ϳԹ

Skip page header and navigation

Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol gyda Blwyddyn Sylfaen (Ardystiad ETS) (Llawn amser) (BA Anrh)

Caerfyrddin
4 Blynedd Llawn amser
80 o Bwyntiau UCAS

Mae’r radd Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol gyda Blwyddyn Sylfaen (BA) yn ddechrau perffaith i’r rhai sy’n dymuno gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc. Mae’r flwyddyn sylfaen hon wedi’i chynllunio i adeiladu eich hyder a’ch sgiliau, gan eich paratoi ar gyfer gweddill y radd, sydd wedi’i chymeradwyo gan ETS ac sy’n rhoi cymhwyster proffesiynol i chi mewn gwaith ieuenctid. Mae’r cwrs yn mynd i’r afael â’r heriau difrifol y mae pobl ifanc yn eu hwynebu heddiw, o drawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod i faterion fel camddefnyddio sylweddau a Llinellau Sirol. Byddwch yn archwilio’r pynciau hyn drwy lens gwyddorau cymdeithasol, gan feithrin sgiliau i gefnogi pobl ifanc trwy sefyllfaoedd cymhleth mewn ffordd gadarnhaol.

Yn aml, gelwir gwaith ieuenctid yn y ” gyfrinach orau” oherwydd ei effaith bwerus. Yn wahanol i lawer o broffesiynau eraill, mae gwaith ieuenctid yn canolbwyntio ar feithrin perthnasoedd cryf, cadarnhaol, gyda’r nod o rymuso pobl ifanc i ddatblygu gwytnwch a dyfeisgarwch. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar feithrin perthynas fel ffordd o greu newid parhaol, ac yn dysgu myfyrwyr sut i gefnogi ieuenctid drwy ystod o faterion. Gyda chyfuniad o theori, polisi ac ymarfer, mae myfyrwyr yn dysgu sut mae’r sylfeini hyn yn croestorri yn y byd go iawn, gan sicrhau eu bod nid yn unig yn academyddion gwybodus ond hefyd yn ymarferwyr medrus sy’n gallu gweithio’n effeithiol gyda phobl ifanc.

Bydd myfyrwyr yn cael eu trochi mewn mentora ac eiriolaeth ieuenctid, gan ddysgu sut i helpu pobl ifanc i gyrraedd eu potensial wrth fynd i’r afael â materion hanfodol fel iechyd a lles a hawliau plant. Trwy leoliadau strwythuredig a gwaith maes, maent yn ennill profiad ymarferol sy’n amhrisiadwy yn y gweithle, gan wella eu dealltwriaeth o waith ieuenctid a’u cyflogadwyedd mewn rolau ieuenctid a chymunedol. Mae’r profiad ymarferol hwn yn baratoad hanfodol ar gyfer gwaith cymunedol yn y dyfodol, lle bydd graddedigion yn gallu cyfrannu’n gadarnhaol at gyfiawnder cymdeithasol a datblygu cymunedol mewn amrywiaeth o amgylcheddau, o ysgolion a chanolfannau ieuenctid i wasanaethau cymdeithasol.

Mae’r cwrs hwn yn cynnig hyfforddiant cynhwysfawr i weithwyr ieuenctid a chymunedol, sy’n hanfodol ar gyfer gyrfa sy’n cefnogi plant, pobl ifanc yn eu harddegau a’u cymunedau. Gyda’i phwyslais mawr ar addysg a chynhwysiant cymdeithasol, mae’r rhaglen yn sicrhau bod myfyrwyr yn graddio gyda dealltwriaeth gytbwys o anghenion pobl ifanc o gefndiroedd amrywiol. Maent yn gadael yn barod ar gyfer gyrfaoedd ystyrlon, p’un ai mewn rolau cymorth ieuenctid uniongyrchol neu mewn swyddi ehangach sy’n canolbwyntio ar y gymuned. Mae llawer o broffesiynau yn ystyried y radd gwaith ieuenctid fel cymhwyster dymunol iawn oherwydd yr arbenigedd y mae’n ei rhoi a’i ffocws unigryw ar yr heriau sy’n wynebu ieuenctid heddiw.

Mae graddedigion yn barod i weithio mewn rolau deinamig sy’n mynnu empathi, gwytnwch, ac ymrwymiad i newid cadarnhaol. I unrhyw un sydd am greu effaith, mae’r radd hon yn cynnig y sgiliau i ddod yn weithiwr ieuenctid dylanwadol a thosturiol, sy’n gallu arwain ym maes gwaith ieuenctid ac addysg gymdeithasol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
YWSF
Hyd y cwrs:
4 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
80 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 25/26
Cartref (Llawn-amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cael cymhwyster â chymeradwyaeth broffesiynol a gradd academaidd.
02
Archwilio arfer gyda phobl ifanc a’u cymunedau drwy ymgymryd â chyfleoedd am leoliadau gwaith ieuenctid bob blwyddyn mewn dewis eang o sefydliadau cymunedol ac i bobl ifanc.
03
Paratoi am gyfleodd gwaith megis cyfiawnder ieuenctid, iechyd a llesiant, datblygu cymunedol, menter gymdeithasol a’r heddlu.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol gyda Blwyddyn Sylfaen (BA) yn seiliedig ar ddysgu cymhwysol, gan gyfuno gwybodaeth yn yr ystafell ddosbarth ag ymarfer yn y byd go iawn. Rydym yn credu mewn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau academaidd, proffesiynol a phersonol sy’n eu galluogi i fynd i’r afael yn hyderus â’r heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu heddiw. Mae’r dull hwn yn adeiladu dealltwriaeth, empathi, a sgiliau ymarferol sy’n hanfodol ar gyfer gwaith ieuenctid effeithiol.

Yn y flwyddyn sylfaen, byddwch yn meithrin sgiliau academaidd a phersonol hanfodol i’ch helpu i ffynnu yn y brifysgol a’r tu hwnt. Byddwch yn cael eich cyflwyno i hanfodion ymarfer gwaith ieuenctid a rôl gweithiwr ieuenctid, gan ddysgu sut i fynd i’r afael â’ch astudiaethau’n hyderus wrth ddechrau deall beth mae’n ei olygu i weithio gyda phobl ifanc.

Cyflwyniad i Arfer Gwaith Ieuenctid

(60 Credydau)

Sgiliau Goroesi Academaidd

(30 Credydau)

Cyflwyniad i Fywyd y Brifysgol

(30 Credydau)

Mae eich ail flwyddyn yn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o lencyndod ac yn cyflwyno  egwyddorion ymarfer proffesiynol craidd  ar gyfer gweithio gyda phobl ifanc. Byddwch yn dysgu sgiliau gwerthfawr mewn cwnsela, ymwybyddiaeth ofalgar ac eiriolaeth ac yn archwilio materion allweddol sy’n ymwneud â hawliau, grymuso a chyfranogiad i’ch paratoi ar gyfer rolau gwaith ieuenctid sy’n cefnogi newid cadarnhaol.

Ymarfer Proffesiynol: Egwyddorion a Chyd-destunau Gwaith gyda Phobl Ifanc

(20 credydau)

Deall y Glasoed

(20 credydau)

Sgiliau Cwnsela, Ymwybyddiaeth Ofalgar ac Ymarfer Therapiwtig

(20 credydau)

Pobl Ifanc a Chymdeithas 1: Eiriolaeth, Grymuso, Cyfranogiad a Hawliau

(20 credydau)

Arfer Gwaith Ieuenctid 1: Paratoi'r Gweithlu

(20 credydau)

Sgiliau Astudio Academaidd i Fyfyrwyr

(20 credydau)

Yn y drydedd flwyddyn, byddwch yn astudio dulliau ymchwil gymdeithasol ac yn cryfhau eich sgiliau mewn arweinyddiaeth a rheolaeth, gan ehangu eich profiad ymarferol trwy ymarfer gwaith ieuenctid uwch. Byddwch hefyd yn archwilio materion cyfredol fel iechyd meddwl, lles a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, gan ddysgu cefnogi pobl ifanc mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd cymhleth.

Ymchwil Cymdeithasol ar gyfer Arfer Proffesiynol

(20 credydau)

Goruchwyliaeth, Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol

(20 credydau)

Does neb yn rhy fach i wneud gwahaniaeth: Gweithio gyda phobl ifanc i greu hinsawdd o newid

(20 credydau)

Pobl Ifanc a Chymdeithas 2: Iechyd Meddwl, Lles a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod

(20 credydau)

Ymarfer Gwaith Ieuenctid 2: Datblygu Arfer

(40 credydau)

Mae eich blwyddyn olaf yn canolbwyntio ar bynciau uwch mewn gwaith ieuenctid, gan gynnwys trawma, ecsbloetio a gwytnwch. Byddwch hefyd yn ymgymryd â thraethawd hir, gan ymchwilio i bwnc gwaith ieuenctid o’ch dewis, sy’n eich galluogi i ddyfnhau eich gwybodaeth ac ennill arbenigedd mewn maes sydd o ddiddordeb i chi. Erbyn diwedd y cwrs, byddwch wedi’ch paratoi’n dda ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn gwaith ieuenctid a chymunedol.

Arfer Gwaith Ieuenctid 3: Arwain a Rheoli

(20 credydau)

Pobl Ifanc mewn Ffocws

(20 credydau)

Pobl Ifanc a Chymdeithas 3: Trawma, Camfanteisio a Phlentyndod Gwenwynig

(20 credydau)

Lles a Gwydnwch Pobl Ifanc

(20 credydau)

Traethawd Hir

(40 Credydau)

Course Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

    • Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr ddarparu dogfen datgeliad manylach foddhaol ar gyfer y Gweithlu Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
    • Gofynion mynediad y rhaglen yw rhwng 80 a 96 pwynt a throsodd, fodd bynnag, mae mynediad i’r rhaglen yn amodol ar deilyngdod yr unigolyn.
    • O ganlyniad i gymeradwyaeth broffesiynol y rhaglen radd, rhaid i ymgeiswyr feddu ar o leiaf 100 awr o brofiad o Waith Ieuenctid diweddar a pherthnasol.
  • Lluniwyd asesiadau i adlewyrchu gofynion y maes, a datblygu sgiliau cyflogadwyedd eang yn y myfyrwyr. Nid oes unrhyw arholiadau.

  • Gorfodol: 
    Costau DBS.

    Costau Angenrheidiol:
    Costau teithio i ac o leoliadau (un lleoliad ar bob lefel astudio).

    Dewisol:
    Bydd myfyrwyr sy’n penderfynu manteisio ar y cyfle i astudio dramor am un semester ar Lefel 5 yn gorfod talu costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â hyn.  Gall gweithgarwch preswyl posibl ar Lefel 6 gynnwys costau ychwanegol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

  • Mae cyfle hefyd i fyfyrwyr astudio dramor yn rhan o’u hastudiaethau yn yr ail flwyddyn, yn y Ffindir neu Columbia Brydeinig.

  • O ganlyniad i’w huchelgeisiau wrth wneud cais am le ar y rhaglen radd, mae llawer o’n graddedigion yn dod o hyd i waith yn uniongyrchol ym maes gwaith ieuenctid, yn y sector gwirfoddol a’r sector a gynhelir.  Fodd bynnag, mae’r cymhwyster gwaith ieuenctid yn adnabyddus am ei allu i drosglwyddo i feysydd cysylltiedig ehangach, sy’n dangos sut y gellir trosglwyddo’r sgiliau y mae’r graddedigion wedi’u datblygu wrth astudio ar y rhaglen radd i lawer o leoliadau eraill, a’u bod yn sgiliau a groesawir o fewn timau aml-ddisgyblaethol.

    Dyma nifer o enghreifftiau penodol o gyrchfannau graddedigion:

    • Gwaith ieuenctid wyneb yn wyneb mewn ystod o gyd-destunau gan gynnwys mewn ysgolion, timoedd rhianta corfforaethol, gwaith ôl-16, prosiectau digartrefedd i bobl ifanc gan Awdurdodau Lleol
    • Swyddog Lles Addysg
    • Gweithio gyda sefydliadau gan ganolbwyntio ar faterion yn cynnwys  camddefnyddio sylweddau, prosiectau sy’n cefnogi pobl ifanc ddigartref ac eraill sy’n canolbwyntio ar fabwysiadu, pobl ifanc sy’n derbyn gofal, ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr
    • Addysg gymunedol
    • Cyfiawnder Ieuenctid
    • Bwrdd Iechyd Lleol
    • Llywydd Undeb y Myfyrwyr
    • Hyfforddwr ac Arweinydd Grŵp PGL Activities
    • Mentor Cymheiriaid Pobl Ifanc i elusen iechyd meddwl genedlaethol
    • Gweithiwr Iechyd Emosiynol i Wasanaeth Ieuenctid Awdurdod Lleol
    • Gweithiwr Cymorth CAMHS
    • Cymorth i Deuluoedd ar gyfer pobl ifanc ag anableddau
    • Gweithiwr Ieuenctid ôl-16 i Wasanaeth Ieuenctid Awdurdod Lleol
    • Gweithiwr Ieuenctid gyda’r Tîm Rhianta Corfforaethol mewn Gwasanaeth Ieuenctid Awdurdod Lleol
    • Cydlynydd Uned gyda Thîm Gofal Plant mewn Awdurdod Lleol
    • Rheolwr Corfforaethol mewn Gwasanaeth Ieuenctid Awdurdod Lleol
    • Uwch Swyddogion Ieuenctid mewn Gwasanaeth Ieuenctid Awdurdod Lleol

    Mae llawer o raddedigion yn penderfynu ymgymryd ag astudio pellach.  Mae rhaglenni MA graddedigion diweddar yn cynnwys:

    • Plant a Phobl Ifanc: Iechyd a Llesiant (MA), PCYDDS
    • Plant a Phobl Ifanc: Hawliau Plant (MA), PCYDDS
    • Cam-drin Menywod a Phlant (MA), Prifysgol Fetropolitan Llundain
    • Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol (MA), Prifysgol Abertawe
    • Menter Gymdeithasol (MSc), Prifysgol Stirling 

Mwy o gyrsiau Gwaith Ieuenctid ac Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar

Chwiliwch am gyrsiau