Iechyd, Maetheg a Ffordd o Fyw (Llawn amser) (BSc Anrh)
Mae ein gradd BSc mewn Iechyd, Maetheg a Ffordd o Fyw yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb byw mewn maetheg ac iechyd. Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i roi dealltwriaeth ddofn o Iechyd, Maetheg a Ffordd o Fyw i chi gan eich arfogi â sgiliau a gwybodaeth ymarferol. Yn ogystal, byddwch yn datblygu sgiliau pwysig a throsglwyddadwy megis; arwain, cyfathrebu, datrys problemau a meddwl beirniadol, sy’n werthfawr iawn mewn llawer o ddiwydiannau.
Mae’r rhaglen wedi’i hachredu gan y Gymdeithas Faetheg, gan sicrhau safonau uwch a chydnabyddiaeth broffesiynol. Mae perthnasedd cyflogadwyedd yn ffocws allweddol, a chewch eich annog i ennill profiad a chymwysterau ychwanegol i gefnogi eich dyheadau gyrfa ochr yn ochr â’ch astudiaethau academaidd.
Fel rhan o’r rhaglen byddwch yn cael cyfleoedd i ennill gwobrau ychwanegol, megis hyfforddwr campfa, hyfforddwr personol yn ogystal â chymwysterau cymorth cyntaf. Bydd y cymwysterau ychwanegol hyn yn ehangu eich cyflogadwyedd a’ch sgiliau ymarferol. Yn ogystal, byddwch yn cael profiad ymarferol mewn gweithgareddau asesu iechyd a dadansoddi dietegol, gan fynd i’r afael â phroblemau ac achosion y byd go iawn.
Mae gan ein labordy maetheg adnoddau maeth-benodol a meddalwedd dadansoddi dietegol, gan ddarparu amgylchedd proffesiynol ar gyfer eich astudiaethau. Mae’r rhaglen yn defnyddio ystod o ddulliau asesu, gan gynnwys cyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig, arholiadau, astudiaethau achos, asesu cyfoedion, adroddiadau profiad gwaith, a gwaith yn seiliedig ar brosiect.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen, byddwch yn gymwys i gael statws Maethegydd Cyswllt Cofrestredig sy’n eich galluogi i ddefnyddio’r teitl ‘A. Nutr.’ Bydd y gydnabyddiaeth broffesiynol hon yn eich gosod ar wahân yn y farchnad swyddi ac arddangos eich arbenigedd mewn maetheg.
Byddwch yn archwilio agweddau amrywiol o iechyd a maetheg ar y cwrs hwn. Byddwch yn dysgu am glefydau cronig, cynllunio prydau bwyd, maetheg ar gyfer chwaraeon ac ymarfer corff a pholisïau cyhoeddus. Yn ogystal, byddwch yn astudio seicoleg a pherfformiad dynol, gan ddatblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o’r ffactorau sy’n ddylanwadau ar lefelau iechyd a ffitrwydd.
Mae ein rhaglen wedi’i chynllunio i’ch paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn iechyd cymunedol, iechyd cyhoeddus, neu unrhyw rôl sy’n canolbwyntio ar wella iechyd a hybu ffordd o fyw a maetheg. Gyda rhaglen wedi’i hamserlennu sy’n cydbwyso gwybodaeth ddamcaniaethol a phrofiad ymarferol, byddwch yn graddio yn barod i gael effaith gadarnhaol yn y maes iechyd a maetheg.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Byddwch yn dysgu sut mae maetheg ac ymarfer corff yn effeithio ar y corff yn ogystal â sut mae’n effeithio ar iechyd a llesiant unigolion. Yn ogystal, byddwch yn archwilio ffactorau seicolegol a chymdeithasol a all dylanwadau ar ymddygiad sy’n gysylltiedig ag iechyd. Ein nod yw cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â sgiliau ymarferol, gan eich paratoi ar gyfer heriau’r byd go iawn mewn iechyd, maetheg a ffordd o fyw. Rydym yn pwysleisio dysgu ymarferol, meddwl beirniadol, a datblygiad proffesiynol i sicrhau eich bod yn barod am eich gyrfa yn y dyfodol.
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen gadarn mewn Iechyd, Maetheg a Ffordd o Fyw. Byddwch yn astudio bioleg ddynol sylfaenol, egwyddorion maetheg a rôl gweithgaredd corfforol mewn iechyd. Yn ogystal, byddwch yn datblygu sgiliau allweddol mewn cyfathrebu, datrys problemau, a meddwl beirniadol drwy ystod o weithgareddau ac asesiadau ysgogol.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Dewisol
(20 credydau)
(20 credydau)
Mae’r ail flwyddyn yn canolbwyntio ar gymhwyso eich gwybodaeth i gyd-destunau’r byd go iawn. Byddwch yn archwilio afiechydon cronig, dadansoddi dietegol, a gweithgaredd corfforol ac ymarfer corff. Byddwch yn cael profiad ymarferol drwy asesiadau iechyd a thrwy ddefnyddio meddalwedd dadansoddi dietegol. Yn ogystal, byddwch yn dechrau astudio seicoleg iechyd ac effaith polisïau cyhoeddus ar faeth a ffordd o fyw.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Dewisol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn astudio pynciau uwch megis polisïau cyhoeddus a strategaethau ym maes iechyd a dadansoddiad maethol a dietegol cymhwysol. Byddwch yn ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol sylweddol, gan grynhoi eich dysgu ac arddangos eich gallu i fynd i’r afael â materion iechyd cymhleth. Mae’r rhaglen yn dod i ben gyda pharatoadau ar gyfer cyflawni statws Maethegydd Cyswllt Cofrestredig.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Dewisol
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Course Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Fel rheol, ar gyfer y rhaglen BSc (Anrh) Iechyd, Maetheg a Ffordd o Fyw, dylai’r gofynion mynediad gynnwys TGAU (neu gyfwerth) gradd C ac uwch (lefel 4 ar y strwythur newydd) mewn Saesneg Iaith a Mathemateg. Yn ogystal, rhagwelir y bydd gan ymgeiswyr o leiaf un Safon Uwch, ‘Irish Leaving Certificate’, ‘Scottish Higher’, neu gyfwerth mewn pwnc gwyddoniaeth addas. Fel arfer, y gofyniad mynediad lleiaf ar gyfer y rhaglen yw 96 o bwyntiau UCAS.
Gall y gofynion mynediad academaidd a phroffesiynol ar gyfer ymgeiswyr dros 21 oed gymryd i ystyriaeth brofiad perthnasol a chymwysterau blaenorol cyfwerth. I asesu addasrwydd myfyriwr ar gyfer eu dewis gwrs gallwn drefnu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr. Yn y cyfweliad, byddai eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd yn cael eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.
Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, rhaid i’r gofynion mynediad fod yn lled gyfwerth â’r rheiny a ddisgwylir gan fyfyrwyr y DU. Wrth gael eu derbyn, rhaid i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu mamiaith feddu ar ofynion Iaith Saesneg priodol ar gyfer rhaglen a Achrededir gan AfN, heb fod yn llai na 6.5 IELTS (neu gyfwerth), heb yr un adran unigol yn llai na 6.0.
Os nad oes gennych y cymwysterau hyn neu os nad ydych yn sicr am eich cymhwysedd, cysylltwch â’r Brifysgol drwy e-bostio registry@pcydds.ac.uk
-
The skills of being able to decipher health and nutrition related research and transfer this into ‘real world’ practical applications for individual and community health are developed and assessed over the three years of study. To achieve this, the strong academic focus of the degree is supported by practical modules in health promotion, dietary analysis and fitness and health assessments.
Whilst on the course, students learn how to present a balanced evidenced argument through their formal written work, as well as via individual and group presentations. Within the final year, students will design and conduct their own research project or literature review in a specialist area of their choice.
Specific types of assessments include; essays, laboratory reports, presentations (group and individual), practical tasks, examinations (seen and unseen papers).
-
- £35 – gweithgaredd dros nos ymgynefino ar gyfer holl fyfyrwyr blwyddyn 1.
- Dillad chwaraeon (£30+) yn amodol ar y cwrs.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae rhaglenni cyfnewid i’r UD ar gael yn yr ail flwyddyn.
-
Bellach mae Graddedigion y BSc. Iechyd, Maeth a Ffordd o Fyw yn dilyn ystod o lwybrau gyrfaol. Ymhlith yr enghreifftiau o weithleoedd presennol y graddedigion hyn, mae:
- Swyddog Ymgysylltu 50+
- Swyddog Llesiant Cymunedol
- Cynorthwyydd Dieteteg (GIG)
- Swyddog Iechyd a Lles (dros 50)
- Ymgynghorydd Ffordd o Fyw Iach (meddygfa)
- Prif Swyddog Iechyd
- Rheoli cyfleustra ymarfer corff
- Astudiaethau ôl-radd (e.e. MSc mewn Maetheg)
- Athro ysgol uwchradd (technoleg bwyd) (ar ôl astudio TAR)
Mae myfyrwyr eraill wedi cwblhau, neu’n wrthi’n gwneud astudiaethau ôl-raddedig ar ffurf graddau MSc mewn pynciau cysylltiedig â maeth, iechyd ac ymarfer corff.