Cyfleusterau Cyfrifiadura
Ein Cyfleusterau
Ein Cyfleusterau
Fel myfyriwr Cyfrifiadura yn Abertawe, cewch fynediad at amrywiaeth o labordai cyfrifiadura penodedig a chaledwedd a meddalwedd o’r radd flaenaf. Gyda dosbarthiadau bach a chymorth unigol gan ddarlithwyr profiadol, rydym ni’n sicrhau amgylchedd dysgu cefnogol, gan ddarparu’r offer a’r adnoddau sydd eu hangen arnoch i ragori yn eich astudiaethau.
Rydym ni’n credu mewn dysgu ymarferol, lle gallwch chi gymhwyso’r egwyddorion a’r damcaniaethau a ddysgwch trwy brosiectau trochi a chymwysiadau yn y byd go iawn. Mae ein cwricwlwm yn cael ei arwain gan ddiwydiant, gyda chyrsiau a ddatblygwyd ar y cyd â sefydliadau blaenllaw ac ardystiadau cynwysedig gan gewri’r diwydiant megis Cisco a Microsoft.
Ein Cyfleusterau Cyfrifiadura
Ein Cyfleusterau Cyfrifiadura
Wedi’u lleoli ar gampws Glannau Abertawe gall myfyrwyr ymdrochi’n academaidd ar yr un pryd â mwynhau bywyd bywiog y ddinas a’r prydferthwch naturiol sydd gan Abertawe. Ochr yn ochr â chyfleusterau cyfrifiadura arbenigol mae gan fyfyrwyr fynediad hefyd at lyfrgell gynhwysfawr ac amrywiaeth o fannau astudio.
Mae ein cyfleusterau’n cynnwys pedwar labordy cyfrifiadurol, pob un â phrosesyddion Intel Core i7 perfformiad uchel a 64 GB o RAM. Rydym ni hefyd yn cynnig labordy arbenigol ar gyfer rhwydweithiau cyfrifiadurol a seiberddiogelwch, sy’n cynnwys llwybryddion a switshys Cisco o’r radd flaenaf, ochr yn ochr â Phecyn Cymorth Cellebrite ar gyfer gwaith fforensig symudol. Mae gan fyfyrwyr fynediad at gwricwlwm a luniwyd gyda diwydiant, gyda deunyddiau gan sefydliadau blaenllaw megis Cisco, Checkpoint, Palo Alto, a Microsoft Learn, sy’n sicrhau y cânt addysg a hyfforddiant o’r lefel uchaf.
Seiberddiogelwch a Rhwydweithiau Cyfrifiadurol
Fel myfyriwr mewn Seiberddiogelwch neu Rwydweithiau Cyfrifiadurol, cewch fynediad at gyfleusterau arbenigol ychwanegol, yn cynnwys labordy a neilltuwyd yn benodol ar gyfer Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch, wedi’i ddarparu â llwybryddion a switshys Cisco o’r radd flaenaf, yn ogystal â Phecyn Cymorth Cellebrite ar gyfer Gwaith Fforensig Symudol.
Ein Cyfleusterau Seiberddiogelwch a Rhwydweithiau Cyfrifiadurol
Mae ein hadnoddau dysgu datblygedig mewn rhwydweithiau cyfrifiadurol a seiberddiogelwch yn cynnwys Pecyn Cymorth Gwaith Fforensig Symudol Cellebrite, sy’n offeryn o’r radd flaenaf ar gyfer dadansoddi ymchwiliol ac arbenigol. Rydym ni’n defnyddio offer diweddaraf Cisco, yn cynnwys switshys C1000 a llwybryddion C8200L, i ddarparu hyfforddiant o’r radd flaenaf. At hynny, mae ein cyfleusterau’n cynnwys Pecyn Cymorth FTK, Microsoft Azure, ac offer cod agored amrywiol megis Kali Linux ac Autopsy. Mae’r adnoddau hyn yn sicrhau eich bod wedi eich paratoi’n dda i fynd i’r afael â heriau’r diwydiant gyda hyder ac arbenigedd.
Cyfleusterau Peirianneg Drydanol ac Electronig
Fel myfyriwr sy’n astudio ar ein rhaglenni peirianneg drydanol ac electronig cewch fynediad at nifer o gyfleusterau arbenigol yn cynnwys dau labordy â meddalwedd arbenigol megis Proteus VSM, Factory IO a Virtual Instrument gan LJ Create.
Labordy Electroneg
Labordy Seiberddiogelwch
Labordy Cyfrifiaduron
Oriel Gyfleusterau
Oriel Gyfleusterau
Bywyd ar y Campws
Bywyd Campws Abertawe
Archwiliwch y cyfleusterau trawiadol sydd ar gampysau Abertawe, sy’n cynnig profiad myfyrwyr deinamig. Mae’r campysau yn cynnwys labordai blaengar, gweithdai celf a dylunio arbenigol, a mannau addysgu arloesol. Mae’r llyfrgelloedd cynhwysfawr yn llawn casgliadau digidol a chorfforol helaeth. Mae myfyrwyr yn elwa o feysydd pwrpasol ar gyfer celf, peirianneg, adeiladu a labordai seicoleg. Mae’r ystafelloedd trochi, sydd ar gael i bob myfyriwr gan gynnwys rhai Plismona, yn darparu profiadau dysgu unigryw. Yn ogystal, mae mannau cymdeithasol bywiog, caffis, a hwb Undeb y Myfyrwyr gweithredol yn meithrin awyrgylch cymunedol bywiog ar gyfer datblygiad academaidd a phersonol.