ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Perfformio (Llawn amser) (BA Anrh)

Caerdydd
2 Flynedd Llawn amser
96 o Bwyntiau UCAS

Mae Perfformio yn gwrs cyfrwng Cymraeg unigryw a deinameg a addysgir dros ddwy flynedd.  Mae’r cwrs yn ddelfrydol ar gyfer y rheiny sy’n angerddol am Actio, Canu, Cerddoriaeth, Perfformio, Dawns a Theatr Gerddorol.  Mae’n cynnig addysg gynhwysfawr yn y meysydd hyn, gan eich paratoi ar gyfer ystod o yrfaoedd yn y celfyddydau perfformio.  

Mae’r cwrs wedi’i strwythuro i ddatblygu perfformwyr amlddisgyblaethol a hyderus.   Rydym yn chwilio am fyfyrwyr sydd â’r potensial i ragori mewn amrywiaeth o leoliadau, boed yn y theatr, neuaddau cyngerdd, radio neu deledu.  

Mae ein cwricwlwm yn uchelgeisiol ac wedi’i gynllunio’n ofalus i sicrhau bod myfyrwyr yn cael profiadau cyfoethog, amserol ac amrywiol.  Bydd y dull hwn yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer cyfleoedd gyrfa lluosog yn y celfyddydau perfformio.  Byddwch yn cael eich cyflwyno i ystod eang o sgiliau ymarferol a fydd yn eich helpu i ddod yn berfformiwr amryddawn. Bydd hyn eich galluogi i gyfrannu’n greadigol ac yn hyderus ar draws llawer o wahanol gyd-destunau.   

Byddwch yn gweithio’n agos gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant dros ddwy flynedd y cwrs.  Bydd hyn eich helpu i ddeall gofynion y diwydiant a’ch paratoi i fanteisio ar yr angen cynyddol am berfformwyr medrus, amryddawn a dibynadwy.  Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar gydweithio ac ymarfer creadigol, gan eich annog i archwilio arferion arloesol yn eich gwaith perfformio.  

Yn ychwanegol i hyfforddiant ymarferol, mae’r cwrs yn cynnwys nifer o gyfleoedd arddangos. Bydd y rhain yn caniatáu i chi gyflwyno’ch gwaith i gynulleidfa ehangach ac adeiladu portffolio proffesiynol.  Mae’r cyfuniad hwn o astudio academaidd a phrofiad ymarferol yn sicrhau eich bod wedi’ch paratoi’n dda i weithio ym myd proffesiynol perfformio.  

Mae BA Perfformio wedi’i gynllunio i feithrin eich twf fel perfformiwr sy’n hyddysg yn y tueddiadau a’r arferion diweddaraf yn y diwylliant cyfoes.  Erbyn diwedd y cwrs, byddwch wedi datblygu’r arbenigedd a’r hyder sydd eu hangen i lwyddo mewn amrywiaeth o yrfaoedd yn ymwneud â pherfformio.  

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Cymraeg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
C68M
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
96 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 25/26
Cartref (Llawn-amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cwrs cyfrwng Cymraeg
02
Asesiadau Ymarferol — Dim Arholiadau
03
Cyfle i gymryd rhan mewn cynhyrchiad llawn gyda thîm technegol proffesiynol

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein hathroniaeth yn canolbwyntio ar gyflwyno addysg drochi alwedigaethol sy’n cyfuno theori ag ymarfer ymarferol.  Mae’r cwrs yn cael ei gyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg, gan adlewyrchu ein hymrwymiad i feithrin perfformwyr amryddawn sy’n hyblyg, arloesol ac wedi’u paratoi’n dda ar gyfer gofynion amrywiol y diwydiannau creadigol.  

Byddwch yn cael eich cyflwyno i ddisgyblaethau craidd Actio, Canu, Cerddoriaeth, Dawns, gan gynnwys Tap, Bale, Jazz, Dawns gyfoes a Theatr Gerddorol.  Bydd y ffocws ar adeiladu sylfaen gref o sgiliau ymarferol ac archwilio pob maes i ddatblygu eich hyblygrwydd a’ch hyder. 

Gorfodol 

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy

(20 credydau)

Dosbarth Perfformio

(20 credydau)

Actio

(20 credydau)

Hyfforddiant Dawns 1

(20 credydau)

Canu 1

(20 credydau)

Labordy Theatr

(20 credydau)

Sgiliau Clyweliad

(10 credydau)

Actio 2

(20 credyd)

Mae’r pwyslais yn newid i dechnegau uwch ac integreiddio sgiliau ar draws gwahanol ffurfiau perfformio.  Mae’n dod â’r sgiliau a’r dechneg a gafodd eu dysgu mewn dau gynhyrchiad at ei gilydd sy’n rhoi’r cyfle i chi weithio gyda chyfarwyddwr a thîm cynhyrchu proffesiynol gan eich paratoi ar gyfer cyfleoedd gyrfa yn y dyfodol yn y celfyddydau perfformio. 

Gorfodol 

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Diwydiannau Creadigol

(20 credydau)

Hyfforddiant Dawns 2

(20 credydau)

Canu 2

(30 credydau)

Prosiect Cydweithredol

(20 credydau)

Cynhyrchiad 1

(30 credydau)

Cynhyrchiad Terfynol

(30 credydau)

Course Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Facilities

Mae tri myfyriwr yn ymarfer symudiadau dawns: cam sy’n swagro i’r dde gan glicio’r bysedd.

Cyfleusterau Perfformio, Dawns a Theatr Gerddorol, Caerdydd

Mae ein myfyrwyr sy’n astudio yng Nghaerdydd wedi’u lleoli yn NhÅ· Haywood ac mae ganddyn nhw fynediad at nifer o stiwdios ymarfer, yn cynnwys stiwdio ddawns gyda llawr dawnsio Harlequin, drychau symudol a Barrau Bale ynghyd â system sain Yamaha a phiano llwyfan, ystafell ddatganiadau a labordy cyfrifiadurol i gyd o fewn taith fer ar droed i ganol y ddinas. &²Ô²ú²õ±è;

Gwybodaeth allweddol

  • 96 o Bwyntiau Tariff UCAS

    • e.e. Safon Uwch: CCC, BTEC: MMM, IB: 30 a Chlyweliad  

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;

    Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i berfformio, ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. 

    Rydym yn trefnu clyweliadau a chyfweliadau ar gyfer yr holl ymgeiswyr er mwyn asesu addasrwydd ar gyfer y cwrs a ddewiswyd.

    °Õ³Ò´¡±«â€¯ 

    Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &²Ô²ú²õ±è;  

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadaui gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg 

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

     Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.

  • Proses Clyweldiad ar-lein

    CAM 1: Hunan-dâp

    Dylai darpar fyfyrwyr baratoi hunan-dâp gyda’r cynnwys canlynol:

    1. Un gan mewn arddull sioe gerdd
    2. Monolog: Ni ddylai’r monolog bara mwy na dwy funud ac o ddrama gyhoeddedig ac nid yn ddarnau o gerddi, nofelau, ffilmiau neu sgriptiau teledu. Fe’ch cynghorir i ddewis cymeriad sy’n agos at eich oedran a dylech ei berfformio yn eich acen naturiol. Gall ymgeiswyr berfformio eu monolog naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg.

    Cofiwch nodi yn glir y manylion canlynol ar ddechrau y tap:

    • Enw llawn
    • Y cwrs rydych yn ymgeisio amdano
    • Teitl y darn a gyflwynir.

    CAM 2: Cyfweliad

    Cewch eich gwahodd i gyfweliad byr gyda thîm y rhaglen ar Zoom. Rhaid i chi baratoi’r canlynol:

    1. Monolog: Ni ddylai’r monolog bara mwy na dwy funud ac o ddrama gyhoeddedig ac ni ddylai fod yn ddarnau o gerddi, nofelau, ffilmiau neu sgriptiau teledu. Fe’ch cynghorir i ddewis cymeriad sy’n agos at eich oedran a dylech ei berfformio yn eich acen frodorol. Dylai ymgeiswyr berfformio’r monolog yn Gymraeg.
    2. Bydd tîm y rhaglen yn gweithio gyda chi ar eich darn dewisol ac yna cwestiynau.

    Yn dilyn clyweliad llwyddiannus bydd ymgeiswyr yn cael cynnig lle. Mae lleoedd cyfyngedig ar gael bob blwyddyn.

    Byddem yn chwilio am 96 o bwyntiau UCAS.

    Gall y brifysgol ystyried ymgeiswyr heb gymwysterau ffurfiol os ydynt yn gallu dangos lefel eithriadol o allu a phrofiad ymarferol.

  • Cwrs Cyfrwng Cymraeg yw hwn. &²Ô²ú²õ±è;

    Golyga hyn bod y cwrs hwn ar gael yn llawn yn Gymraeg (360 Credyd/100%).   

    Os byddwch yn dewis astudio eich cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i gefnogi eich astudiaethau. 

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

     Yn ogystal, mae llawer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;

  • Perfformiadau/digwyddiadau
    Mae myfyrwyr yn cael cyfle yn rheolaidd i gymryd rhan mewn perfformiadau/ digwyddiadau trwy gydol eu gradd, lle gwelwn eu sgiliau a’u gwybodaeth yn cynyddu ac yn cael eu cymhwyso. 

    Tiwtorialau rheolaidd
    Rydym yn cynnal tiwtorialau ffurfiol ac anffurfiol trwy gydol y radd lle mae pob myfyriwr yn trafod ei waith gyda’r tiwtor modwl neu’r Cyfarwyddwr Rhaglen. Edrychwn ar ddatblygiad ymarferol, twf cysyniadol a bwriadau i’r dyfodol.

    Cyflwyniadau
    Cynhelir cyflwyniadau fel arfer ar ddiwedd modwl, arddangosfa neu berfformiad, er mwyn mesur perfformiad myfyriwr yn erbyn meini prawf asesu.

    Gweithlyfrau proses
    Bydd myfyrwyr yn cofnodi eu proses a’u gwaith ymarferol mewn gweithlyfr sy’n dangos eu dysgu a’u llwybr unigol.

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. 

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.