Iechyd a Gofal Plant a Phobl Ifanc (Rhan amser) (BSc Anrh)
Mae’r radd ran-amser hon yn cynnig cymhwyster uchel ei barch mewn iechyd, gofal ac addysg plant a phobl ifanc. Mae wedi’i deilwra i’ch paratoi ar gyfer gyrfa foddhaus yn y meysydd hyn trwy wella’ch sgiliau ymarferol ac ehangu eich gwybodaeth trwy gyfuniad o theori a dysgu ymarferol. Mae’r rhaglen yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd am gydbwyso astudio ag ymrwymiadau eraill.
Drwy gydol y cwrs hwn, byddwch yn archwilio damcaniaethau hanfodol sy’n gysylltiedig â datblygiad a lles plant a phobl ifanc. Mae’r damcaniaethau hyn yn uniongyrchol berthnasol i sefyllfaoedd yn y byd go iawn, gan eich helpu i ddeall ac ymateb yn effeithiol i anghenion plant mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae’r cwrs yn archwilio’r heriau presennol sy’n wynebu unigolion a chymunedau, yn lleol ac yn fyd-eang, ac yn pwysleisio rôl iechyd y cyhoedd wrth fynd i’r afael â’r materion cymhleth hyn.
Un o gryfderau craidd y rhaglen yw ei ffocws ar ddysgu annibynnol a datblygu sgiliau a fydd yn cefnogi eich twf proffesiynol trwy gydol eich gyrfa. Mae’r cwricwlwm wedi’i gynllunio i’ch helpu i addasu i newidiadau yn y byd gwaith, gan feithrin gwytnwch ac ymrwymiad i ddysgu gydol oes. Byddwch hefyd yn magu hyder mewn sgiliau hanfodol ar gyfer eich gyrfa, gan gynnwys llythrennedd, rhifedd, a chymwyseddau digidol - rhinweddau sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr yn y farchnad swyddi heddiw.
Ar y cwrs hwn, byddwch yn dysgu mabwysiadu dulliau sy’n canolbwyntio ar y plentyn a hyrwyddo arferion effeithiol sy’n cefnogi canlyniadau cadarnhaol i blant a phobl ifanc. Mae deall polisïau allweddol ac egwyddorion arfer gorau yn hanfodol ar gyfer gwella darpariaeth gwasanaethau, a bydd y radd hon yn eich paratoi i weithio ar y cyd â theuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill yn y maes. Bydd yr hyfforddiant hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau datrys problemau a’r gallu i fyfyrio’n feirniadol ar eich gwaith, fel y gallwch wella’ch ymarfer yn barhaus.
Mae’r rhaglen hon yn eich paratoi ar gyfer rolau mewn amrywiaeth o leoliadau, o ofal cartref a gofal maeth i ofal iechyd cymunedol a gofal preswyl i blant. Mae hefyd yn gosod sylfaen gref ar gyfer gweithio yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, gyda llwybrau gyrfa posibl mewn gwaith cymdeithasol, cymorth cymunedol, a gwasanaethau iechyd cyhoeddus. Mae’r cwrs yn hyrwyddo dealltwriaeth gref o werthoedd ac egwyddorion iechyd a gofal cymdeithasol, gan eich paratoi i ddarparu gofal effeithiol, empathig a gwybodus.
Erbyn diwedd y radd hon, bydd gennych yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau plant a phobl ifanc, gan gefnogi eu lles a’u datblygiad. Mae’r cwrs hefyd yn cynnig llwybr rhagorol i astudiaethau pellach neu rolau arbenigol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gan agor drysau i yrfa werth chweil ac effeithiol.
Rydym hefyd yn cynnig pob modiwl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Rhan amser
- Saesneg
- Cymraeg
Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein hymagwedd at ddysgu ac addysgu yn seiliedig ar gyfuniad o theori ac ymarfer, gan sicrhau eich bod yn cael yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ragori mewn iechyd, gofal ac addysg plant a phobl ifanc. Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu meddwl beirniadol, ymarfer adfyfyriol, a chymhwysedd proffesiynol.
Yn y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn, byddwch yn archwilio sylfaeni ddatblygiad a lles plant. Byddwch yn dysgu am egwyddorion allweddol gofal iechyd a chymdeithasol, gan gynnwys dulliau plentyn-ganolog a thechnegau datrys problemau effeithiol. Mae’r flwyddyn hon yn ffocysu ar Gydraddoldeb, cynhwysiant a thegwch digidol yn ogystal â rheoli, ymddygiad sefydliadol a newid digidol.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Bydd y drydedd a’r bedwaredd flwyddyn yn dyfnhau eich dealltwriaeth o heriau cyfoes yn y sector. Byddwch yn astudio iechyd y cyhoedd a’i effaith ar gymunedau, gan ddysgu i fynd i’r afael â materion iechyd byd-eang. Mae cwricwlwm yn cynnwys Diogelu a Chefnogi Teuluoedd mewn Iechyd a Gofal, gan ehangu eich cynhwysedd mewn lleoliadau byd go iawn.
(20 credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
Yn y bumed flwyddyn a’r flwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd ag astudiaethau uwch a dulliau ymchwil gan eich paratoi ar gyfer eich prosiect ymchwil annibynnol. Byddwch hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygu a darparu gwasanaethau, trawsnewid digidol yn y proffesiynau iechyd a gofal, a chreu newid cadarnhaol mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r flwyddyn hon yn eich paratoi ar gyfer llwybrau gyrfa amrywiol yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.
(20 Credydau)
(20 Credyd)
(20 credyd )
(40 credydau)
(20 credydau)
Ymwrthodiad
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Sylwch fod pob ymgeisydd yn cael ei ystyried yn unigol. Gallwn hefyd wneud cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar eich profiad bywyd neu waith.
I ymgeiswyr sy’n dymuno astudio am gymhwyster Diploma AU (dwy flynedd), bydd cynnig yn cael ei wneud yn seiliedig ar eich profiad addysgol a chyflogaeth.
I’r rhai sy’n dymuno astudio’r BSc (tair blynedd) bydd angen i chi fod wedi sicrhau o leiaf 88 o bwyntiau UCAS.
-
Mae’r asesiadau’n cynnwys traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau, blogiau adfyfyriol a phortffolios proffesiynol.
Gofynnir i chi ddefnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a sgiliau trefnu ar gyfer eich aseiniadau.
-
Oherwydd y modwl ymarfer gwaith yn y rhaglen hon, bydd gofyn i’r myfyrwyr dalu am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae gennym gymorth cyflogaeth cryf iawn a system profiad gwaith yn y Portffolio Iechyd.
Rydym yn cysylltu a gweithio’n agos gyda’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector ar gyfer gwaith â thâl a heb tâl ar gyfer myfyrwyr.
Yn arbennig, rydym yn croesawu ymgeiswyr sy’n gweithio gyda phlant a/neu bobl ifanc mewn rhyw ffordd yn barod
Sylwch nad yw’r cwrs hwn yn cymryd lle’r cymhwyster Lefel 3 CCLD. Os ydy’ch swydd, rôl neu yrfa’n gofyn am y cymhwyster hwn, rydym yn argymell i chi ei wneud ar wahân.