Prentisiaeth mewn Peirianneg Systemau Gweithgynhyrchu (Dysgu o Bell) (BEng Anrh)
Mae’r Radd BEng mewn Peirianneg Systemau Gweithgynhyrchu (Rhan-amser) wedi’i theilwra ar gyfer y rhai sy’n awyddus i ddeall a chyfrannu at faes Peirianneg Gweithgynhyrchu. Wedi’i ddatblygu gyda mewnbwn gan gwmnïau gweithgynhyrchu lleol, nod y cwrs hwn yw rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth gadarn o ddeunyddiau technoleg gweithgynhyrchu a’r egwyddorion peirianneg sydd wrth wraidd dulliau diwydiannol modern.
Bydd myfyrwyr yn ennill sgiliau craidd rheoli systemau ansawdd a gweithgynhyrchu, sy’n hanfodol ar gyfer rolau mewn diwydiannau amrywiol. Drwy gydol y rhaglen hon, byddwch yn archwilio cysyniadau o ran Peirianneg Gweithgynhyrchu a Pheirianneg Fecanyddol, sy’n hanfodol wrth ddeall sut mae pethau’n cael eu gwneud, o ddylunio a defnyddiau i gymwysiadau go iawn mewn ffatrïoedd. Mae’r pynciau craidd hyn yn eich paratoi i gwrdd â gofynion deinamig gweithgynhyrchu, sy’n cael ei ddylanwadu’n amlach ac amlach gan dechnoleg ac arferion gweithgynhyrchu cynaliadwy.
Mae’r cwrs hwn yn pwysleisio cymwysiadau yn y byd go iawn trwy ganolbwyntio’n gryf ar ddatrys problemau a gwaith prosiect. Byddwch yn gweithio ar dasgau ymarferol, yn aml mewn cydweithrediad â’n partneriaethau diwydiant, sy’n eich galluogi i gymhwyso gwybodaeth a ddysgwch yn y dosbarth i heriau go iawn yn y diwydiant. Mae gallu cymryd rhan mewn prosiectau byw yn eich helpu i ddatblygu sgiliau gwerthfawr mewn peirianneg systemau gweithgynhyrchu a dysgu nodi datrysiadau sy’n gwneud prosesau’n fwy effeithlon a chynaliadwy. Mae’r profiad ymarferol hwn yn ffordd ddelfrydol o ddatblygu sgiliau a all gefnogi gyrfa fel Peiriannydd Siartredig.
Yn BEng (Anrh) achrededig, mae’r cwrs hwn yn rhannol bodloni’r gofynion academaidd sydd eu hangen ar gyfer cydnabyddiaeth broffesiynol fel Peiriannydd Siartredig, cymhwyster o fri a gydnabyddir yn y DU ac yn rhyngwladol. Er mwyn cymhwyso’n llawn, bydd angen i raddedigion gwblhau dysgu ychwanegol sy’n bodloni gofynion UK-SPEC (Safon y DU ar gyfer Cymhwysedd Peirianneg Proffesiynol), meincnod allweddol ar gyfer y proffesiwn.
Gyda chydbwysedd o wybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol, mae’r rhaglen hon yn darparu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen ym maes gweithgynhyrchu. Os ydych chi’n chwilfrydig ynghylch creu a gwella prosesau, yn mwynhau datrys problemau, ac eisiau gyrfa mewn maes sy’n gwneud gwahaniaeth diriaethol i ddiwydiannau a bywydau pobl, bydd y radd BEng Peirianneg Systemau Gweithgynhyrchu (Rhan-amser) yn rhoi sylfaen gref i chi ddechrau arni.
Manylion y cwrs
- Prentisiaethau
- Saesneg
Ffioedd wedi eu talu gan Lywodraeth Cymru. Dim cost i’r Prentis nac i’r cyflogwr.
Pam dewis y cwrs hwn?
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein hathroniaeth addysgu yn pwysleisio dysgu ymarferol, perthnasedd diwydiant, a meddwl yn feirniadol. Drwy gydol y BEng (Anrh) Peirianneg Systemau Gweithgynhyrchu (Rhan-amser), byddwch yn ennill cyfuniad o wybodaeth sylfaenol a sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer llwyddo ym maes peirianneg gweithgynhyrchu. Mae pob lefel o’r cwrs yn adeiladu ar yr un flaenorol, gan feithrin annibyniaeth, arloesedd ac arbenigedd mewn egwyddorion peirianneg allweddol.
Ar Lefel 4, byddwch yn adeiladu sylfaen gadarn mewn egwyddorion peirianneg craidd trwy fodylau fel Egwyddorion Trydanol ac Electronig a Gwyddor Peirianneg. Byddwch yn datblygu sgiliau dylunio a chymwysiadau peirianneg, yn archwilio defnyddiau a phrosesu, ac yn cryfhau sgiliau datrys problemau gyda mathemateg peirianneg. Mae’r flwyddyn hon yn eich paratoi drwy roi gwybodaeth hanfodol i chi er mwyn astudio ymhellach ac arfer ym maes peirianneg.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Mae Lefel 5 yn canolbwyntio ar gysyniadau uwch rheoli ac awtomeiddio, dadansoddi straen, a dynameg, ac mae’n cyflwyno egwyddorion Belt Gwyrdd Six Sigma ar gyfer rheoli ansawdd. Byddwch yn gweithio ar brosiect grŵp ac yn ymchwilio i reolaeth, arloesi a chynaliadwyedd. Mae modylau fel Gweithgynhyrchu, Dylunio a Thechnoleg yn meithrin sgiliau datrys problemau cydweithredol ac arloesol mewn lleoliad peirianneg proffesiynol.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Ar Lefel 6, byddwch yn ymgymryd â phrosiect annibynnol sy’n eich galluogi i ymgymryd ag ymchwil manwl a rhoi’r hyn rydych wedi’i ddysgu ar waith. Mae’r modylau’n ymdrin â thechnoleg rheoli a dulliau cyfrifiannol, a byddwch yn archwilio peirianneg peiriannau ac asedau yn ogystal â systemau ac efelychu gweithgynhyrchu. Mae’r flwyddyn olaf hon yn cyfuno’ch sgiliau, gan eich paratoi ar gyfer heriau proffesiynol ym maes peirianneg gweithgynhyrchu.
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
testimonial
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
112 Pwyntiau Tariff UCAS
- e.e. Safon Uwch: BBC, BTEC: DMM, IB: 32
Mae hefyd angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg.
Os yw’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi ond nid oes gennych y gofynion mynediad i ymuno â’r brentisiaeth, fe allech ystyried:
- ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hon wedi’i chynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi gan ei bod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudiaethau â chymorth.
Wedi i chi gwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch yn mynd ymlaen yn awtomatig i’r opsiwn gradd lawn amser lle bo ar gael yn y pwnc hwn.
- Tystysgrif mewn Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hon ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf cwrs gradd baglor llawn amser, tair blynedd.
Wedi i chi gwblhau eich astudiaethau TystAU yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o opsiwn gradd baglor llawn amser yn y pwnc hwn.
Mae’r llwybrau hyn yn ddelfrydol os nad ydych yn gweithio yn y sector, rydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y brentisiaeth hon.
Cyngor a Chymorth Derbyn
Fe allwn wneud cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn “Cynigion Cyd-destunol”. I gael cyngor a chymorth penodol gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau am ragor o wybodaeth ynglŷn â gofynion mynediad.
-
Addysgir myfyrwyr drwy gyfres o ddarlithoedd, tiwtorialau, labordai a sesiynau ymarferol. Caiff cynnydd ei asesu drwy aseiniadau, arholiadau a phrosiectau unigol.
Un o brif rannau’r flwyddyn olaf fydd prosiect y flwyddyn olaf. Prosiect seiliedig ar waith yw hwn a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio’r wybodaeth a ddatblygwyd gydol y cwrs i ddatrys problem go iawn ym maes peirianneg yn y gweithle.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &Բ;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg.