Gyrru ymlaen mewn Dylunio Modurol: o'r Drindod Dewi Sant i Jaguar Land Rover
Mae myfyriwr BA Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth talentog, Harry De La Riviere, yn dathlu carreg filltir yn ei addysg a’i yrfa yr haf hwn wrth iddo raddio o Goleg Celf Abertawe yn Y Drindod Dewi Sant, ar ôl sicrhau rôl gyffrous eisoes gyda’r gwneuthurwr cerbydau moethus, Jaguar Land Rover (JLR).
Mae Harry wastad wedi bod yng nghanol y byd dylunio. Gyda rhieni a oedd yn benseiri ac yn ddylunwyr mewnol, nid yw’n syndod iddo ddatblygu brwdfrydedd dwys am y grefft, gan ei arwain yn y pen draw i ddilyn ei yrfa ei hun ym maes dylunio.
Mae’r rhaglen BA Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth yn creu dylunwyr, cerflunwyr clai a digidol, a modelwyr caled yn y diwydiant modurol a thrafnidiaeth, ac mae’n rhaglen unigryw a gynigir gan ychydig o brifysgolion yn y DU yn unig.
I Harry, maint y dosbarthiadau bach a’r gefnogaeth unigol a wnaeth ddewis Y Drindod Dewi Sant dros brifysgolion eraill yn benderfyniad hawdd. Meddai:
“Wrth gymharu maint dosbarthiadau mewn prifysgolion eraill â’r rhai llai yma yn Y Drindod Dewi Sant, roeddwn i’n gwybod y byddwn i’n cael profiad addysgu mwy cadarnhaol a phersonol yn Abertawe, o fewn cymuned glos.”
Un o uchafbwyntiau’r cwrs iddo oedd y cysylltiadau cryf â’r diwydiant y mae adran Dylunio Modurol Y Drindod Dewi Sant yn adnabyddus amdanynt, gan gydweithio ochr yn ochr â chewri fel JLR, Rolls Royce a CALLUM Designs. Meddai Harry: “Roedd y cysylltiadau â’r diwydiant, y darlithwyr gwadd a’r prosiectau byw a gynigir ar y cwrs yn amhrisiadwy ac wedi siapio fy addysg a’m gyrfa.”
Gwnaeth Harry argraff ar ei gyflogwr newydd JLR am y tro cyntaf yn ystod ei ail flwyddyn pan gwblhaodd fodwl Ymarfer Proffesiynol. Cymerodd Harry a’i gyd-fyfyrwyr ran mewn prosiect byw gyda’r cwmni elitaidd a chawsant y dasg o ailgynllunio’r brandiau eiconig: Defender, Range Rover a Discovery.
Cynhaliwyd y cyflwyniadau terfynol yn Ystafelloedd Trochi Y Drindod Dewi Sant lle daliodd gwaith eithriadol Harry lygad James Watkins, Arbenigwr Creadigol yn JLR. Gyda Harry wedi gwneud argraff arno o’r cychwyn cyntaf, cymerodd Watkins ef o dan ei adain. Arweiniodd y bartneriaeth hon at JLR yn noddi prosiect mawr diwedd blwyddyn Harry, gan ddarparu mentora ac adnoddau amhrisiadwy.
Mae Harry yn dechrau ei daith broffesiynol fel Dylunydd Allanol yn JLR cyn iddo fe raddio yr wythnos hon. Gan fyfyrio ar ei amser yn Y Drindod Dewi Sant, mae’n hyderus bod yr addysg a’r profiadau a gafodd wedi ei baratoi’n dda ar gyfer y bennod nesaf hon.
Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;+447482256996