Myfyrwyr PCYDDS i berfformio ‘Oh What a Lovely War’
Mae myfyrwyr o gyrsiau BA Actio a BA Dylunio a Chynhyrchu Setiau Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn edrych ymlaen at berfformio eu cynhyrchiad i’r llwyfan o Oh What a Lovely War!
Fe’i cynhelir yn Theatr Halliwell ar gampws Caerfyrddin PCYDDS, gyda pherfformiadau ar 22, 23, 29 a 30 Tachwedd ac mae Oh What a Lovely War! yn gynhyrchiad pwerus sy’n cyfuno dychan, cerddoriaeth, a dweud straeon yn weledol i archwilio realiti greulon rhyfel drwy lens annisgwyl o optimistiaeth a phropaganda. Samantha Alice Jones a Matthew Holmquist fydd yn cyfarwyddo’r cynhyrchiad.
Meddai Samantha:
“Rydym ni’n teimlo ei bod yn bwysig dweud y stori hon nawr yn fwy nag erioed. Mae ein fersiwn ni o “Oh, What a Lovely War!” yn archwilio ac yn ailddweud, heb ymddiheuro, fersiwn epig 1963 Joan Littlewood, gan gyfuno erchyllterau’r Rhyfel Byd Cyntaf â phrofiadau ac arsylwadau mwy cyfoes ar ryfel ar draws y byd. Drwy ddefnyddio syrcas, clown a chomedi, mae’r cast yn dod â’r stori hon yn fyw mewn ffyrdd na fyddech yn eu disgwyl!”
Mae’r cynhyrchiad yn defnyddio hiwmor a chaneuon poblogaidd i roi sylw i oferedd trasig rhyfel, ac mae dehongliad PCYDDS yn adeiladu ar hyn drwy ymdrin â brwydrau gydol yr 20fed ganrif a’r 21ain ganrif, gan dynnu sylw at gylch didrugaredd rhyfel a’i gymhellion ariannol. Mae’r dehongliad arloesol hwn yn cyfuno adfyfyrio hanesyddol ag agwedd gyfoes, gan archwilio natur hollbresennol, ac yn aml gylchol, wrthdaro ar draws y byd.
Mae’r myfyrwyr wedi bod yn gweithio ar y cynhyrchiad yn rhan o’u prosiect mawr. Mae’r cyfle hwn yn rhoi blas i’r myfyrwyr o’r hyn ydyw i weithio o fewn y diwydiant theatr trwy weithio gyda myfyrwyr creadigol eraill y tu allan i’w cwrs, i arddangos eu sgiliau galwedigaethol, i rwydweithio a chreu argraff dda o flaen gweithwyr proffesiynol y diwydiant.
Mae’r cynhyrchiad hwn yn tynnu sylw at ddoniau eithriadol myfyrwyr Actio PCYDDS, a fydd yn dod â hiwmor, dwyster, a dyfnder i’r llwyfan, ynghyd â’r tîm Dylunio a Chynhyrchu Setiau, y bydd eu dyluniad trochol yn cludo cynulleidfaoedd ar draws amser a lle, gan ddal effaith hirhoedlog propaganda amser rhyfel a realiti maes y gad.
Meddai Gabby Roberts, myfyriwr trydedd flwyddyn BA Dylunio a Chynhyrchu Setiau:
“Rwyf wedi mwynhau gweithio ar y cynhyrchiad hwn yn fawr, mae wedi bod yn ddiddorol ac wedi rhoi pleser weithio wrth ochr cyfarwyddwyr proffesiynol a gweld y ddrama’n dod at ei gilydd o’r dechrau i’r diwedd. Yn bersonol rwyf wedi bod yn ffodus iawn yn fy rôl yn Swyddog Marchnata a Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol gan fy mod i wedi llwyddo i gael blas ar amryw o adrannau, ac rwyf wedi mwynhau pob agwedd ar y cynhyrchiad.”
Ychwanegodd Seren Vickers, Rheolwr Rhaglen BA Actio yn PCYDDS:
“Mae’r myfyrwyr Lefel 6 wedi bod yn gweithio’n frwdfrydig ac yn ddiflino i ddod â’r ddrama fythgofiadwy hon yn fyw. Mae ‘Oh What A Lovely War’ yn daith theatraidd epig, yn llawn o ganeuon, dychan, gwleidyddiaeth a phoen; mae campwaith Joan Littlewood yn siarad â’r gorffennol a’r presennol. Dewch i ddathlu’r myfyrwyr a’u doniau niferus wrth iddynt berfformio yn y gyntaf o’u sioeau blwyddyn olaf. Ddylech chi ddim golli hon.”
Meddai Stacey-Jo Atkinson, Cyd-Reolwr Rhaglen BA Dylunio a Chynhyrchu Setiau:
“Mae wedi bod yn bleser gweld ein myfyrwyr blwyddyn olaf Dylunio a Chynhyrchu Setiau’n gweithio wrth ochr y myfyrwyr actio, Matthew a Sam i ddylunio a chreu sioe ardderchog.”
Gyda chyfarwyddo deinamig, dyluniad set sy’n weledol drawiadol, a pherfformiadau cerddorol dilys, mae Oh, What a Lovely War! gan PCYDDS yn addo bod yn brofiad cofiadwy, sy’n procio meddwl pawb.
Dyddiadau ac Amseroedd Perfformiadau:
- Dydd Gwener, 22 Tachwedd am 7:00 pm
- Dydd Sadwrn, 23 Tachwedd am 1:00 pm a 7:00 pm
- Dydd Gwener, 29 Tachwedd am 7:00 pm
- Dydd Sadwrn, 30 Tachwedd am 1:00 pm a 7:00 pm
Cynhelir pob perfformiad yn Theatr Halliwell, campws Caerfyrddin. Am docynnau, ewch i
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476