Seicoleg a Chwnsela
Mae ein Canolfan Seicoleg a Chwnsela yn cyfuno poblogaeth amrywiol o fyfyrwyr gyda thîm o ddarlithwyr profiadol, gan greu amgylchedd dysgu ysgogol yn y cyrsiau sy’n gwella mwynhad myfyrwyr.
Dewch ar daith gyffrous gyda’n rhaglenni gradd Seicoleg a Chwnsela, lle daw myfyrwyr o bob lliw a llun a darlithwyr gwybodus, ymchwilgar ynghyd er mwyn creu amgylchedd dysgu dynamig.
Mae ein casgliad o raglenni wedi’u hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain* a bydd yn cynnwys rhywbeth at ddant pawb; p’un a’ch bod yn ystyried gyrfa ym maes seicoleg neu wasanaethau troseddol, neu â’ch bryd ar weithio ym maes gofal dynol neu iechyd meddwl. Mae pob un o’n rhaglenni yn gyfuniadau cynhwysfawr o wybodaeth seicolegol, cymwysiadau byd go iawn sy’n benodol i’r pwnc, a datblygiad sgiliau ymarferol a throsglwyddadwy.
Cewch fod yn rhan o amgylcheddau dysgu rhyngweithiol a chydweithredol, lle mae addysgu mewn grwpiau bychain yn cael blaenoriaeth dros ddarlithfeydd mawrion, a lle cewch fagu hyder a meithrin amrywiaeth o sgiliau amrywiol a fydd yn sbardun i’ch gyrfa neu’ch astudiaethau ôl-raddedig.
Pam astudio Seicoleg a Chwnsela yn PCYDDS?
Spotlights
Straeon Myfyrwyr
“Mae’r cwrs BSc Seicoleg a Chwnsela wedi bod yn wirioneddol trawsnewidiol o ran fy llwybr gyrfa. Nid yn unig y mae wedi rhoi i mi wybodaeth ac adnoddau gwerthfawr i gefnogi unigolion sy’n wynebu heriau iechyd meddwl, ond yn ystod fy lleoliad yn yr ail flwyddyn, cefais gyfle anhygoel i roi theori ar waith wrth weithio ochr yn ochr ag ymarferwyr iechyd meddwl yn Mind Abertawe.â€- Ashlee Ryan-Rose, Seicoleg a Chwnsela (BSc Anrh)
Cyfleusterau
Yn fyfyriwr Seicoleg a Chwnsela, bydd gennych fynediad i ystod eang o fannau dysgu ac addysgu. Mae gan ein cyfleusterau seicoleg penodedig ar ein campws yn Abertawe gasgliad o labordai wedi’u dylunio i wella eich profiad dysgu. Mae’r rhain yn cynnwys labordai seicometreg, ystafelloedd cyfweld a labordai ymddygiadol a biometreg. Ac mae gan ein holl fyfyrwyr fynediad at amrywiaeth o fannau dysgu ac addysgu ar draws ein campysau.
Beth sy’n gwneud PCYDDS yn unigryw?
Dechreuwch eich antur gyda gradd israddedig yn PCYDDS. Cewch eich trochi mewn pwnc sy’n eich ysbrydoli – gan archwilio gwahanol lwybrau gyrfaol ac opsiynau ar gyfer eich dyfodol ar hyd y daith. Beth bynnag fo’ch uchelgeisiau, gwnawn ni eich helpu i fwrw ati’n syth, gyda’ch goliau mewn golwg yn gadarn.