Theatr: Theatr Gerddorol (Llawn amser) (MA)
Mae’r rhaglen Theatr Gerddorol yn rhaglen ôl-raddedig ddwys, flwyddyn o hyd, sy’n cynnig hyfforddiant ymarferol a fydd yn cymhwyso cyfranogwyr yn y disgyblaethau triphlyg, actio, canu a dawnsio. Mae pob aelod o’n staff addysgu yn weithwyr proffesiynol ym myd y theatr ac yn gweithio mewn addysg uwch yn ogystal â’r diwydiant.
Mae’r Drindod Dewi Sant Caerdydd yn cynnig dewis o raddau ôl-raddedig a fydd yn rhoi i fyfyrwyr dechneg gadarn ochr yn ochr â dealltwriaeth eang o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt.
Mae’r Drindod Dewi Sant Caerdydd yn bair byrlymus o actorion, cantorion a dawnswyr y dyfodol. Mae moeseg waith y cyrsiau yn seiliedig ar ddatblygiad personol, parch a chydweithio. Deillia hyn o’r cymorth mae’r myfyrwyr yn ei gael gan y staff ymroddgar a phroffesiynol.
Mae’r rhaglen Theatr Gerddorol yn rhaglen ôl-raddedig ddwys, flwyddyn o hyd, sy’n cynnig hyfforddiant ymarferol a fydd yn cymhwyso cyfranogwyr yn y disgyblaethau triphlyg, actio, canu a dawnsio. Mae pob aelod o’n staff addysgu yn weithwyr proffesiynol ym myd y theatr ac yn gweithio mewn addysg uwch yn ogystal â’r diwydiant.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Cymraeg
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd y cwrs yn datblygu sgiliau’r myfyriwr fel perfformiwr amryddawn gyda phwyslais ar:
1. Perfformiadau Cyhoeddus
Rhoddir profiad i fyfyrwyr sy’n cyfateb i weithio ar nifer o berfformiadau proffesiynol a lwyfennir. Byddant yn ymarfer ac yn perfformio nifer o rannau dan gyfarwyddyd ac amodau cynhyrchu proffesiynol. Disgwylir i’r myfyrwyr ddangos lefel uchel o allu i weithio’n annibynnol, gyda chyfarwyddwr, ac mewn cydweithrediad â’u cymheiriaid.
2. Sgiliau a Thechnegau Craidd
Gall myfyrwyr ddewis o blith nifer o fodylau er mwyn arbenigo, gan gynnwys:
- Dawns Pellach
- Canu Pellach
- Hyfforddiant Lleisiol Pellach
- Dyfeisio a Theatr Gorfforol
- Cyfarwyddo 1
3. Datblygiad Proffesiynol
Bydd datblygiad proffesiynol yn cynnwys arddangosfa berfformio i asiantau a pharatoi portffolio datblygiad proffesiynol. Bydd y portffolio’n cynnwys tystiolaeth o waith ymchwil, ysgrifennu adfyfyriol a chasgliad o ddeunyddiau a gasglwyd yn ystod astudiaethau’r myfyriwr, gan gynnwys rhestr o weithgareddau a digwyddiadau y bu’n rhan ohonynt ac amrywiaeth o ddogfennau proffesiynol. Fe’i datblygir drwy ymgynghori’n agos â Thiwtor Personol a’i deilwra ar gyfer gofynion proffesiynol penodol pob myfyriwr. Fel cyfanwaith, bydd cynnwys y portffolio’n dystiolaeth o broffil artistig unigol y myfyriwr gan adfyfyrio ar ei ddatblygiad parhaus yn berfformiwr.
Gorfodol
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(60 credydau)
Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Gwybodaeth allweddol
-
Gradd Baglor y DU (isafswm o 2:1) neu brofiad.
-
Perfformiadau Cyhoeddus / digwyddiadau
Mae myfyrwyr yn cael cyfle yn rheolaidd i gymryd rhan mewn perfformiadau/ digwyddiadau trwy gydol eu gradd, lle gwelwn eu sgiliau a’u gwybodaeth yn cynyddu ac yn cael eu cymhwyso.Tiwtorialau rheolaidd
Rydym yn cynnal tiwtorialau ffurfiol ac anffurfiol trwy gydol y radd lle mae pob myfyriwr yn trafod ei waith gyda’r tiwtor modwl neu’r Cyfarwyddwr Rhaglen. Rydym yn edrych ar ddatblygiad ymarferol, twf cysyniadol a bwriadau i’r dyfodol.Cyflwyniadau
Fel arfer, cynhelir cyflwyniadau ar ddiwedd modwl, arddangosfa neu berfformiad, er mwyn mesur perfformiad myfyriwr yn erbyn meini prawf asesu.Llyfrau proses
Bydd myfyrwyr yn cofnodi eu proses a’u gwaith ymarferol mewn llyfr proses sy’n dangos eu dysgu a’u llwybr unigol.Portffolio Datblygiad Proffesiynol
Bydd y Portffolio Datblygiad Proffesiynol yn cynnwys tystiolaeth o waith ymchwil, ysgrifennu adfyfyriol a chasgliad o ddeunyddiau a gasglwyd yn ystod astudiaethau’r myfyriwr, gan gynnwys rhestr o weithgareddau a digwyddiadau y maent wedi bod yn rhan ohonynt ac amrywiaeth o ddogfennau proffesiynol. -
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
- Theatr Gerddorol
- Actio
- Canu
- Dawns/Coreograffi
- Theatr