Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (Ardystiad ETS) (Llawn amser) (BA Anrh)
Mae’r rhaglen Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (BA) (Ardystiad ETS) yn cynnig cymhwyster proffesiynol i fyfyrwyr, a thrwy safbwynt y gwyddorau cymdeithasol mae’n archwilio heriau cyfredol a chyfoes y mae pobl ifanc yn eu hwynebu, gan gynnwys:
- Trawma
- Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod
- Camddefnyddio Sylweddau
- Llinellau Cyffuriau
- Hawliau Plant
- Iechyd a Llesiant
- Effaith perthnasoedd
Mae’r radd yn cyfuno theori, polisi ac arfer mewn dull cymhwysol er mwyn galluogi graddedigion i fod yn academyddion rhagorol ac yn ymarferwyr rhagorol.
Yn aml tybir bod gwaith ieuenctid yn ‘gyfrinach fawr’, ac mae’n ddull pwerus o gefnogi pobl ifanc i feithrin gwytnwch a dyfeisgarwch ac i gyflawni eu potensial yn llawn. Mae gwaith ieuenctid wedi’i seilio ar ddatblygu perthnasoedd da, cadarnhaol gyda phobl ifanc, ac mae’n gweithredu’n sylfaen i gefnogi pobl ifanc drwy ystod o broblemau. Dyma pam mae proffesiynau eraill yn aml yn ystyried bod y radd mewn gwaith ieuenctid yn gymhwyster i’w ddeisyfu.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
- Cymraeg
- Dwyieithog
Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd y radd BA (Anrh) Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (Ardystiad ETS) yn galluogi myfyrwyr i weithio gyda phobl ifanc, cymunedau a theuluoedd, ac i fod yn ymarferwyr sy’n addas i’r diben yn y 21ain ganrif. Trwy safbwynt y gwyddorau cymdeithasol, bydd y rhaglen yn archwilio arfer gyda phobl ifanc a’u cymunedau mewn modd cymhwysol, gydag ymrwymiad eglur i gyfiawnder cymdeithasol, arfer gwrth-ormesol, ac wedi’i seilio ar werthoedd ac egwyddorion craidd gwaith ieuenctid.
Mae’r cwrs yn paratoi myfyrwyr i fod yn weithwyr proffesiynol i weithio gyda phobl ifanc ar nifer o broblemau sy’n gyfredol iawn yn y gymdeithas sydd ohoni, megis Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant, Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, Digartrefedd, Camddefnyddio Sylweddau, Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed, Tlodi a Gordewdra ymhlith pobl ifanc, ac mae’n archwilio’r rhain mewn modd cymhwysol, gan dynnu ar ymchwil cyfredol ac arfer gorau er mwyn paratoi graddedigion i fod yn effeithiol ac adfyfyriol iawn yn eu dewis feysydd.
Mae’r rhaglen yn cyd-fynd yn gyflawn ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i “ddatblygu a chryfhau darpariaeth benodol wedi’i hanelu at gefnogi a gwella canlyniadau ar gyfer pobl ifanc sy’n fwy agored i niwed neu sydd ar y cyrion” (LlC, 2019, t.13).
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(40 credydau)
Gorfodol
(60 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Course Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
- Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr ddarparu dogfen datgeliad manylach foddhaol ar gyfer y Gweithlu Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Gofynion mynediad y rhaglen yw rhwng 80 a 96 pwynt a throsodd, fodd bynnag, mae mynediad i’r rhaglen yn amodol ar deilyngdod yr unigolyn.
- O ganlyniad i gymeradwyaeth broffesiynol y rhaglen radd, rhaid i ymgeiswyr feddu ar o leiaf 100 awr o brofiad o Waith Ieuenctid diweddar a pherthnasol.
-
Lluniwyd asesiadau i adlewyrchu gofynion y maes, a datblygu sgiliau cyflogadwyedd eang yn y myfyrwyr. Nid oes unrhyw arholiadau.
-
Gorfodol:
Costau DBS.Costau Angenrheidiol:
Costau teithio i ac o leoliadau (un lleoliad ar bob lefel astudio).Dewisol:
Bydd myfyrwyr sy’n penderfynu manteisio ar y cyfle i astudio dramor am un semester ar Lefel 5 yn gorfod talu costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â hyn. Gall gweithgarwch preswyl posibl ar Lefel 6 gynnwys costau ychwanegol. -
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
-
Mae cyfle hefyd i fyfyrwyr astudio dramor yn rhan o’u hastudiaethau yn yr ail flwyddyn, yn y Ffindir neu Columbia Brydeinig.
-
O ganlyniad i’w huchelgeisiau wrth wneud cais am le ar y rhaglen radd, mae llawer o’n graddedigion yn dod o hyd i waith yn uniongyrchol ym maes gwaith ieuenctid, yn y sector gwirfoddol a’r sector a gynhelir. Fodd bynnag, mae’r cymhwyster gwaith ieuenctid yn adnabyddus am ei allu i drosglwyddo i feysydd cysylltiedig ehangach, sy’n dangos sut y gellir trosglwyddo’r sgiliau y mae’r graddedigion wedi’u datblygu wrth astudio ar y rhaglen radd i lawer o leoliadau eraill, a’u bod yn sgiliau a groesawir o fewn timau aml-ddisgyblaethol.
Dyma nifer o enghreifftiau penodol o gyrchfannau graddedigion:
- Gwaith ieuenctid wyneb yn wyneb mewn ystod o gyd-destunau gan gynnwys mewn ysgolion, timoedd rhianta corfforaethol, gwaith ôl-16, prosiectau digartrefedd i bobl ifanc gan Awdurdodau Lleol
- Swyddog Lles Addysg
- Gweithio gyda sefydliadau gan ganolbwyntio ar faterion yn cynnwys camddefnyddio sylweddau, prosiectau sy’n cefnogi pobl ifanc ddigartref ac eraill sy’n canolbwyntio ar fabwysiadu, pobl ifanc sy’n derbyn gofal, ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr
- Addysg gymunedol
- Cyfiawnder Ieuenctid
- Bwrdd Iechyd Lleol
- Llywydd Undeb y Myfyrwyr
- Hyfforddwr ac Arweinydd Grŵp PGL Activities
- Mentor Cymheiriaid Pobl Ifanc i elusen iechyd meddwl genedlaethol
- Gweithiwr Iechyd Emosiynol i Wasanaeth Ieuenctid Awdurdod Lleol
- Gweithiwr Cymorth CAMHS
- Cymorth i Deuluoedd ar gyfer pobl ifanc ag anableddau
- Gweithiwr Ieuenctid ôl-16 i Wasanaeth Ieuenctid Awdurdod Lleol
- Gweithiwr Ieuenctid gyda’r Tîm Rhianta Corfforaethol mewn Gwasanaeth Ieuenctid Awdurdod Lleol
- Cydlynydd Uned gyda Thîm Gofal Plant mewn Awdurdod Lleol
- Rheolwr Corfforaethol mewn Gwasanaeth Ieuenctid Awdurdod Lleol
- Uwch Swyddogion Ieuenctid mewn Gwasanaeth Ieuenctid Awdurdod Lleol
Mae llawer o raddedigion yn penderfynu ymgymryd ag astudio pellach. Mae rhaglenni MA graddedigion diweddar yn cynnwys:
- Plant a Phobl Ifanc: Iechyd a Llesiant (MA), PCYDDS
- Plant a Phobl Ifanc: Hawliau Plant (MA), PCYDDS
- Cam-drin Menywod a Phlant (MA), Prifysgol Fetropolitan Llundain
- Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol (MA), Prifysgol Abertawe
- Menter Gymdeithasol (MSc), Prifysgol Stirling