Un o Raddedigion PCYDDS yn Gobeithio Trawsnewid Addysg Blynyddoedd Cynnar
Mae Ashley Macdonald, a raddiodd o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn ddiweddar â BA mewn Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar, yn dathlu’i gyflawniad nodedig ac yn rhannu’i daith galonogol i mewn i fyd addysg.
Dewisodd Ashley astudio yn PCYDDS ar ôl clywed cymeradwyaeth wresog gan deulu a ffrindiau a oedd yn canmol y brifysgol. Gan adfyfyrio ar ei brofiad, meddai:
“Y gwaith grŵp oedd fy hoff ran o’r cwrs. Caniatâi i mi ffurfio cyfeillgarwch gydol oes, ac roeddem ni’n gefn i’n gilydd drwy’r amseroedd da a’r amseroedd heriol.”
Roedd penderfyniad Ashley i ddilyn y maes hwn yn bersonol iawn. Ei fab, sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), a’i symbylodd i fynd i faes addysg blynyddoedd cynnar.
“Gwnaeth gweld trafferthion fy mab fy hun f’ysbrydoli i wneud gwahaniaeth mewn addysg i blant eraill sy’n wynebu heriau tebyg.”
Gydol ei astudiaethau, gwelai Ashley fod y cwrs hefyd wedi llwyddo i gynyddu’i hyder, yn ogystal â’i ddatblygu fel unigolyn.
“Mae’r cwrs hwn wedi fy natblygu mewn ffyrdd nad oeddwn yn meddwl eu bod yn bosibl. Cefais wybodaeth helaeth am addysg blynyddoedd cynnar, o ddeall amryw o ddamcaniaethwyr addysgol i archwilio dulliau dysgu ac addysgu gwahanol. Rwy’n awyddus i gymhwyso’r wybodaeth hon yn fy ngyrfa yn y dyfodol.”
Hefyd priodolai Ashley ei lwyddiant i’r darlithwyr cefnogol yn PCYDDS.
“Roedd y darlithwyr yn ffantastig – llawn gwybodaeth, yn agos atoch, ac yn ddeallgar iawn. Roedd llawer ohonom ni’n cydbwyso gwaith a bod yn rhiant, ac fe lwyddon nhw bob tro i gael ffyrdd o’n helpu i reoli’r llwyth gwaith.”
Mae’i ymrwymiad i addysg yn parhau wrth iddo gychwyn ar bennod nesaf ei daith academaidd. Ar hyn o bryd mae Ashley yn dilyn cwrs TAR Cynradd yn PCYDDS, gan gyflawni’i freuddwyd o ddod yn athro ysgol gynradd.
Meddai’r Darlithydd a Thiwtor Derbyn Blynyddoedd Cynnar, Glenda Tinney:
“Mae Ashley wedi bod yn rhan ganolog o’r grŵp dysgu hyblyg. Roedd ei gyfraniad i drafodaeth yn y dosbarth mor werthfawr a’i gipolwg ar Anghenion Dysgu Ychwanegol yn amhrisiadwy i fyfyrwyr a staff wrth ddeall y cyfleoedd a’r heriau wrth gefnogi plant bach. Roedd ymrwymiad Ashley ei hun i wella profiadau ac addysg plant bach yn dod i’r amlwg drwyddi draw. Rwyf wrth fy modd ei fod bellach yn cychwyn ar TAR. Mae angen myfyrwyr brwdfrydig sy’n cymryd diddordeb fel Ashley ar y sector addysg, ag ymrwymiad i hawliau a llesiant plant.
“Mae’r radd dysgu hyblyg yn cyfrannu ymarferwyr profiadol i’r proffesiwn addysgu bob blwyddyn ac rydym ni wrth ein boddau i weld y gwahaniaeth maent yn eu gwneud mewn cymunedau ysgol.
“Da iawn Ashley, a llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr.”
I’r rheini sy’n ystyried y cwrs BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar, mae gan Ashley gyngor o’r galon:
“Ewch amdani. Mae’r cwrs wedi’i lunio i ffitio o gwmpas gwaith a bywyd teulu. Mae’n heriol, ond mae’r gefnogaeth gan ffrindiau a darlithwyr yn ei wneud yn werth yr ymdrech. Bedair blynedd ar ddeg yn ôl, tynnais i’n ôl o’r brifysgol. Nawr, rwy’n falch i’m galw fy hun yn fyfyriwr graddedig!”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476