Peirianneg Fodurol, Mecanyddol a Thrydanol
Rhowch eich troed ar y sbardun gyda’n rhaglenni Peirianneg Fodurol, Mecanyddol a Thrydanol, lle mae dyluniad, datblygiad a gwaith cynnal a chadw cerbydau, peiriannau, a thechnolegau modern yn cael blaenoriaeth yn eich profiad dysgu. Mae’r rhaglenni hyn yn ffurfio clwstwr cynhwysfawr, a chewch ddewis rhaglen a fydd yn eich cludo i fyd o bosibiliadau ac yn eich galluogi i gymryd yr awenau o ran eich dyfodol chi.
Byddwch yn dysgu sgiliau sylfaenol peirianneg yn ogystal â’r sgiliau arbenigol y byddwch chi eu hangen yn y sectorau traddodiadol a’r sectorau sy’n datblygu. Mae cydweithio yn rhan allweddol o’r diwydiant, a byddwch yn datblygu’r sgiliau hyn mewn amgylchedd rhyngddisgyblaethol.
Ein nod yw datblygu graddedigion cyflogadwy sy’n hyderus ac yn barod ar gyfer y gweithlu, ac sydd â sgiliau trosglwyddadwy a sgiliau rhyngbersonol a fydd yn eu gosod ar ben ffordd mewn byd gwaith sy’n esblygu.
Rydym yn credu bod sgiliau peirianneg ddadansoddol a phrofiad ymarferol yn cyd-fynd law yn llaw. Pan fyddwch chi’n astudio unrhyw un o’n rhaglenni Peirianneg Fodurol, Mecanyddol a Thrydanol, byddwch yn cael y profiad hwn trwy weithio a dysgu ar ein campws pwrpasol, modern a blaengar.
Cewch gwrdd â siaradwyr gwadd o’r diwydiannau a’r cwmnïau hynny y mae ein myfyrwyr yn awyddus i weithio â hwy. Byddwn yn darparu adnoddau amhrisiadwy pan fyddwch yn astudio gyda ni, gan gyflwyno profiadau a gwybodaeth o’r byd go iawn yn yr ystafell ddosbarth. Cewch gyfleoedd i feithrin cysylltiadau â’r diwydiant, a dod i adnabod gweithwyr proffesiynol yn y meysydd sydd o ddiddordeb i chi.
Ar rai rhaglenni, bydd ein myfyrwyr yn gallu parhau i ddatblygu’r sgiliau a ddysgwyd yn yr ystafell ddosbarth gyda chyfleoedd i weithio ar leoliadau ac interniaethau. Byddwch yn ennill mwy na chymhwyster gradd ar ddiwedd eich amser gyda ni; rydym yn grediniol y dylem helpu ein myfyrwyr i ddatblygu gyrfaoedd. Yn ein dosbarthiadau bychain, rydym yn meithrin y sgiliau trosglwyddadwy a rhyngbersonol hynny a fydd yn hanfodol i’ch gyrfaoedd yn y dyfodol.
Pam astudio Peirianneg Chwaraeon Moduro, Fecanyddol a Thrydanol yn PCYDDS?
Spotlights
Straeon Myfyrwyr
“Mae’r cyfuniad o wybodaeth arbenigol, y dull o addysgu, y cyfleoedd ymarferol, a chefnogaeth y brifysgol yn gwneud y cwrs hwn yn eithriadol. Rwy’n credu y byddai dilyn y cwrs hwn yn rhoi mantais bendant i unigolion angerddol, ac yn rhoi rhoi sylfaen gadarn iddyn nhw ar gyfer eu hymdrechion yn y maes hwn yn y dyfodol..†- Ilias Iatrakis, Peirianneg Beiciau Modurol (BEng)
Cyfleusterau
Cewch brofiad ymarferol yn ein Hardal Arloesi SA1 pwrpasol o’r radd flaenaf sy’n cynnwys gweithdai, labordai a thechnolegau diweddaraf y diwydiant gan eich galluogi i ragori yn eich astudiaethau.
Cewch fynediad i’r gwahanol feddalwedd a chaledwedd sydd eu hangen arnoch i ragori yn eich astudiaethau.
Timau Rasio Chwaraeon Moduro
Ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae ein rhaglenni Peirianneg Chwaraeon Moduro yn cynnig cyfuniad cyffrous o brofiad ymarferol, technoleg arloesol, a chystadleuaeth byd go iawn. Nid dim ond yn yr ystafell ddosbarth y mae ein myfyrwyr yn dysgu - maent yn cymhwyso eu sgiliau ar y trac rasio, gan weithio ochr yn ochr ag ymarferwyr proffesiynol mewn amgylchedd chwaraeon moduro cystadleuol.