefyd yn elwa o arbenigedd cyfunol addysgwyr ac ymchwilwyr ar draws y saith prifysgol, sy’n dod â chyfoeth o wybodaeth i’ch profiad dysgu.
Bydd cwblhau’r cwrs hwn yn eich helpu i ddatblygu eich gyrfa ym maes addysg wrth gael effaith ystyrlon ar fywydau eich disgyblion. Erbyn y diwedd, byddwch wedi datblygu dealltwriaeth ddyfnach o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol ac wedi cael sgiliau ymarferol i fynd i’r afael ag anghenion pob dysgwr.
Os ydych chi’n angerddol ynghylch sicrhau bod gan bob plentyn fynediad at addysg gynhwysol, bydd yr MA Addysg Cenedlaethol (Cymru): Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn rhoi’r wybodaeth, yr hyder a’r rhwydwaith proffesiynol i chi i arwain y ffordd.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Rhan amser
- Saesneg
- Cymraeg
Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ddilysiad.
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r MA Addysg Cenedlaethol (Cymru) yn cymhwyso ymagwedd gynhwysol ac adfyfyriol at addysgu a dysgu. Wedi’i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol addysg yng Nghymru, mae’r rhaglen yn rhoi i chi sgiliau a yrrir gan ymchwil i fynd i’r afael â heriau maes Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) wrth feithrin cydweithredu, tegwch a rhagoriaeth mewn addysg.
Blwyddyn Un
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen mewn addysg seiliedig ar dystiolaeth trwy fodylau fel Sgiliau Ymchwil ac Ymholiad Uwch a Chydweithio ac Arfer Proffesiynol. Byddwch yn archwilio dulliau i wella’r ddarpariaeth ar gyfer dysgu ychwanegol, gan ganolbwyntio ar ddulliau cynhwysol a theg sydd o fudd i bob disgybl mewn lleoliadau addysgol.
Blwyddyn 2
Mae’r ail flwyddyn yn cyflwyno sgiliau ymarferol a damcaniaethol ar gyfer arweinyddiaeth ac arloesedd. Mae modylau fel Dylunio a Gwireddu Cwricwlwm ac Arfer Ystafell Ddosbarth Cynhwysol yn eich helpu i drosi strategaethau a pholisïau yn ddulliau addysgu effeithiol. Mae’r pwyslais yn parhau i fod ar hyrwyddo tegwch a chynhwysiant wrth gefnogi anghenion disgyblion yn effeithiol.
Blwyddyn 3
Mae’r flwyddyn olaf yn canolbwyntio ar ymchwil arbenigol ac arfer uwch. Byddwch yn cwblhau traethawd hir ac yn archwilio pynciau fel Arweinyddiaeth a Rheolaeth ADY. Mae’r flwyddyn hon yn eich galluogi i arwain newid trawsnewidiol yn eich cymuned addysgol, gan ysgogi’r sgiliau a’r wybodaeth a gafwyd trwy gydol y rhaglen.
Craidd
(20 credydau)
(60 credydau)
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Ymwrthodiad
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Meini prawf ar gyfer lleoedd a ariennir (noder nad yw pob un o’r meini prawf yma yn berthnasol i athrawon sydd yn gwneud cais am le a ariennir yn sgîl eu haelodaeth o’n partneriaeth Addysg Gychwynnol Athrawon, PDPA). Am fanylion ynglŷn â’r llwybr hon, cysylltwch yn uniongyrchol ag a.brychan@pcydds.ac.uk)
Rhaid i bob ymgeisydd fodloni gofynion mynediad academaidd y Brifysgol. I fod yn gymwys, rhaid i chi fod:
- Yn byw yng Nghymru
- Yn meddu ar radd neu gymhwyster cyffelyb
- Yn ddeiliad Statws Athro Cymwysedig (SAC) ac wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu (fel athro ysgol). Rhaid cadw’r statws hwn trwy gydol y rhaglen
- Yn gyflogedig gan ysgol a gynhelir yng Nghymru fel athro
- Yn gyflogedig ar gytundeb 0.4 neu fwy. Gall hyn gynnwys athrawon cyflenwi sydd ar gontractau tymor hir naill ai gydag awdurdod lleol, ysgol neu asiantaeth.
- Ym mlwyddyn 3 i flwyddyn 6 o ymarfer wedi cwblhau’r cyfnod sefydlu, ar ddechrau’r cwrs.
- Wedi eich derbyn/cofrestru i gwblhau’r radd meistr arbennig hwn gydag un o’r saith Prifysgol sydd yn ei ddarparu
- Â chefnogaeth eu pennaeth lle bo hynny’n bosibl
- Os ydych eisoes wedi cyflawni Meistr arall mewn pwnc penodol, rydych yn dal yn gymwys i wneud cais am y cyllid tuag at y rhaglen hon
- Noder: Nid yw graddau meistr eraill a gynigir gan y Brifysgol yn gymwys ar gyfer y cyllid hwn
Amodau penodol y cyllid – ADY / Llwybr Arweinyddiaeth - pob blwyddyn
Rhaid i bawb sydd am wneud cais am gymorth gydnabod yr amodau cyllido penodol canlynol a chytuno â nhw.
Drwy dderbyn y cynnig grant hwn, rhaid i ymarferwyr weithio fel athro neu ddarlithydd yn un o’r lleoliadau canlynol am o leiaf ddwy flynedd ar ôl cwblhau’r rhaglen.
- Ysgol a gynhelir/uned cyfeirio disgyblion yng Nghymru;
- Sefydliad addysg bellach yn y sector addysg bellach yng Nghymru;
- Ysgol annibynnol gofrestredig;
- Coleg arbenigol.
Ni ddylai ymgeiswyr sy’n cael y cyllid hwn wneud cais am ragor o gymorth cyllido astudiaethau ôl-raddedig drwy’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr.
Y broses ar gyfer cael y cyllid
Caiff y grant ei sefydlu rhwng Llywodraeth Cymru a’r sefydliadau addysg uwch sy’n rhan o’r rhaglen. Ni fydd unigolion yn gwneud cais i Lywodraeth Cymru nac i’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr am gymorth.”
Meini prawf ar gyfer myfyrwyr nad sydd yn gymwys i dderbyn cyllid:
Mae gofyn i ymgeiswyr nad sydd yn gymwys i dderbyn lle wedi ei ariannu (h.y. y sawl NAD ydynt ym mlynyddoedd 3-6 o’u gyrfa dysgu) fod wedi cwblhau cymhwyster TAR o fewn y bum mlynedd diwethaf gan amlaf. Byddant felly yn gymwys i gael Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol ac felly yn gallu cychwyn ar flwyddyn dau o’r rhaglen. Y ffi ar gyfer y myfyrwyr yma yw £9,750.
-
Mae’r rhaglen hon yn cynnig profiad galwedigaethol sy’n heriol yn academaidd ac yn ymgorffori dulliau addysgu ac asesu arloesol. Bydd disgwyl i fyfyrwyr fod yn weithredol wrth reoli eu profiad dysgu, bod yn greadigol a chymryd camau i’w datblygu eu hunain.
-
Cyllido Cwestiynau Cyffredin:
Mae meini prawf cymhwysedd y cyllid yn datgan bod yn rhaid imi fod ym mlwyddyn 3 i 6 o ymarfer ar ddechrau’r cwrs. Beth mae hyn yn ei olygu?
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid ichi fod ym mlynyddoedd 3 i 6 o’ch gwaith addysgu ar ôl cwblhau eich cyfnod sefydlu fel ANG pan fydd y cwrs i fod i ddechrau (nid pan fyddwch yn cyflwyno cais)
Oes rhaid imi fod yn gofrestredig gyda Chyngor y Gweithlu Addysg?
Oes, er mwyn bod yn gymwys am gyllid mae’n rhaid ichi fod yn gofrestredig gyda Chyngor y Gweithlu Addysg yn y categori athro ysgol. Mae’n rhaid cynnal hyn am hyd y cwrs.
Pam mae’r cyllid ar gael i athrawon sydd ym mlynyddoedd 3 i 6 o ymarfer yn unig?
Llywodraeth Cymru sy’n cynnig y cyllid ar gyfer y rhaglen hon, fel rhan o’r Pecyn i Athrawon Gyrfa Gynnar.Ar ôl cwblhau fy nghyfnod sefydlu fel ANG, treuliais gyfnod yn gweithio dramor / cymerais saib yn fy ngyrfa. Ydy hyn yn cyfrif?
Ni chaiff amser a dreuliwyd yn gweithio fel athro y tu allan i’r DU, neu amser a gymerwyd fel saib yn eich gyrfa, ei gyfrif fel blynyddoedd yn ymarfer.
Oes angen imi feddu ar gontract athro am isafswm cyfnod, e.e. tymor neu flwyddyn academaidd? Beth fydd yn digwydd os bydd fy nghontract yn dod i ben yn ystod y rhaglen?
Ydych, ar yr amod bod cyfanswm eich contractau yn 0.4CALl neu’n uwch, byddwch chi’n gymwys i gyflwyno cais am gyllid
Mae gen i gyflogaeth fel athro mewn nifer o ysgolion ac mae cyfanswm fy nghontractau yn werth mwy na 0.4 CALl. Ydw i’n gymwys am gyllid?
Gallwch, ar yr amod bod cyfanswm eich contractau yn 0.4CALl neu’n uwch, byddwch chi’n gymwys i gyflwyno cais am gyllid.
Rwy’n athro rhan-amser a/neu’n athro cyflenwi. Ga i gyflwyno cais am gyllid?
Cadarnheir cymhwysedd ar ddechrau’r rhaglen. Ar yr adeg honno, bydd yn rhaid i chi feddu ar gontract ar gyfer o leiaf un tymor.
Oes rhaid imi ymrwymo i weithio yng Nghymru ar ôl imi gwblhau’r MA mewn Addysg?
Wrth dderbyn y cyllid hwn, mae gofyn i athrawon barhau i weithio yng Nghymru, yn y system addysg a gynhelir am isafswm o 2 flynedd ar ôl cwblhau’r rhaglen.
Oes gofyniad o ran cyfnod preswylio cyn i’r cwrs ddechrau?
Er mwyn bod yn gymwys am gyllid, rhaid eich bod wedi bod yn preswylio yng Nghymru am 3 blynedd cyn dechrau’r cwrs ac mae’n rhaid ichi aros yng Nghymru am hyd y rhaglen.
Hoffwn i hunan ariannu; faint yw’r ffioedd?
£6,500
Rydw i wedi astudio ar lefel Meistr o’r blaen. Ydw i’n gymwys am gyllid ar gyfer y rhaglen hon?
Os ydych chi wedi astudio pwnc penodol ar raglen Meistr o’r blaen, rydych yn dal i fod yn gymwys i gyflwyno cais am gyllid (ar yr amod eich bod yn bodloni’r holl feini prawf eraill). Sylwer na fyddwch yn gymwys i gyflwyno cais am gyllid ar gyfer yr MA Cenedlaethol os ydych wedi astudio MEd a ariannwyd o’r blaen.
Roedd fy nghais am gyllid yn aflwyddiannus. Beth yw fy opsiynau?
Os na fydd eich cais am gyllid yn llwyddiannus, gallai fod modd ichi gael lle ar y cwrs o hyd, fel myfyriwr sy’n hunan ariannu.
Roedd fy nghais am gyllid yn aflwyddiannus. Sut ga i apelio yn erbyn y penderfyniad?Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn fodlon ar benderfyniad Panel Dyfarnu Cyllid yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) gysylltu â Chadeirydd y Panel yn y lle cyntaf.
Pwy sy’n penderfynu ar ddyrannu cyllid?
Wrth dderbyn eich cais, bydd y Tîm Derbyn Myfyrwyr yn y sefydliad o’ch dewis yn sicrhau eich bod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd. Yna bydd Panel Dyfarnu Cyllid yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) yn asesu pob cais cymwys er mwyn pennu’r canlyniad a dyfarnu cyllid i’r rhai sy’n llwyddiannus. Mae’r Panel yn cynnwys cynrychiolwyr o bob prifysgol sy’n bartner, ac mae’n atebol i’r Bwrdd Rheoli Cenedlaethol (sydd ag aelodau o Lywodraeth Cymru), er mwyn sicrhau atebolrwydd a goruchwyliaeth eglur.
Sawl lle a ariennir sydd ar gael?
Mae 500 o leoedd a ariennir ar draws partneriaeth yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru)
Ydw i’n gymwys am fenthyciad myfyriwr?
Os dyfernir cyllid Llywodraeth Cymru ichi ar gyfer yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru), mae’n rhaid ichi beidio â chyflwyno cais am gymorth ariannol i ôl-raddedigion drwy’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) hefyd. Caiff myfyrwyr nad ydynt yn derbyn cyllid Llywodraeth Cymru gyflwyno cais i’r SLC.
-
Cynlluniwyd ar gyfer athrawon cymwysedig lle bynnag y bônt yn eu gyrfa.