Ymarfer Gofal Iechyd (Rhan amser) (DipAU)
Mae’r Diploma Addysg Uwch (DipAU) mewn Ymarfer Gofal Iechyd yn gwrs sydd wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sydd am ddilyn gyrfa mewn gofal iechyd. Mae’r rhaglen sy’n cael ei chyflwyno ar gampws Caerfyrddin yn darparu cymhwyster cydnabyddedig ar lefel pump, gan roi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer gwahanol rolau gofal iechyd. Mae ein dewis rhan-amser yn eich galluogi i gydbwyso astudiaethau ochr yn ochr ag ymrwymiadau eraill, tra hefyd yn ei gwneud yn bosibl cymhwyso’ch dysgu’n uniongyrchol i unrhyw rôl neu brofiad cyfredol yn y sector.
Mae ein cwrs yn canolbwyntio ar gyflwyno gofal tosturiol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Byddwch yn dysgu sut i ddarparu cymorth effeithiol mewn lleoliadau gofal iechyd gwahanol. Mae’r cwricwlwm yn ymdrin ag agweddau allweddol gofal iechyd, gan gynnwys gweithio integredig, arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a datblygiad proffesiynol. Yn ogystal, byddwch yn archwilio cysyniadau biolegol, cymdeithasol a seicolegol a damcaniaethau sy’n sail i ymarfer gofal iechyd.
Mae’r TystAU mewn Ymarfer Gofal Iechyd yn ddelfrydol ar gyfer y rheiny sydd am wella eu cymwysterau cyn gwneud cais am radd mewn gofal iechyd. Mae’r cwrs hwn yn cynyddu’ch siawns o gael eich derbyn i’ch rhaglen radd ddewisol. Byddwch yn parhau i wneud cais am eich gradd ddewisol tra byddwch yn astudio gyda ni, a gallwch adael ein cwrs ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf neu’r ail flwyddyn ar ôl sicrhau eich lle mewn rhaglen radd.
Ymunwch â ni yn PCYDDS a chymryd y cam cyntaf tuag at yrfa werthfawr ym maes gofal iechyd.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Rhan amser
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Byddwch yn cael gwybodaeth hanfodol mewn anatomeg, ffisioleg, iechyd a llesiant, a chyd-destun iechyd gofal yng Nghymru. Yn ogystal, byddwch yn datblygu sgiliau personol, academaidd a phroffesiynol tra’n archwilio gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a hanfodion gofal iechyd a chymdeithasol.
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen gref mewn anatomeg ddynol, iechyd a llesiant, a gofal iechyd yng Nghymru. Byddwch hefyd yn dechrau datblygu sgiliau academaidd, proffesiynol a phersonol hanfodol a fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Gorfodol
(20 Credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
Gorfodol
(20 Credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn dyfnhau eich dealltwriaeth o anatomeg a ffisioleg uwch, yn archwilio arweinyddiaeth mewn gofal iechyd, ac yn ymgysylltu â materion cyfoes ym maes iechyd meddwl. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau ymchwil ac yn dysgu cymhwyso ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth i hybu iechyd a llesiant o fewn y cyd-destun Cymreig.
Gorfodol
(20 Credydau)
(20 Credits)
(20 Credits)
Gorfodol
(10 credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
Course Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Mae’r rhaglen hon ar gyfer ymgeiswyr sydd â naill ai cymhwyster lefel 2 neu 3. Fodd bynnag, o ganlyniad i’r ystod o lwybrau sydd ar gael o fewn y portffolio iechyd, caiff pob ymgeisydd ei ystyried ar ei rinwedd ei hun. Golyga hyn y gallwn gymryd eich profiad bywyd a gwaith yn eich swydd bresennol i ystyriaeth.
Rydym yn argymell eich bod yn gwneud y canlynol yn glir yn eich datganiad personol.
- Os oes gennych neu os oes angen cymhwyster TGAU mathemateg (neu gyffelyb) arnoch
- Os ydych chi’n siarad Cymraeg
- Unrhyw brofiad gwaith neu gyflogaeth cysylltiedig
- Unrhyw brofiad o ofal neu gymorth yn y teulu
- Y math o rôl gofal iechyd yr hoffech ei chael.
Angen DBS Manwl Plant ac Oedolion.
-
Ni ddefnyddir arholiadau’n drwm yn y rhaglenni am fod ffocws yr asesu ar ymarfer gweithgareddau a gyflawnir yn nodweddiadol yn yr amgylchedd nyrsio a gofal iechyd.
Gwaith cwrs yw’r brif strategaeth asesu.
Gosodir gwaith cwrs a thasgau ymarferol mewn amrywiaeth o fformatau; sy’n cynnwys.
- Ymarferion sefydlog ymarferol yn y dosbarth (e.e. seminarau dadlau)
- Chwarae rôl (e.e. cyfweliadau nyrsio ffug gyda phenaethiaid diwydiant)
- Cyflwyniadau
- Portffolio nyrsio proffesiynol (yn adlewyrchu gofynion y diwydiant)
- Prosiectau ymchwil
- Blogiau adfyfyriol
- Mentora gan gymheiriaid
- Beirniadaeth fideo
- Traethodau
- Adroddiadau
- Profiad gwaith/lleoliadau.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r Brifysgol wedi creu partneriaeth gyda Trinity Nursing Services, asiantaeth nyrsio a gofal cenedlaethol, er mwyn sicrhau hyfforddiant am ddim ar lefel gweithiwr cymorth gofal iechyd, gwasanaeth cynefino â blaenoriaeth, ac yn bwysicach oll, y cyfle i weithio fel cynorthwywyr nyrsio asiantaeth â thâl ledled Cymru.
Mae staff yn darparu arweiniad gyrfaoedd i ddysgwyr, yn ogystal â chynnig llwybr dilyniant diffwdan ar gyfer ein myfyrwyr nyrsio i unrhyw gwrs arall a gynigir o fewn y portffolio ehangach.
I’r rheiny sy’n symud ymlaen i gyrsiau bwrsariaeth y GIG, cyflogaeth â thâl, neu gyrsiau eraill yn Y Drindod, rydym wedi gweithio gyda chydweithwyr staff gwasanaethau proffesiynol mewnol i hwyluso’r broses.