Actio (Llawn amser) (BA Anrh)
Mae ein rhaglen Actio wedi’i chynllunio i roi’r holl sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn gweithio yn y diwydiannau perfformio a chreadigol. Mae’n cyfuno hyfforddiant ymarferol â pharatoi proffesiynol i’ch helpu i ddod yn berfformiwr amryddawn a medrus.
Mae’r rhaglen yn hynod ymarferol ac yn canolbwyntio ar ddiwydiant, gydag ymagwedd aml-sgil sy’n cynnwys amrywiaeth o arddulliau perfformio, gan gynnwys actio llwyfan, sgrin a llais. Byddwch yn dysgu gwahanol dechnegau actio megis dulliau cymeriadu wedi’u sgriptio, dyfeisio a byrfyfyr. Mae’r ymagwedd amrywiol hon yn sicrhau eich bod wedi’ch paratoi’n dda ar gyfer unrhyw senario perfformiad.
Fel rhan o’ch hyfforddiant, byddwch yn cymryd rhan mewn cydweithio creadigol ar draws portffolio’r Celfyddydau Perfformio. Mae’r profiad ymarferol hwn yn hanfodol ar gyfer datblygu eich sgiliau perfformio a deall sut i weithio’n effeithiol gydag eraill yn y diwydiant. Mae ein ffocws ar ddull ar sail berfformio’n golygu y byddwch yn treulio llawer o amser mewn gweithdai ymarferol ac ystafelloedd ymarfer, gan fireinio eich sgiliau actio ac yn dysgu mynegi eich hun yn greadigol.
Byddwch yn cael y cyfle i weithio gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant drwy gydol eich hyfforddiant, gan ennill dealltwriaeth o arferion gwaith cyfredol ac adeiladu rhwydweithiau o fewn y diwydiannau creadigol. Mae’r profiad ymarferol hwn yn allweddol i adeiladu eich hunaniaeth perfformiwr a’ch paratoi ar gyfer gyrfa fel actor proffesiynol.
Bydd ein hyfforddiant yn eich paratoi ar gyfer gyrfa bortffolio, lle gallech ymwneud ag amrywiol agweddau ar y byd perfformio. Bydd y sgiliau a enillwch nid yn unig yn ddefnyddiol ar gyfer actio ond hefyd yn drosglwyddadwy i rolau eraill megis cynhyrchu, datblygu cyfryngau a rheoli prosiectau. Yn ogystal, byddwch yn ennill profiad mewn addysgu ac arwain gweithdai, sy’n sgiliau gwerthfawr ar gyfer nifer o lwybrau gyrfa.
Mae’r rhaglen yn adlewyrchu tueddiadau cyfredol yn y sector creadigol ac fe’i cyflwynir mewn lleoliad tebyg i conservatoire. Mae hyn yn golygu y byddwch yn derbyn lefel uchel o hyfforddiant, sy’n cyd-fynd yn agos â safonau proffesiynol. Bydd natur ymdrochol y cwrs yn eich herio i dyfu’n bersonol ac yn broffesiynol, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa ddeinamig yn y diwydiannau perfformio a chreadigol.
Erbyn diwedd y cwrs, byddwch wedi datblygu amrywiaeth o sgiliau ymarferol a dealltwriaeth ddofn o dechnegau actio, gan eich paratoi i gamu i fyd actio proffesiynol neu chwilio am gyfleoedd amrywiol eraill o fewn y sector creadigol.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
- Dwyieithog
Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Rydym yn credu mewn dull ymarferol, ymdrochol o ddysgu sy’n cyfuno profiad ymarferol ag archwilio creadigol. Mae ein rhaglen Actio yn meithrin amgylchedd cefnogol lle byddwch yn datblygu eich sgiliau technegol a chreadigol, gan eich paratoi i ffynnu ym myd deinamig perfformio. Drwy gydol y cwrs, cewch eich arwain gan diwtoriaid a gweithwyr proffesiynol y diwydiant a fydd yn eich helpu i fagu hyder, mireinio technegau, a meithrin creadigrwydd fel cydweithwyr a pherfformwyr. Mae’r cyfuniad hwn o theori ac ymarfer yn sicrhau eich bod mewn sefyllfa dda i lwyddo mewn rolau perfformio amrywiol.
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn gosod y sylfaen ar gyfer eich gyrfa actio trwy archwilio ystod eang o sgiliau. Byddwch yn cymryd rhan mewn perfformiadau cerddorol, llais a symud a gwaith byrfyfyr er mwyn creu sylfaen gadarn. Byddwch hefyd yn ymchwilio i dechnegau actio ac arferion cynhyrchu, wrth ddatblygu eich dealltwriaeth o faterion cyfoes drwy brosiectau creadigol. Mae’r flwyddyn hon yn gosod y sylfaen ar gyfer perfformio ymarferol a dysgu damcaniaethol.
Compulsory
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credyd)
(20 credyd)
Optional
(20 credydau)
Mae eich ail flwyddyn yn canolbwyntio ar fireinio’ch crefft ac ehangu eich gwybodaeth am y diwydiant. Byddwch yn gweithio ar sgript ac ymarfer, cynhyrchu ffilmiau byr a pherfformio Shakespeare er mwyn dyfnhau eich profiad actio. Yn ogystal, byddwch yn cael dealltwriaeth o ddrama mewn addysg a’r diwydiant creadigol ac yn cael cyfleoedd ar gyfer lleoliad gwaith neu gyfle symudedd rhyngwladol er mwyn astudio dramor. Mae’r flwyddyn hon yn gwella eich sgiliau ymarferol a’ch parodrwydd proffesiynol.
Compulsory
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credyd)
Optional
(20 credydau)
(20 credydau)
(60 Credyd)
Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â phrosiectau perfformiad sylweddol sy’n dangos eich arbenigedd ac yn eich paratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Byddwch yn cwblhau prosiect annibynnol ac yn cymryd rhan mewn theatr safle-benodol ac ymarfer proffesiynol. Mae mwy o gyfleoedd ar gyfer lleoliadau gwaith a symudedd rhyngwladol i astudio dramor ar gael, gan eich galluogi i roi eich sgiliau i weithio mewn lleoliadau byd go iawn a chadarnhau eich llwybr proffesiynol.
Compulsory
(40 credydau)
(30 credydau)
(20 credydau)
(30 credydau)
Optional
(20 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(60 Credyd)
(10 credyd)
Course Page Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Facilities
Cyfleusterau
Fel myfyriwr yn y diwydiannau perfformio yng Nghaerfyrddin, cewch fynediad at amrywiaeth o weithdai, mannau theatr, stiwdios ac ystafelloedd ymarfer.
Cwrdd â’n Myfyrwyr
Cwrdd â’n Myfyrwyr
Newyddion
Newyddion
Gwybodaeth allweddol
-
Mae mynediad yn seiliedig ar deilyngdod unigol a 64 o bwyntiau UCAS. Ar ôl gwneud cais, cewch eich gwahodd gan Reolwr y Rhaglen i glyweliad a chyfweliad ar gyfer y cwrs.
Y clyweliad:
Gellir cwblhau hyn naill ai yn bersonol ar y campws neu’n bersonol trwy blatfform fideogynadledda. (e.e. Zoom neu Teams)
Mae angen i’ch araith clyweliad (un araith) fod tua 2 funud o hyd. Gall fod o unrhyw ddrama theatr o’ch dewis eich hun, ond nid o sgriptiau teledu, ffilm neu theatr gerddorol.
Y cyfweliad:
Caiff trefniadau eu gwneud i chi naill ai ymweld â’r campws ar gyfer cyfweliad/gweithdy personol (neu gallwn ni drefnu cyfweliad trwy blatfform fideogynadledda. (e.e. Zoom neu Teams)Bydd cynigion ond yn cael eu gwneud ar ôl cwblhau clyweliad a chyfweliad yn llwyddiannus.
-
Mae’r rhaglen hon yn cynnig profiad galwedigaethol sy’n heriol yn academaidd ac yn ymgorffori dulliau addysgu ac asesu arloesol. Bydd disgwyl i fyfyrwyr fod yn weithredol wrth reoli eu profiad dysgu, bod yn greadigol a chymryd camau i’w datblygu eu hunain.
-
Costau ychwanegol i’w talu gan y myfyriwr
Fel sefydliad, ymdrechwn yn barhaus i gyfoethogi profiadau myfyrwyr ac o ganlyniad, mae’n bosibl y daw costau ychwanegol i ran y myfyrwyr sy’n gysylltiedig â gweithgareddau a fydd yn ychwanegu gwerth at eu haddysg. Lle bo modd, cedwir y costau hyn mor isel â phosibl, gyda’r gweithgareddau ychwanegol yn ddewisol.
Costau teithiau maes a lleoliadau
Bydd teithiau maes ar gael i fyfyrwyr, sydd yn ddewisol. Darperir gwybodaeth am gostau ar gyfer teithiau yn y DU ac yn rhyngwladol ar ddechrau’r flwyddyn academaidd.
Bydd gan fyfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliadau tramor gostau teithio, byw ac efallai costau llety i’w talu. Bydd y swm yn amodol ar y lleoliad a chyflwr presennol y bunt. Bydd costau fisa ychwanegol yn daladwy yn achos myfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliadau yn UDA.
Yn achos teithiau maes disgwylir i fyfyrwyr dalu bedair wythnos ymlaen llaw. Yn achos lleoliadau tramor disgwylir iddynt dalu’r costau teithio a chostau fisa dri mis ymlaen llaw.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.
-
Dull Mynediad Uniongyrchol Rhyngwladol yn y Flwyddyn Olaf
Bydd myfyrwyr sy’n dewis y dull hwn yn astudio’r modwl Cyfathrebu Busnes Rhyngwladol ar fformat bloc ar ddechrau eu cyfnod astudio. Byddant yn elwa ar gwnsela a chymorth personol er mwyn sefydlu sylfaen ar gyfer eu hastudiaethau pellach. Byddant yn astudio’r pum modwl sy’n weddill (pob un ag 20 credyd, lefel 6) gan elwa bob amser ar gael eu hintegreiddio’n llawn â gweithgareddau ehangach y Gyfadran e.e. Wythnos Menter a Diwydiant, cyflwynwyr gwadd, cyfleoedd i ymgymryd â chystadlaethau rheolaeth / yn y diwydiant neu ddatblygu cynlluniau busnes i gychwyn eu mentrau eu hun.
-
Mae gan y rhaglen gyfradd cyflogadwyedd uchel ar gyfer graddedigion, sydd mewn gwaith o fewn chwe mis i gwblhau’r radd. Mae nifer sylweddol o raddedigion hefyd yn mynd ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig yn y brifysgol hon a rhai eraill.
Mae’r Gyfadran yn cynnig gradd MSc Rheolaeth Ariannol i’r rheini sy’n dymuno astudio ymhellach. Mae’r astudio hyblyg ar y rhaglen yn rhoi’r gallu i fyfyrwyr lywio’u hastudiaethau yn ôl eu huchelgais o ran gyrfa ac amgylchiadau personol. Mae integreiddio myfyrwyr o’r DU, yr UE a myfyrwyr rhyngwladol ynghyd â chymdeithas cyn-fyfyrwyr gryf yn caniatáu rhwydweithio a sefydlu cyfeillgarwch hirdymor.