Cyfrifeg a Chyllid
Ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes cyllid, bancio neu gyfrifeg? Rydym yn cynnig rhaglenni israddedig mewn Cyfrifeg a Chyllid Rhyngwladol sydd wedi’u cynllunio i ddiwallu’ch anghenion a rhoi dewisiadau i chi.
Dewiswch PCYDDS i feithrin y wybodaeth, y sgiliau, a’r profiad ymarferol sydd eu hangen i ragori ym meysydd deinamig cyfrifeg, cyllid, bancio a busnes rhyngwladol.
Mae ein rhaglen gradd Cyfrifeg wedi’i strwythuro’n ofalus i ddarparu dealltwriaeth eang o sefydliadau busnes wrth fodloni gofynion trwyadl y ddisgyblaeth a chyrff proffesiynol yn y sector.
Gyda phwyslais cryf ar gyflogadwyedd, mae ein dull gweithredu yn cynnwys prosiectau byw ac ymgyngoriaethau er mwyn rhoi profiad ymarferol i chi. Gallwch hyd yn oed gael eich eithrio o wyth papur Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig, gan fod y rhaglen yn cyd-fynd â safonau cyfrifeg proffesiynol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio cyllid mewn cyd-destun byd-eang, mae ein rhaglen Cyllid Rhyngwladol yn berffaith i chi. Drwy gydol y rhaglen, rydym yn integreiddio sgiliau rheoli prosiectau, entrepreneuriaeth, creadigrwydd, hyfforddi, mentora, meddwl beirniadol a chyfathrebu i’ch paratoi ar gyfer y dirwedd fusnes fyd-eang. Ar Lefel 6, byddwch yn canolbwyntio ar y cyd-destun byd-eang, gan arwain at brosiect annibynnol sy’n ymwneud â mater byd-eang neu sefydliad rhyngwladol.
Pam astudio Cyfrifeg a Chyllid yn PCYDDS?
Spotlights
Cyfleusterau
Amgylcheddau dysgu newydd gydag offer uwchdechnoleg mewn lleoliad ardderchog. Ystafell drochi, yn cynnig cyfleoedd i brofi amrywiaeth o sefyllfaoedd mewn amgylchedd diogel.
Beth sy’n gwneud PCYDDS yn unigryw?
Dechreuwch eich antur gyda gradd israddedig yn PCYDDS. Cewch eich trochi mewn pwnc sy’n eich ysbrydoli – gan archwilio gwahanol lwybrau gyrfaol ac opsiynau ar gyfer eich dyfodol ar hyd y daith. Beth bynnag fo’ch uchelgeisiau, gwnawn ni eich helpu i fwrw ati’n syth, gyda’ch goliau mewn golwg yn gadarn.