ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Peirianneg Fecanyddol (Llawn amser) (MSc)

Abertawe
1 Blynedd Rhan amser

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sy’n awyddus i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau mewn Peirianneg Fecanyddol. Mae’n agored i fyfyrwyr sydd ag amrywiaeth o gymwysterau israddedig, gan gynnwys peirianneg fecanyddol, peirianneg ddylunio, peirianneg sifil, a pheirianneg gweithgynhyrchu. Mae’r cwrs hefyd yn ddelfrydol ar gyfer rheolwyr profiadol sy’n awyddus i ddyfnhau eu harbenigedd ac ennill cymwysterau addysgol gwerthfawr.

Drwy gydol y rhaglen, bydd myfyrwyr yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym maes peirianneg. Mae’r meysydd allweddol a gwmpesir yn cynnwys methodolegau darbodus a methodolegau ystwyth, sy’n helpu peirianwyr i reoli prosesau’n effeithlon ac addasu i newidiadau yn effeithiol. Byddwch yn dysgu technegau Six Sigma i wella ansawdd ac ennill dealltwriaeth o  egwyddorion rheoli ansawdd sy’n hanfodol er mwyn cynnal safonau uchel mewn prosiectau peirianneg.

Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn astudio  rheolaeth y gadwyn gyflenwi a chaffael, sy’n hanfodol ar gyfer goruchwylio adnoddau a chydlynu â chyflenwyr - set sgiliau y mae galw mawr amdani gan gyflogwyr. Bydd y cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth eang a pherthnasol i chi o’r sgiliau hyn, gan wneud i chi sefyll allan yn y farchnad swyddi peirianneg sydd ohoni.

Mae’r rhaglen hefyd yn archwilio technegau peirianneg fecanyddol uwch a dylunio systemau mecanyddol, gan roi profiad ymarferol i chi o greu systemau effeithlon a dibynadwy. Byddwch yn dysgu am brosesau gweithgynhyrchu a’r ystyriaethau amgylcheddol a diogelwch sy’n sicrhau bod prosiectau’n bodloni safonau diogelwch ac yn ystyried eu heffaith ar yr amgylchedd ar yr un pryd.

Yn fyfyriwr, byddwch yn datblygu sgiliau datrys problemau trwy aseiniadau ymarferol a phrosiectau ymchwil. Mae’r cwricwlwm hefyd yn cynnwys sgiliau rheoli prosiectau sy’n hanfodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol peirianneg, gan eich paratoi i arwain timau a rheoli prosiectau cymhleth yn effeithiol.

Mae’r rhaglen MSc hon yn ddewis ardderchog i’r rhai sy’n awyddus i ennill set sgiliau y mae galw mawr amdani sy’n cael ei gwerthfawrogi ar draws ystod o ddiwydiannau. P’un a ydych yn awyddus i symud ymlaen mewn diwydiant neu ddilyn ymchwil, mae’r cwrs hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r profiad ymarferol sydd eu hangen arnoch i gael gyrfa lwyddiannus ym maes peirianneg fecanyddol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Blynedd Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Datblygwyd y rhaglen mewn partneriaeth â’r diwydiant.
02
Astudiwch ar ein campws o’r radd flaenaf gwerth £350m yng Nglannau Abertawe.
03
Cysylltiadau helaeth â’r diwydiant a phrosiectau diwydiannol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein hymagwedd addysgu yn cyfuno sgiliau ymarferol â meddwl beirniadol, gan ddarparu sylfaen gadarn ar gyfer gyrfaoedd ym maes peirianneg fecanyddol. Gyda ffocws ar gymwysiadau yn y byd go iawn a pherthnasedd i’r diwydiant, ein nod yw paratoi myfyrwyr i ddatrys heriau peirianneg cymhleth, gan ddefnyddio technegau arloesol a methodolegau sydd wedi’u hen sefydlu.

Yn y cwrs un flwyddyn hwn, byddwch yn astudio pynciau craidd fel Mecanweithiau Methiant Deunyddiau, Dylunio ac Efelychu Peirianneg, a Six Sigma Darbodus. Bydd modylau fel Profion Anninistriol a Roboteg ac Awtomeiddio mewn Gweithrediadau yn ehangu eich arbenigedd technegol. Fe gewch hefyd fewnwelediad i Reolaeth Gweithrediadau Cynaliadwy ac yn datblygu sgiliau ymchwil ar gyfer eich Prosiect Meistr.

Mecanweithiau Methiant Deunyddiau

(20 credydau)

Dylunio Peirianneg ac Efelychu

(20 credydau)

Six Sigma Darbodus

(20 credydau)

Profi Anninistriol

(10 credydau)

Roboteg ac Awtomatiaeth mewn Gweithredoedd

(20 credydau)

Rheolaeth Gweithredoedd Cynaliadwy

(20 credydau)

Dulliau Ymchwil

(10 credydau)

Prosiect Gradd Meistr

(60 credydau)

Ymwrthodiad

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

    • Gradd anrhydedd dosbarth 2.2 neu uwch mewn disgyblaeth briodol. Sgôr GPA o 2.5 neu’n uwch.
    • Mae natur y rhaglen o’r fath fel y caiff ymgeiswyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd eu hystyried.

    Cymwysterau cyfwerth

    • Ystyrir cymwysterau cyfwerth ar gyfer mynediad ar y rhaglen. Er enghraifft, byddai’r brifysgol yn ystyried ymgeisydd sydd â HND da, ynghyd ag o leiaf bum mlynedd o brofiad perthnasol. Byddai disgwyl i ymgeisydd ddarparu tystiolaeth i gefnogi eu cais.

    Sgiliau eraill a ystyrir

    • Nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd; rydym yn ystyried eich sgiliau, eich cyraeddiadau a phrofiad bywyd hefyd.
    • Ceisir tystiolaeth o brofiad personol, proffesiynol ac addysgol, i ddarparu dangosyddion o allu unigolyn i fodloni gofynion y rhaglen.
  • Mae asesu ar y rhaglen feistr yn gyfuniad o asesiadau ysgrifenedig, arholiadau a chyflwyniadau. Gallai asesiad arferol ofyn i chi ymchwilio i broblem yn y diwydiant a gwneud awgrymiadau am welliannau gan ddefnyddio’r dulliau a’r technegau a ddysgwyd gennych mewn modwl arbennig neu ar draws y rhaglen.

    Mae’r modwl Prosiect Meistr 60 credyd yn gofyn i chi gyflwyno traethawd hir neu bortffolio o hyd at 15,000 o eiriau. Mae’n adeiladu ar y gwaith a’r sgiliau rydych chi wedi eu cael trwy gwblhau’r modylau blaenorol ar y cwrs.

    Cewch chi eich cefnogi trwy eich aseiniadau gan eich tiwtoriaid cwrs. Mae rhagor o help ar gael o raglen Sgiliau Academaidd a Gwybodaeth y Llyfrgell. 

  • Mae’n bosibl llenwi’r cwrs hwn heb greu unrhyw gostau ychwanegol, ond dylai myfyrwyr ddisgwyl talu’r costau a ddaeth i’w rhan trwy gyfarfodydd prosiect mewn cwmnïau ac ymweliadau myfyrwyr.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae gan y DU brinder peirianwyr; bydd graddedigion y rhaglen hon mewn sefyllfa dda i lwyddo ym marchnad swyddi’r DU.

    Mae’r rhaglen hon yn rhoi ystod eang o sgiliau proffesiynol a chymwyseddau sy’n drosglwyddadwy mewn sectorau busnes ac o’r naill sector i’r llall. Mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau llafar ac ysgrifenedig i alluogi unigolion i dyfu mewn hyder trwy’r rhaglen astudio.

    Y cyfleoedd gyrfa arferol yw rheolwr sifftiau, goruchwyliwr cynhyrchu, rheolwr peirianneg, rheolwr ansawdd, cynllunio ac amserlenni, rheolwr/cyfarwyddwr gweithrediadau.

    Mae ein holl raddedigion sydd wedi astudio cyrsiau meistr rhan-amser tebyg wedi cael dyrchafiad wrth astudio, neu ar ôl cwblhau eu hastudiaethau, y maen nhw wedi’u priodoli i’w cymhwyster.

    Elwodd graddedigion iau o well posibiliadau cyflogaeth a chanfuwyd eu bod yn gallu cael swydd yn beiriannwr llinell, peiriannwr ansawdd ac arbenigwr cadwyni cyflenwi.

    Bellach mae nifer o gwmnïau wedi cydnabod bod y cwrs hwn yn ofyniad allweddol er mwyn sicrhau dyrchafiad neu sydd â swydd benodol.

Mwy o gyrsiau Peirianneg Fodurol, Mecanyddol a Thrydanol

Chwiliwch am gyrsiau