Taith prentis Cyfrifiadura i'w swydd ddelfrydol
Drwy radd-brentisiaeth, mae Karen Windsor wedi trawsnewid ei gyrfa a sicrhau ei rôl ddelfrydol, gan fynd i’r afael â nifer o heriau personol ar hyd y ffordd. Mae’n arddangos twf a dyfalbarhad wrth iddi raddio gyda gradd Baglor mewn Cyfrifiadura yn seremoni raddio’r gaeaf.
A hithau bellach yn Rheolwr Gweithrediadau Codio Clinigol yn Ymddiriedolaeth GIG y Royal United Hospital Caerfaddon, roedd gan Karen eisoes 20 mlynedd o brofiad yn gweithio i’r GIG mewn Codio Clinigol. Fodd bynnag, roedd hi’n teimlo bod ei llwybr gyrfa wedi’i gyfyngu, gyda’i set sgiliau â ffocws cyfyng ac ond ychydig o gyfle i estyn allan i faes newydd.
Wedi’i hannog gan yr adran Adnoddau Dynol ac wedi’i chefnogi gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn eu menter i uwchsgilio eu staff, penderfynodd Karen ddilyn Prentisiaeth mewn Cyfrifiadura (Systemau Data a Gwybodaeth).
“Dewisais i Systemau Data a Gwybodaeth gan fod data yn fy maes gwaith ac roeddwn i’n meddwl y byddai’n rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i mi gamu y tu allan i’r bocs.”
Nid oedd taith Karen heb unrhyw heriau, gan ddechrau gyda hunan-amheuaeth a’r panig a deimlai wrth wynebu dysgu sgiliau a gwybodaeth newydd:
“Ar y dehcrau, roeddwn i wir yn stryffaglio. Roedd fy sgiliau TG y nesaf peth i ddim a roeddwn i’n wir yn amau a fyddwn i’n gallu gwneud hynny.
“Roeddwn i wedi bod allan o addysg er 30 mlynedd ac roeddwn i’n ymwybodol iawn fy mod i’n ddigon hen i fod yn fam i’r rhan fwyaf o’r myfyrwyr. Roeddwn i’n poeni na fyddwn i’n gallu cadw i fyny â’u hymenyddiau ifanc.”
Er gwaethaf ei phryder cychwynnol, daeth Karen o hyd i gymuned gefnogol ymhlith ei chyd-fyfyrwyr.
“Uchafbwynt y cwrs oedd y ffrindiau wnes i. Dwi erioed wedi cwrdd â grŵp mor wych o bobl. Heb eu cefnogaeth, fyddwn i ddim wedi gallu pasio. Maen nhw wedi fy nghadw i fynd.”
Rhoddwyd prawf pellach ar benderfyniad Karen yn ystod ei blwyddyn olaf pan fwrodd trasiedi’r teulu. Er gwaethaf yr amgylchiadau heriol hyn, parhâi Karen i fod yn ymrwymedig i’w hastudiaethau ac mae’n rhoi clod i staff PCYDDS o ran ei harwain drwy’r darn olaf.
“Roedd y swyddogion lles myfyrwyr yn anhygoel gan drefnu estyniadau ar gyfer dau o fy modylau, a llwyddais i gyflwyno fy ngwaith ychydig wythnosau yn unig ar ôl fy nghyd-fyfyrwyr.
“Fe wnaeth fy narlithwyr fy helpu gyda fy mhrosiect terfynol a gyflwynais mewn pryd. Rwyf mor falch o’r hyn a greais i, diolch i’w cymorth a’u cefnogaeth.”
A hithau’n graddio ym mis Tachwedd eleni yn Neuadd Brangwyn, Abertawe, mae Karen yn dangos bod ei gwaith wedi talu ar ei ganfed, nid yn unig drwy gwblhau’r radd ond hefyd drwy sicrhau ei swydd ddelfrydol.
“Eleni, fe wnes i sicrhau’r rôl roeddwn i wedi dymuno’i chael erioed. Rwy’n dal i fod ym maes codio clinigol, ond nawr rwyf wedi adeiladu fy nangosfwrdd fy hun wedi’i bweru gan sgriptiau SQL a ysgrifennais fy hun, ac rwy’n datblygu tabl warws data newydd i awtomeiddio prosesau codio gan ddefnyddio’r wybodaeth a gefais o’r cwrs. “
Yn ei hyder y cafwyd y newid mwyaf.
“Roedd y modylau, megis AI, cloddio data, a rhwydweithio, yn uniongyrchol berthnasol i’m swydd, gan fy helpu i ddeall anghenion cydweithwyr a chyfathrebu’n effeithiol. Dwi bellach ddim yn dibynnu ar bobl eraill am arweiniad ac rwy’n ymchwilio’n hyderus ac yn datrys problemau ar fy mhen fy hun - cyflawniad personol enfawr.”
Mae’n annog pobl eraill i ystyried gradd-brentisiaeth, gan ddweud: “Mae’n ehangu eich gorwelion ac yn rhoi’r hyder i chi ragori mewn meysydd nad oeddech chi erioed wedi’u hystyried o’r blaen. Byddwn yn ei argymell i unrhyw un - mae’n gyfle i’ch ailddiffinio eich hun.”
Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;+447482256996