şÚÁĎłÔąĎÍř

Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch iawn o ddathlu llwyddiannau Lydia Davey, myfyriwr graddedig diweddar y mae ei hanes yn un o ailddarganfod ei hangerdd a phenderfyniad, gan arwain at gwblhau rhaglen y Blynyddoedd Cynnar yn PCYDDS yn llwyddiannus.

Lydia Davey in her graduation gown in Swansea Bay Arena

O oedran ifanc, roedd gan Lydia ddiddordeb mawr mewn gweithio gyda phlant. Fodd bynnag, ar Ă´l gorffen yn y coleg, nid oedd ganddi’r hyder i wneud cais am le yn y brifysgol a dechreuodd ar yrfa pedair blynedd mewn manwerthu, gan roi ei huchelgeisiau o’r neilltu dros dro. Fe wnaeth genedigaeth ei brawd, gyda bwlch oedran o 18 mlynedd rhyngddynt, ailgynnau ei hangerdd am ofal plant. “Roeddwn i bob amser yn mwynhau helpu i ofalu amdano a threulio amser gydag ef,” cofia Lydia. “Yn ystod cyfnod clo COVID-19, sylweddolais mai gweithio gyda phlant oedd y maes roeddwn i wir eisiau bod ynddo.”

Yn 2021, ar Ă´l tri mis i mewn i swydd amser llawn mewn optegydd, penderfynodd Lydia na allai barhau mewn swydd nad oedd yn dod â hapusrwydd iddi. Cysylltodd â PCYDDS a derbyniodd arweiniad ar y cyrsiau oedd ar gael a’r broses ymgeisio. “Ar Ă´l cyfnod byr, cefais fy nerbyn i’r rhaglen Blynyddoedd Cynnar,” meddai Lydia. “Dewisais PCYDDS oherwydd y canlyniadau uchel ar gyfer y cwrs yr oedd gennyf ddiddordeb ynddo. Roedd byw yn Llanelli, cyfleustra campysau Abertawe a Chaerfyrddin hefyd yn ffactor arwyddocaol yn fy mhenderfyniad.”

Denodd natur gynhwysfawr rhaglen y Blynyddoedd Cynnar Lydia. “Ar Ă´l siarad â Dr Glenda Tinney am y cwrs a dysgu am yr hyn y mae’n ei olygu, dewisais y cwrs hwn oherwydd ei fod yn agor ystod eang o gyfleoedd, yn enwedig gydag ochr statws ymarferwr y radd,” eglura.

Roedd nodau Lydia yn glir: ennill y wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i weithio’n hyderus gyda phlant ifanc ac agor cyfleoedd gyrfa newydd mewn addysg plentyndod cynnar. Roedd uchafbwyntiau’r cwrs i Lydia yn cynnwys y swm helaeth o wybodaeth a gafodd a’r cyfeillgarwch a wnaeth. “Yn bersonol, uchafbwyntiau’r cwrs oedd faint o wybodaeth rydw i wedi’i chael a gwneud grŵp gwych o ffrindiau gydol oes,” mae’n rhannu.

Rhan sylweddol o astudiaethau Lydia oedd yr opsiwn statws ymarferwr, a oedd yn gofyn am gwblhau 700 awr o brofiad gyda phlant ifanc. Roedd y profiad ymarferol hwn yn amhrisiadwy. “Mae’r holl brofiad wedi gwneud i’m hyder dyfu ac wedi fy arfogi’n dda ar gyfer y dyfodol,” meddai Lydia.

Roedd cydbwyso astudiaethau a phrofiad ymarferol yn her, ond bu ymroddiad Lydia a’r gefnogaeth gan PCYDDS yn gymorth iddi eu goresgyn. “Byddwn yn argymell y cwrs hwn i eraill oherwydd y gefnogaeth wych gan bob un o’r darlithwyr, strwythur y darlithoedd, a maint y dosbarthiadau bach,” mae Lydia yn frwd. “Mae’r cwrs yn agor ystod eang o gyfleoedd.”

Mae effaith rhaglen y Blynyddoedd Cynnar ar Lydia wedi bod yn ddwys, yn broffesiynol ac yn bersonol. “Mae’r cwrs hwn eisoes wedi fy helpu mewn cymaint o ffyrdd,” meddai. “Ar Ă´l cwblhau fy 700 awr o leoliad, cefais gynnig swydd yn y feithrinfa lle’r oeddwn yn gwirfoddoli. Cefais gynnig swydd hefyd mewn ysgol gynradd yr oeddwn yn gwirfoddoli ynddi yn ystod fy mlwyddyn gyntaf. Yn bersonol, rwyf wedi magu llawer o hyder ac wedi manteisio ar gyfleoedd efallai nad oedd gennyf o’r blaen.”

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein rhaglenni Gwaith Ieuenctid, Blynyddoedd Cynnar ac Eiriolaeth.

/cy/subjects/gwaith-ieuenctid-ac-astudiaethau-blynyddoedd-cynnar 


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
ąó´ÚĂ´˛Ô:&˛Ô˛ú˛ő±č;07384&˛Ô˛ú˛ő±č;467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon