ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Ymarfer Gofal Iechyd (Rhan amser) (CertHE)

Caerfyrddin
2 Flynedd Rhan amser

Mae Tyst AU a Dip AU Ymarfer Gofal Iechyd wedi’u cynllunio i alluogi unigolion sy’n dyheu am weithio mewn proffesiwn sy’n ymwneud â gofal iechyd, i gwblhau cymhwyster ffurfiol cydnabyddedig ar lefel pedwar (TystAU) neu lefel pump (DipAU). 

Mae gan y rhaglen ffocws cryf ar ofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gofal tosturiol a datblygu gwybodaeth, sgiliau a chymwyseddau sydd eu hangen yn sail i ymarfer effeithiol mewn amrywiaeth o leoliadau gofal iechyd. Cewch chi gipolwg ar agweddau allweddol ar ymarfer gofal iechyd gan gynnwys gweithio integredig, ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth a datblygiad proffesiynol, wrth archwilio hefyd gysyniadau a damcaniaethau biolegol, cymdeithasol a seicolegol sylfaenol. 

Mae’r rhaglenni’n darparu’r wybodaeth, y sgiliau a’r cymhwyster sy’n cynyddu tebygolrwydd ymgeiswyr gradd o gael mynediad i’w gradd dewis cyntaf. Wrth astudio mae myfyrwyr yn parhau i wneud cais i’w rhaglen gradd ddewisol ac yn gadael cwrs Y Drindod Dewi Sant ar ddiwedd blwyddyn un neu ddau yn dibynnu ar bryd y byddan nhw’n ennill eu lle.

O 2024 ymlaen, bydd y cwrs hwn yn disodli ein cyrsiau Astudiaethau Nyrsio ac Iechyd presennol (yn amodol ar ei ddilysu) 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Rhan amser

Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cyflogadwyedd wrth wraidd ein rhaglen, o ystyried ein ffocws ar ddatblygu ymarferwyr gofal iechyd tosturiol ac arloesol.
02
Mae'r strategaeth dysgu ac addysgu ar gyfer y rhaglen yn un sy'n cael ei llywio gan waith ymchwil ac wedi'i seilio ar ymarfer ac mae wedi'i mapio i ystod o gymwyseddau a sgiliau proffesiynol perthnasol.
03
Mae gan yr holl staff addysgu gysylltiadau agos gyda diwydiant, maent yn neu wedi bod yn ymarferwyr wrth eu gwaith a/neu yn meddu ar ddyfarniadau cyrff proffesiynol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Gydol eich astudiaethau, byddwch yn elwa o brofiad diwydiant nyrsys cymwys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd sy’n dysgu ar y rhaglen. Mae cyfuniad o’u canfyddiadau proffesiynol a’u trylwyredd academaidd yn sicrhau bod yr hyn a ddysgwch bob amser wedi’i yrru gan ymarfer a’i lywio gan ymchwil. 

Bydd cwblhau’r Dystiolaeth Addysg Uwch/Diploma Addysg mewn Ymarfer Gofal Iechyd, yn eich galluogi i ddilyn gyrfa sy’n gysylltiedig ag iechyd; gwnewch gais am raglenni hyfforddiant proffesiynol pellach megis nyrsio cyn-gofrestru, bydwreigiaeth, gofal iechyd perthynol, gwyddor barafeddygol neu ewch ymlaen i astudiaethau pellach yn un o’n rhaglenni gradd (BSc Iechyd a Gofal Cymdeithasol, BSc Iechyd a Gofal Plant a Phobl Ifanc, BSc Rheolaeth Iechyd a Gofal).

Gorfodol 

Datblygiad Personol, Academaidd a Phroffesiynol

(20 Credydau)

Arfer Proffesiynol: Dull sy’n canolbwyntio ar Unigolion

(20 Credydau)

Deall Iechyd a Gofal Cymdeithasol

(20 Credydau)

Gorfodol 

Cyflwyniad i Anatomeg a Ffisioleg

(20 Credydau)

Byw’n dda: Ymagwedd gydol oes at Iechyd a Llesiant

(20 Credydau)

Arfer Gofal Iechyd yng Nghymru: Iaith a Diwylliant

(20 Credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Mae’r rhaglen hon ar gyfer ymgeiswyr sydd â naill ai cymhwyster lefel 2 neu 3. Fodd bynnag, o ganlyniad i’r ystod o lwybrau sydd ar gael o fewn y portffolio iechyd, caiff pob ymgeisydd ei ystyried ar ei rinwedd ei hun. Golyga hyn y gallwn gymryd eich profiad bywyd a gwaith yn eich swydd bresennol i ystyriaeth.

    Rydym yn argymell eich bod yn gwneud y canlynol yn glir yn eich datganiad personol.

    • Os oes gennych neu os oes angen cymhwyster TGAU mathemateg (neu gyffelyb) arnoch
    • Os ydych chi’n siarad Cymraeg
    • Unrhyw brofiad gwaith neu gyflogaeth cysylltiedig
    • Unrhyw brofiad o ofal neu gymorth yn y teulu
    • Y math o rôl gofal iechyd yr hoffech ei chael.

    Angen DBS Manwl Plant ac Oedolion.

  • Ni ddefnyddir arholiadau’n drwm yn y rhaglenni am fod ffocws yr asesu ar ymarfer gweithgareddau a gyflawnir yn nodweddiadol yn yr amgylchedd nyrsio a gofal iechyd.

    Gwaith cwrs yw’r brif strategaeth asesu.

    Gosodir gwaith cwrs a thasgau ymarferol mewn amrywiaeth o fformatau; sy’n cynnwys.

    • Ymarferion sefydlog ymarferol yn y dosbarth (e.e. seminarau dadlau)
    • Chwarae rôl (e.e. cyfweliadau nyrsio ffug gyda phenaethiaid diwydiant)
    • Cyflwyniadau
    • Portffolio nyrsio proffesiynol (yn adlewyrchu gofynion y diwydiant)
    • Prosiectau ymchwil
    • Blogiau adfyfyriol
    • Mentora gan gymheiriaid
    • Beirniadaeth fideo
    • Traethodau
    • Adroddiadau
    • Profiad gwaith/lleoliadau.
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r Brifysgol wedi creu partneriaeth gyda Trinity Nursing Services, asiantaeth nyrsio a gofal cenedlaethol, er mwyn sicrhau hyfforddiant am ddim ar lefel gweithiwr cymorth gofal iechyd, gwasanaeth cynefino â blaenoriaeth, ac yn bwysicach oll, y cyfle i weithio fel cynorthwywyr nyrsio asiantaeth â thâl ledled Cymru.

    Mae staff yn darparu arweiniad gyrfaoedd i ddysgwyr, yn ogystal â chynnig llwybr dilyniant diffwdan ar gyfer ein myfyrwyr nyrsio i unrhyw gwrs arall a gynigir o fewn y portffolio ehangach.

    I’r rheiny sy’n symud ymlaen i gyrsiau bwrsariaeth y GIG, cyflogaeth â thâl, neu gyrsiau eraill yn Y Drindod, rydym wedi gweithio gyda chydweithwyr staff gwasanaethau proffesiynol mewnol i hwyluso’r broses.

Mwy o gyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Chwiliwch am gyrsiau