ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Addysg Gynhwysol (Gradd Sylfaen) (FdA)

Yn y Gymuned
3 blynedd Rhan amser

Mae’r Radd Sylfaen mewn Addysg Gynhwysol wedi’i chynllunio ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu a Chynorthwywyr Cymorth Dysgu (LSA), yn ogystal â’r rhai sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli mewn amgylcheddau dysgu eraill. 

Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddysgu yn y gwaith, lle bydd myfyrwyr yn adeiladu ar eu sgiliau a’u gwybodaeth bresennol, gan ennill cymhwyster addysg uwch yn y broses. Drwy gwblhau’r radd hon, mae myfyrwyr yn dilyn llwybr dilyniant clir, gan eu paratoi ar gyfer astudiaethau pellach neu ddatblygiad gyrfa. Mae llawer o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i gwblhau’r radd atodol BA (Anrh) Addysg Gynhwysol.

Nid yn unig y caiff y rhaglen hon ei chynnig ar gampysau’r brifysgol ond hefyd mewn lleoliadau cymunedol ehangach. Mae hyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr brofi dysgu byd go iawn, gan eu helpu i gymhwyso’r hyn maen nhw’n ei ddysgu yn yr ystafell ddosbarth i’w rolau dydd i ddydd. Mae’r cwrs yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth o’r cysylltiadau rhwng theori, polisi ac arfer. Gallant dynnu ar eu profiadau gwaith eu hunain, gan wneud y broses ddysgu’n berthnasol a phersonol iawn.

Gall myfyrwyr gwblhau aseiniadau a chyflwyniadau naill ai yn y Gymraeg neu’r Saesneg, gan ganiatáu darpariaeth ddwyieithog sy’n cefnogi’r rhai sydd â dealltwriaeth gref o’r Gymraeg. Mae’r cwrs yn cydnabod pwysigrwydd pum Safon Broffesiynol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu, sy’n cynnwys Addysgeg, Dysgu Proffesiynol, Arloesi, Arweinyddiaeth a Chydweithio. Mae’r safonau hyn wedi’u hymgorffori trwy gydol y rhaglen, gan roi cyfle i fyfyrwyr gymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol a fydd yn eu helpu i dyfu’n unigol ac fel rhan o dîm. Y nod yw datblygu eu harbenigedd fel y gallant gael effaith gadarnhaol a chynaliadwy ar bob dysgwr.

Trwy’r rhaglen hon, bydd myfyrwyr yn ennill sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn werthfawr mewn ystod o swyddi a lleoliadau. Mae’r rhain yn cynnwys arfer adfyfyriol, y gallu i feddwl yn feirniadol, a’r gallu i gydweithio a chyfryngu ag eraill. Mae’r sgiliau hyn yn hanfodol i lwyddo yn y gweithlu addysg a thu hwnt. Mae’r cwrs yn annog myfyrwyr i adfyfyrio’n barhaus ar eu dysgu a’u datblygiad eu hunain, gan sicrhau eu bod bob amser yn gwella ac yn barod ar gyfer heriau’r dyfodol.

Mae’r Radd Sylfaen mewn Addysg Gynhwysol yn cynnig cyfle unigryw i ennill cymwysterau gwerthfawr wrth weithio yn y maes. Mae’n cefnogi datblygiad sgiliau ac yn cynnig llwybr at gyrhaeddiad academaidd pellach neu ddilyniant mewn gyrfaoedd, a hynny oll wrth wneud gwir wahaniaeth i fywydau dysgwyr. P’un a ydych am symud ymlaen yn eich rôl bresennol neu ddilyn cyfleoedd newydd, mae’r rhaglen hon yn cynnig sylfaen gref ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Rhan amser
  • Cyfunol (ar y campws)
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Hyd y cwrs:
3 blynedd Rhan amser

Ffioedd Dysgu 2024/25 a 25/26

£1950 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Hyblygrwydd – caiff sesiynau eu cyflwyno gyda’r hwyr yn ogystal ag ar ddyddiau Sadwrn
02
Dysgu Seiliedig ar Waith
03
Dilyniant gyrfaol – TAR, MA

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein hathroniaeth o ran dysgu ac addysgu yn canolbwyntio ar ddarparu amgylchedd cefnogol, diddorol a chynhwysol lle gall myfyrwyr roi damcaniaeth ar waith. Rydym yn annog myfyrwyr i archwilio heriau addysgol, datblygu meddwl beirniadol, ac ennill sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr. Trwy gyfuniad o ddysgu academaidd a dysgu yn y gwaith, ein nod yw rhoi i fyfyrwyr y wybodaeth a’r hyder i lwyddo mewn lleoliadau addysgol amrywiol.

Byddwch yn archwilio ystod o bynciau sylfaenol sy’n hanfodol ar gyfer deall addysg yr oes sydd ohoni. Byddwch yn ymchwilio i heriau cyfoes ym maes addysg, gan ddysgu sut i wneud gwahaniaeth yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt. Byddwch yn meithrin dealltwriaeth o sut i gefnogi dysgwyr, yn enwedig y rhai ag anghenion ychwanegol, ac yn archwilio ymddygiadau ac ymyriadau sy’n dylanwadu ar yr amgylchedd dysgu. Bydd y ffocws ar ddatblygu eich sgiliau academaidd ac egwyddorion dysgu ac addysgu i’ch helpu i lwyddo yn eich gyrfa yn y dyfodol.

Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth

(20 credydau)

Cefnogi'r dysgwr

(20 credydau)

Anghenion ychwanegol yn eu cyd-destun

(20 credydau)

Archwilio ymddygiad ac ymyriadau yn yr amgylchedd dysgu

(20 credydau)

Egwyddorion Dysgu ac Addysgu

(20 credydau)

Datblygu Sgiliau Academaidd Llwyddiannus

(20 credydau)

Byddwch yn adeiladu ar y sgiliau a ddatblygwyd yn eich blwyddyn gyntaf wrth ganolbwyntio ar feysydd addysg mwy penodol. Byddwch yn astudio rhifedd a llythrennedd, gan gael mewnwelediad i sut mae’r sgiliau allweddol hyn yn siapio dysgu ar draws holl gyfnodau addysg. Byddwch hefyd yn archwilio pwysigrwydd iaith a diwylliant yng Nghymru, yn ogystal â phynciau fel iechyd meddwl a llesiant i blant a phobl ifanc. Rhoddir pwyslais cryf ar amddiffyn plant, gan eich helpu i ddeall rôl hanfodol diogelu mewn lleoliadau addysgol.

Mae Rhifau'n Cyfri

(20 credydau)

Llythrennedd: allwedd i ddysg

(20 credydau)

Dathlu iaith a diwylliant - perthyn i Gymru

(20 credydau)

Iechyd a lles meddyliol plant a phobl ifanc

(20 credydau)

Cadw ein plant yn ddiogel

(20 credydau)

Sgiliau ar gyfer Cyflogadwyedd yn yr 21ain Ganrif

(20 credyd)

Yn ystod y flwyddyn atodol ychwanegol hon, byddwch yn ymgymryd â phrosiect annibynnol, sy’n eich galluogi i gymhwyso eich dysgu i faes diddordeb penodol. Byddwch hefyd yn archwilio ffyrdd newydd o addysgu a dysgu, gan gynnwys addysg awyr agored ac effaith y chwyldro digidol ar addysg. Byddwch yn archwilio technegau rheoli ystafell ddosbarth ac yn datblygu dealltwriaeth ehangach o safbwyntiau byd-eang mewn addysg. Bydd y flwyddyn hon yn rhoi i chi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i weithio mewn amrywiaeth o leoliadau addysgol, gan eich paratoi ar gyfer rolau arwain yn y dyfodol.

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Symud oddi wrth yr ystafell ddosbarth draddodiadol: Addysg a dysgu awyr agored

(20 credydau)

Symud oddi wrth yr ystafell ddosbarth draddodiadol: Y chwyldro digidol tawel mewn addysg

(20 credydau)

Rheoli’r Ystafell Ddosbarth

(20 credydau)

Safbwyntiau byd-eang mewn addysg

(20 credydau)

Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Mae’r rhaglen hon yn denu ymgeiswyr o amrywiaeth o gefndiroedd a phrofiadau o ran cyflogaeth a chymwysterau academaidd ffurfiol.

    Nid yw’r rhaglen hon yn gofyn i ymgeiswyr feddu ar gymwysterau ffurfiol; bydd yr adran derbyniadau’n asesu addasrwydd ymgeiswyr trwy gyfweliad trylwyr a phrawf ysgrifenedig.

  • Gosodir gwaith cwrs a phrofion ymarferol mewn amrywiaeth o fformatau. Mae’r rhain yn cynnwys:

    • Ymarferion gosod ymarferol yn y dosbarth
    • Chwarae rôl (e.e. ffug gyfweliadau)
    • Cyflwyniadau (e.e. cynlluniau busnes)
    • Portffolios o waith
    • Prosiectau ymchwil
    • Traethodau
    • Adroddiadau

    Gan fod y rhaglen yn denu dysgwyr o ystod o gefndiroedd, gydag amrywiaeth o brofiad gwaith a phersonol, mewn llawer o achosion mae’r asesiadau’n darparu hyblygrwydd i’r myfyriwr ddefnyddio eu cefndir a’u profiad i wneud y dysgu’n berthnasol i’w profiad gwaith blaenorol; bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i ddatblygu prosiectau sy’n berthnasol i’w dyheadau gyrfa.

  • Mae’r holl gostau ychwanegol a restrir yn yr adran yn ddangosol.

    Costau angenrheidiol

    Bydd angen mynediad ar ddysgwyr i galedwedd a meddalwedd cyfrifiadurol addas: tua Â£500.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • Mae cysylltiadau gydag amrywiaeth o sefydliadau yn y trydydd sector, y sector cyhoeddus a’r sector preifat a siaradwyr gwadd a chyfleoedd mentora rheolaidd wedi’u hymgorffori yn y rhaglenni TystAU a BA i amlygu’r ystod o swyddi a llwybrau gyrfa sydd ar agor i’r myfyrwyr.

    Mae cymryd rhan yn nigwyddiadau ‘Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd’ a ‘Gŵyl Dechrau Busnes yr Haf’ yn ogystal â mynychu a chysylltiadau gyda sesiynau Modelau Rôl Syniadau Mawr Cymru yn galluogi myfyrwyr i siarad gyda, a dysgu gan entrepreneuriaid llwyddiannus.

Mwy o gyrsiau Gwaith Ieuenctid ac Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar

Chwiliwch am gyrsiau