Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (2 blynedd) (Llawn amser) (BA Anrh)
Mae’r BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yn rhaglen radd dwy flynedd amser llawn wedi’i chynllunio ar gyfer y rheiny sydd am ddeall sut mae plant ifanc yn datblygu ac yn dysgu. Mae’r cwrs hwn yn berffaith os ydych chi’n angerddol am weithio gyda phlant a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w bywydau.
Drwy gydol y cwrs, byddwch yn astudio meysydd pwysig fel datblygiad plentyndod cynnar, datblygiad plant, ac iechyd a llesiant yn y blynyddoedd cynnar. Mae’r rhaglen yn darparu sylfaen gref o ran deall y gwahanol ffyrdd y mae plant yn tyfu ac yn dysgu. Byddwch yn archwilio’r ffactorau sy’n effeithio ar gynnydd plentyn, gan gynnwys llesiant, a sut y gallwch gefnogi ei ddatblygiad cyfannol.
Rhan allweddol o’r radd hon yw’r ffocws ar brofiad ymarferol. Byddwch yn cael cyfle i wirfoddoli mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar fel rhan o’r cwrs, a fydd yn eich helpu i gymhwyso eich gwybodaeth mewn sefyllfaoedd yn y byd go iawn. Mae’r lleoliadau gwaith hyn mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar yn gyfle gwych i ddatblygu eich sgiliau a gwella eich datblygiad proffesiynol. Bydd y profiad a gewch hefyd yn rhoi hwb i’ch siawns o gael swydd yn y dyfodol mewn rolau fel athro blynyddoedd cynnar, gweithiwr gofal plant, neu reolwr meithrin.
Mae’r rhaglen wedi’i strwythuro i ymdrin â phynciau fel diogelu yn y blynyddoedd cynnar a phwysigrwydd arfer myfyriol a holistig. Byddwch hefyd yn dysgu am arweinyddiaeth a rheolaeth yn y blynyddoedd cynnar, gan roi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ymgymryd â rolau arweinyddiaeth mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.
Os oes gennych gymhwyster blynyddoedd cynnar eisoes, mae opsiwn i astudio ar gyfer gradd BA (Anrh) llawn. Mae’r llwybr hyblyg hwn yn eich galluogi i ymuno â’r rhaglen yn uniongyrchol ac adeiladu ar eich gwybodaeth bresennol, gan eich helpu i ddatblygu eich gyrfa mewn addysg blynyddoedd cynnar.
Mae’r radd hon nid yn unig yn rhoi dealltwriaeth ddofn i chi o lesiant plant a sut i’w cefnogi, ond hefyd yn eich paratoi ar gyfer ystod o gyfleoedd gyrfa yn y sector. Os ydych chi’n awyddus i wneud gwahaniaeth i fywydau plant ifanc, y cwrs hwn yw’r cam nesaf delfrydol.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
- Cymraeg
- Dwyieithog
Ffioedd Dysgu 25/26
Cartref (Llawn-amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Wrth wraidd ein rhaglen BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar mae ymrwymiad i greu ymarferwyr myfyriol, gwybodus a all gefnogi datblygiad cyfannol plant ifanc. Rydym yn cyfuno theori â phrofiad ymarferol, gan sicrhau bod myfyrwyr yn ennill yr wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i lwyddo yn y sector blynyddoedd cynnar.
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio sylfeini datblygiad dynol a chwarae plant, yn ogystal â phwysigrwydd y 1000 diwrnod cyntaf o fywyd. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau academaidd allweddol ac yn cael cipolwg ar arfer amlieithog mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar, gan eich paratoi ar gyfer ymarfer myfyriol a phroffesiynol.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Mae Blwyddyn 2 yn canolbwyntio ar ddatblygu llythrennedd, rhifedd a chwilfrydedd gwyddonol mewn plant, ochr yn ochr â phynciau hanfodol fel diogelu a llesiant. Byddwch yn archwilio arweinyddiaeth a gwaith tîm yn y blynyddoedd cynnar, wrth hogi eich sgiliau ymchwil i gefnogi dysgu a thwf proffesiynol yn y maes.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Ymwrthodiad
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Cynnig nodweddiadol ar gyfer y cwrs hwn yw 88-104 o bwyntiau UCAS.
Bydd rhaid i bob ymgeisydd ddarparu dogfen datgeliad manylach boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Mae’r radd hon yn ddelfrydol i bobl sy’n gadael ysgol sy’n astudio amrywiaeth o gyrsiau gan gynnwys Safon Uwch, BTEC, CACHE a Bagloriaeth Cymru. Gellir cysylltu’r pynciau cwrs hyn i ddatblygiad a gofal plant; fodd bynnag, mae’r radd hefyd yn briodol ar gyfer y rheiny nad oes ganddynt unrhyw gymwysterau gofal plant penodol ac sydd wedi astudio pynciau fel iaith, y celfyddydau, cerddoriaeth, drama, mathemateg, y gwyddorau neu’r dyniaethau.
Mae’r Blynyddoedd Cynnar yn annog a rhoi gwerth ar geisiadau gan fyfyrwyr sy’n dychwelyd i addysg.
Rydym hefyd yn cynnig llwybr dysgu hyblyg (gweler y radd Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar 2 flynedd) a ddyluniwyd er mwyn gallu ei astudio gyda’r nos ac ar benwythnosau, ar gyfer y rheiny sydd eisoes yn meddu ar brofiad helaeth o weithio yn y sector blynyddoedd cynnar.
Yn rhan o’r broses gwneud cais bydd myfyrwyr yn cael cyfle i fynychu diwrnodau ymweld. Mae hyn yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ymweld â’r campws, gwrdd â’r darlithwyr a gofyn cwestiynau am y radd a chael taith o gwmpas y safle gydag un o’n myfyrwyr presennol.
Yn ystod diwrnodau ymweld, mae darlithwyr y cwrs bob tro’n ymddiddori mewn profiadau’r ymgeiswyr o wirfoddoli a gweithio gyda phlant, er enghraifft, ar leoliadau ysgol / coleg. Mae’r tîm hefyd yn hoffi clywed am ddiddordebau, hobïau a chyfrifoldebau ymgeiswyr.
-
Mae’r rhaglen yn cael ei hasesu 100% drwy waith cwrs. Nid oes unrhyw arholiadau. Rydym ni wedi gweld bod defnyddio ystod amrywiol o ddulliau asesu’n cynyddu sgiliau cyflogadwyedd. Mae cyflogwyr yn chwilio am raddedigion sy’n gallu datrys problemau ac sydd ag ystod o sgiliau cyflogadwyedd trosglwyddadwy. Mae’r asesu’n rhoi cyfleoedd i ddatblygu sgiliau megis y gallu i weithio mewn tîm, cyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, ar yr un pryd â defnyddio ystod o ddulliau o rannu gwybodaeth yn cynnwys papurau briffio, posteri academaidd, dadleuon grŵp a thrafodaethau proffesiynol. Hefyd ceir cyfleoedd am brofiadau gwaith ymarferol, gan gefnogi cyflogadwyedd, datblygiad proffesiynol a gyrfaoedd.
Mae astudiaeth ddwyieithog a chyfrwng Cymraeg yn ganolog i’n darpariaeth; gallwch ddewis cofrestru ar y rhaglen cyfrwng Cymraeg neu gyfrwng Saesneg a gallwch gyflwyno’ch aseiniadau yn y naill iaith neu’r llall.
-
Mae’n rhaid i fyfyrwyr wneud cais am, a chael Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Y Drindod Dewi Sant. Mae’r ffi’n cael ei bennu gan y DBS; ar hyn o bryd, y ffi yw tua £44.
Mae’n rhaid i fyfyrwyr gael cyfwerth â 700 awr o brofiad ymarferol mewn lleoedd fel lleoliadau blynyddoedd cynnar. Bydd costau teithio a chostau lluniaeth yn sgil hyn. (Dim ond yn berthnasol i raglenni Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar)
Gall myfyrwyr orfod talu costau ychwanegol oherwydd mae’n rhaid iddynt fynychu rhai darlithoedd modwl gyda dillad addas ar gyfer astudio yn yr awyr agored.
O bryd i’w gilydd, yn amodol ar ymchwil cefndir myfyriwr ar gyfer pynciau aseiniad, efallai y bydd angen iddynt deithio i leoliadau blynyddoedd cynnar.
Mae’r Blynyddoedd Cynnar yn trefnu profiadau astudio gorfodol a gweithgareddau cyfoethogi i fyfyrwyr. Bydd yr Ysgol yn talu am y costau teithio ac astudio a gyfyd yn sgil hyn. Fodd bynnag, ar gyfer rhai ymweliadau, bydd rhaid i fyfyrwyr gyflenwi eu lluniaeth eu hunain.
Yn ogystal â hyn, mae’r Ysgol Blynyddoedd Cynnar yn trefnu cyfleoedd dewisol i fyfyrwyr gael cymwysterau ychwanegol yn ystod rhan olaf eu rhaglen, er enghraifft Iechyd a Diogelwch, Amddiffyn. Bydd y rhain yn gofyn i’r myfyrwyr dalu costau; a chaiff y gost ei phennu gan y darparwr.
Mae’r rhaglen hefyd yn cynnig cyfleoedd dewisol i fyfyrwyr gymryd rhan mewn ymweliadau tu hwnt i’r campws er enghraifft Caerdydd, Llundain, Sweden a Chanada. Rhaid i’r myfyrwyr dalu cost yr ymweliadau dewisol hyn.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.
-
Mae graddedigion yn mynd ymlaen i yrfaoedd mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys:
- Cymorth anghenion dysgu ychwanegol
- Arweinydd ar ôl ysgol
- Gwarchodwr plant
- Rolau elusennau plant (e.e. Barnardo’s)
- Swyddog Cymorth Cymunedol
- Hwylusydd Teuluoedd
- Swyddog Cymorth Teuluoedd
- Swyddog Rhianta
- Cymorth Bugeiliol
- Gweithwyr chwarae
- Arweinwyr Ystafell
- Rheolwr Lleoliad
- Gweithwyr Ieuenctid
Astudiaethau Pellach
Mae rhai o’n hisraddedigion yn mynd ymlaen i astudiaethau pellach eraill. Mae rhai myfyrwyr wedi mynd ymlaen i’n rhaglenni MA ein hunain, gan gynnwys ein MA Llythrennedd Cynnar ac MA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar.
Mae rhaglenni ôl-radd fel y rhain yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr uwchsgilio, a dyfnhau eu dealltwriaeth o blant ifanc a’u teuluoedd. Mae’r cyfryw astudiaethau wedi galluogi i fyfyrwyr ôl-raddedig symud ymlaen yn eu maes gwaith presennol ac i eraill symud ymlaen i yrfaoedd newydd.
Llwybr i mewn i addysgu
Yn fyfyriwr Blynyddoedd Cynnar YDDS, byddwn yn sicrhau y cewch gyfweliad ar gyfer y rhaglen TAR Cynradd, ar yr amod y byddwch yn bodloni’r gofynion cymwysterau mynediad. Wrth wneud cais ar gyfer y rhaglen TAR Cynradd fe fyddwn, ar y cyd ag Addysg Gychwynnol Athrawon, yn eich cefnogi drwy proses gwneud cais a chyfweld ffug.
Astudiaethau ôl-radd a llwybrau amgen
Bydd graddedigion hefyd yn gallu mynd ymlaen i nifer o gyrsiau ôl-radd yn eu maes penodol; mae dosbarth gradd da mewn Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yn bodloni’r gofynion mynediad ar gyfer llawer o lwybrau ôl-radd.
Isod, ceir ychydig esiamplau o lwybrau y mae graddedigion blaenorol wedi’u cymryd.
- Teulu a Chymunedau
- Nyrsio
- Therapi Chwarae
- Polisi a Llywodraeth
- Ymchwil
- Gwaith Cymdeithasol
- Therapi Lleferydd ac Iaith