ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Beth yw eich cynllun busnes chi? Dewiswch lwybr o’n hystod eang o gyrsiau sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth. Rydym ni’n pontio’r bwlch rhwng theori ac arfer, gan sicrhau eich bod chi’n deall y byd gwaith fel ag y mae go iawn.

Dyma raglen astudio ragweithiol sydd wedi’i dylunio i feithrin y sgiliau a’r meddylfryd y byddwch eu hangen er mwyn llwyddo. 
 
Mae ein Hysgol Fusnes yng Nghaerfyrddin yn cynnig amrywiaeth o raglenni sy’n annog agwedd foesegol, gynaliadwy a phroffidiol at fusnes. Cewch herio modelau’r presennol, archwilio syniadau newydd, a thrin a thrafod datrysiadau arloesol.  

Ar Gampws Busnes Abertawe, rydyn ni’n torri’n cwys ein hunain. Rydym wedi ymgynghori ag arbenigwyr o’r diwydiant er mwyn datblygu rhaglenni sy’n meithrin y sgiliau a’r nodweddion y mae cyflogwyr eu heisiau, gan gynnwys arloesedd, creadigrwydd a mentergarwch. Mae llawer o’n cyrsiau yn cynnig achrediad gyda chyrff proffesiynol o fri. 

Mae ein campysau yn Llundain a Birmingham yn cynnig amrywiaeth o raglenni busnes, gyda’r hyblygrwydd i ddysgu yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau. Cewch ddysgu gan addysgwyr ac academyddion sydd wedi cyfrannu at gwricwlwm sy’n canolbwyntio ar berfformiad ac sy’n cyd-fynd ag anghenion y gweithlu modern. Bydd cyfleoedd hefyd i feithrin cysylltiadau gwerthfawr a chwrdd â gweithwyr proffesiynol ym myd busnes, gan ehangu eich cysylltiadau â’r diwydiant.

Pam astudio Busnes a Rheolaeth gyda PCYDDS?

01
Cefnogaeth bersonol: Sesiynau adborth un-i-un.
02
Academyddion sy’n ymarferwyr: Dysgwch gyda staff sydd â phrofiadau gwirioneddol o’u meysydd.
03
Astudiaeth sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr: Amgylchedd dysgu cymhwysol ac amserlenni sy’n caniatáu hyblygrwydd ar gyrsiau perthnasol.
04
Creu cysylltiadau: Mae Wythnos y Diwydiant yn cynnig cyfleoedd rhwydweithio a chyflogaeth.
05
Prosiectau byw: Cewch drafod materion y byd go iawn er mwyn datblygu safbwyntiau gwahanol a blaengar, i ddatblygu sgiliau effeithiol ac i fod yn barod ar gyfer gwaith.
06
Meddwl newydd: Cyrsiau sydd wedi’u seilio ar egwyddorion cynaliadwyedd a moesegol ac sy'n herio addysg busnes draddodiadol.

Spotlights

Aelod o staff ynghanol trafodaeth gyda gliniadur o'i flaen

Cyfleusterau

Offer digidol uwch dechnoleg. Cyfleusterau llyfrgell yn cynnwys mynediad ar-lein 24/7. Wedi’i wreiddio yn y rhanbarth, cysylltiadau agos ag ardaloedd gwledig a threfol perthnasol

Dau fyfyriwr yn eistedd o flaen y ffynnon ar gampws Llambed

Beth sy’n gwneud PCYDDS yn unigryw?

Dechreuwch eich antur gyda gradd israddedig yn PCYDDS. Cewch eich trochi mewn pwnc sy’n eich ysbrydoli – gan archwilio gwahanol lwybrau gyrfaol ac opsiynau ar gyfer eich dyfodol ar hyd y daith. Beth bynnag fo’ch uchelgeisiau, gwnawn ni eich helpu i fwrw ati’n syth, gyda’ch goliau mewn golwg yn gadarn.

Testimonial

“Yn y pen draw, mae gradd mewn Rheolaeth ac Arweinyddiaeth wedi dysgu’r sgiliau rheoli pwysicaf i mi ac wedi fy helpu i adnabod fy nodau gyrfa."

Bettina Silsby (wedi graddio o’r rhaglen Arweinyddiaeth a Rheolaeth)
Bettina Silsby (Leadership and Management graduate)