Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar - 2 Flynedd (BA Anrh)
Os ydych yn gweithio gyda phlant yn barod neu os oes gennych brofiad o weithio gyda phlant neu deuluoedd neu ym meysydd perthynol, mae’r llwybr dysgu hwn wedi’i gynllunio ar eich cyfer. Mae’r cwrs yn cael ei gyflwyno o amgylch eich ymrwymiadau gwaith i’ch cefnogi i ddychwelyd i astudio.
Gwnewch wahaniaeth i fywydau plant ifanc gyda’n rhaglen Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yw eich llwybr i yrfa werthfawr mewn addysg Blynyddoedd Cynnar, lle mae pob rhyngweithiad yn cyfrif tuag at lunio cenedlaethau’r dyfodol.
Ymchwiliwch i hanfodion Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar a chael dealltwriaeth gynhwysfawr o ddatblygiad plant, arferion addysgol a rôl hanfodol addysgwyr blynyddoedd cynnar. Gyda chwricwlwm sy’n cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol gyda phrofiad ymarferol, byddwch yn cael y sgiliau sydd eu hangen i ragori mewn amrywiaeth o yrfaoedd Gwaith Ieuenctid a Blynyddoedd Cynnar. Dyma lwybr delfrydol i gael mynediad at TAR hyfforddiant athrawon a rolau graddedig eraill.
Ymunwch â chymuned fywiog o ddysgwyr ac addysgwyr sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo addysg Blynyddoedd Cynnar. Cydweithredwch â thiwtoriaid profiadol a myfyrwyr eraill wrth i chi archwilio dulliau dysgu arloesol ac arferion gorau mewn Addysg Plentyndod Cynnar.
Bydd ein rhaglen yn eich caniatáu i ennill Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar a gydnabyddir gan Gofal Cymdeithasol Cymru a’r Rhwydwaith Gradd Astudiaethau Plentyndod Cynnar. Bydd yn sicrhau eich bod yn gallu creu amgylcheddau anogol sy’n cefnogi dysgu a datblygiad plant. P’un a ydych am weithio mewn meithrinfeydd, Dechrau’n Deg, ysgolion neu ganolfannau cymunedol, byddwn yn eich darparu gyda’r offer, yr wybodaeth a’r gefnogaeth i lwyddo.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein rhaglen Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yn trwytho myfyrwyr ym mhob agwedd o ddatblygiad plant ifanc, gan bontio profiadau ymarferol gyda damcaniaethau plentyndod cynnar. Dewch i ddysgu sut mae theori yn cyfuno ag arfer gan eich caniatáu i feithrin twf cyfannol mewn dysgwyr ifanc.
Yn eich blwyddyn gyntaf o’r rhaglen Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar, byddwch yn archwilio’r egwyddorion sylfaenol sy’n sail i addysg Blynyddoedd Cynnar. Byddwch yn cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp ysgogol a gweithdai rhyngweithiol sydd wedi’u cynllunio i’ch cyflwyno i gysyniadau hanfodol mewn Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar. Byddwch yn dechrau adeiladu sylfaen gadarn o wybodaeth ar draws ystod amrywiol o bynciau perthnasol mewn darlithoedd ysgogol. Bydd y pwyslais ar ddysgu ymarferol yn eich darparu â sgiliau ymarferol i gymhwyso damcaniaethau’n effeithiol i’ch arfer eich hun, gan eich paratoi ar gyfer ystod o rolau Blynyddoedd Cynnar.
(20 Credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 Credydau)
Gan adeiladu ar eich gwybodaeth, bydd eich ail flwyddyn yn y rhaglen Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yn dyfnhau eich dealltwriaeth ac yn ehangu eich safbwyntiau. Cymerwch ran mewn gweithdai ymarferol a chyfleoedd ar gyfer ymweliadau astudio arbenigol sy’n archwilio i faterion cymhleth a thueddiadau sy’n dod i’r amlwg mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar. Ymgysylltwch â siaradwyr gwadd, arbenigwyr a fydd yn rhannu eu syniadau am bolisïau a datblygiadau cyfredol o fewn y sector Blynyddoedd Cynnar.
Efallai y bydd cyfleoedd am ymweliadau preswyl dewisol o fewn y DU a thramor. Bydd y rhain yn cynnig profiadau diwylliannol amhrisiadwy ac yn cyfoethogi ymhellach eich dealltwriaeth o arferion byd-eang wrth i chi astudio i ennill Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 Credydau)
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
88 o Bwyntiau UCAS.
Derbynnir cymwysterau cyfwerth eraill a bydd y panel derbyn yn ystyried pob cais yn unigol. Sylwer hefyd nad yw ein cynigion wedi’u seilio ar eich cyraeddiadau academaidd yn unig; byddwn yn cymryd i ystyriaeth eich ystod lawn o sgiliau, profiad a chyflawniadau wrth ystyried eich cais.
Mae’r radd yn croesawu ymgeiswyr sydd wedi astudio busnes gynt, fel cam nesaf naturiol ymlaen. Bydd y rheiny sydd wedi astudio pynciau eraill yn trosglwyddo’n dda. Gall y rheiny sydd â phrofiad gwaith, ond fawr ddim cymwysterau ffurfiol, hefyd ymuno â’r rhaglen. Perchir dyfarniadau Lefel A ac Edexcel, yn ogystal ag ystod o dystysgrifau eraill ar y lefel hon o’r DU, UE a chyrff rhyngwladol.
Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.
-
Mae’r rhaglen hon yn cynnig profiad galwedigaethol sy’n heriol yn academaidd ac yn ymgorffori dulliau addysgu ac asesu arloesol. Bydd disgwyl i fyfyrwyr fod yn weithredol wrth reoli eu profiad dysgu, bod yn greadigol a chymryd camau i’w datblygu eu hunain.
-
Costau ychwanegol i’w talu gan y myfyriwr
Fel sefydliad, ymdrechwn yn barhaus i gyfoethogi profiadau myfyrwyr ac o ganlyniad, mae’n bosibl y daw costau ychwanegol i ran y myfyrwyr sy’n gysylltiedig â gweithgareddau a fydd yn ychwanegu gwerth at eu haddysg. Lle bo modd, cedwir y costau hyn mor isel â phosibl, gyda’r gweithgareddau ychwanegol yn ddewisol.
Costau teithiau maes a lleoliadau
Bydd teithiau maes ar gael i fyfyrwyr, sydd yn ddewisol. Darperir gwybodaeth am gostau ar gyfer teithiau yn y DU ac yn rhyngwladol ar ddechrau’r flwyddyn academaidd.
Bydd gan fyfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliadau tramor gostau teithio, byw ac efallai costau llety i’w talu. Bydd y swm yn amodol ar y lleoliad a chyflwr presennol y bunt. Bydd costau fisa ychwanegol yn daladwy yn achos myfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliadau yn UDA.
Yn achos teithiau maes disgwylir i fyfyrwyr dalu bedair wythnos ymlaen llaw. Yn achos lleoliadau tramor disgwylir iddynt dalu’r costau teithio a chostau fisa dri mis ymlaen llaw.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.
-
Mae’r rhaglen Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar hon wedi’i chynnwys yn rhestr Gofal Cymdeithasol Cymru o gymwysterau gofynnol i weithio o fewn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru. Bydd gan fyfyrwyr sy’n cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus radd yn ogystal â thrwydded i arfer mewn ystod o rolau arfer a rheoli mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.
Mae gan y rhaglen gyfradd cyflogadwyedd uchel ar gyfer graddedigion, sydd mewn gwaith o fewn chwe mis i gwblhau’r radd. Mae nifer sylweddol o raddedigion hefyd yn mynd ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig yn y brifysgol hon a rhai eraill.
Mae’r Gyfadran yn cynnig gradd MSc Rheolaeth Ariannol i’r rheini sy’n dymuno astudio ymhellach. Mae’r astudio hyblyg ar y rhaglen yn rhoi’r gallu i fyfyrwyr lywio’u hastudiaethau yn ôl eu huchelgais o ran gyrfa ac amgylchiadau personol. Mae integreiddio myfyrwyr o’r DU, yr UE a myfyrwyr rhyngwladol ynghyd â chymdeithas cyn-fyfyrwyr gryf yn caniatáu rhwydweithio a sefydlu cyfeillgarwch hirdymor.