Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (Llawn amser) (BA Anrh)
Mae ein rhaglen Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yn agor drysau i yrfa werthfawr yn meithrin meddyliau ifanc. Ddysgwch fwy am fyd addysg plentyndod cynnar gyda ni ac archwiliwch y Blynyddoedd Cynnar. Dewch i ddarganfod sut y gallwch lunio’r dyfodol i blant a theuluoedd drwy addysg a gofal ymroddedig.
Mae ein rhaglen yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol gyda phrofiad ymarferol, gan eich darparu â sgiliau hanfodol ar gyfer taith lwyddiannus mewn Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar. O ddeall cerrig milltir datblygiad plant i weithredu arferion addysgol effeithiol, byddwch yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o’r maes. P’un a ydych yn ystyried gweithio mewn meithrinfeydd, lleoliadau cyn-ysgol, Dechrau’n Deg, ysgolion neu ganolfannau cymunedol, mae ein rhaglen yn eich paratoi ar gyfer rolau amrywiol lle gallwch gael effaith ystyrlon.
Ymunwch â chymuned fywiog sy’n gwerthfawrogi Gwaith Ieuenctid ac Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar. Cydweithiwch â chyfoedion o’r un anian ac addysgwyr profiadol sy’n rhannu eich angerdd am ddatblygiad plant. Archwiliwch arwyddocâd dysgu sy’n seiliedig ar chwarae, datblygu partneriaethau teuluol a dulliau addysgu arloesol sy’n meithrin creadigaeth a thwf mewn plant.
Mae ein cymhwyster BA Blynyddoedd Cynnar yn gosod pwyslais cryf ar Addysg Plentyndod Cynnar. Mae ein rhaglen, nid yn unig, yn eich paratoi’n academaidd, ond mae hefyd yn eich cefnogi i gyflawni Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru a’r Rhwydwaith Gradd Astudiaethau Plentyndod Cynnar yn cydnabod bod hyn yn hanfodol ar gyfer ymarfer proffesiynol mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar. Byddwch yn datblygu’r arbenigedd a’r hyder i feithrin dysgwyr ifanc yn effeithiol drwy astudio modylau arbenigol a lleoliadau ymarferol.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
- Cymraeg
- Dwyieithog
Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein rhaglen Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yn trwytho myfyrwyr ym mhob agwedd o ddatblygiad plant ifanc, gan bontio profiadau ymarferol gyda theori plentyndod cynnar allweddol. Dysgwch sut mae theori yn integreiddio ag arfer, gan eich caniatáu i feithrin twf cyfannol mewn dysgwyr ifanc.
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn gosod y sylfeini ar gyfer eich taith mewn addysg a gofal Blynyddoedd Cynnar. Byddwch yn cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp a gweithdai ysgogol sydd wedi’u cynllunio i’ch cyflwyno i gysyniadau hanfodol mewn Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar. Byddwch yn dechrau deall yr egwyddorion sylfaenol sy’n sail i ddatblygiad plant ac arferion addysgol mewn darlithoedd sylwgar. Bydd y pwyslais ar ddysgu ymarferol a lleoliadau yn eich darparu â’r sgiliau ymarferol i gymhwyso damcaniaethau i’ch arfer eich hun yn effeithiol, gan osod sylfaen gref ar gyfer eich dyfodol mewn astudiaethau Blynyddoedd Cynnar.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
Bydd eich ail flwyddyn yn dyfnhau eich dealltwriaeth o Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar. Byddwch yn archwilio pynciau uwch ymhellach mewn gweithdai rhyngweithiol a lleoliadau. Bydd siaradwyr gwadd ac arbenigwyr yn y maes yn ehangu eich persbectif ar bolisïau a datblygiadau cyfredol o fewn y sector blynyddoedd cynnar. Byddwch yn mireinio eich sgiliau mewn Addysg Plentyndod Cynnar a chryfhau eich gallu i ddadansoddi’n feirniadol a gweithredu arferion gorau mewn Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar drwy brosiectau cydweithredol ac aseiniadau ymarferol.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn atgyfnerthu eich dysgu a pharatoi i ragori yn eich llwybr dewisol o fewn addysg a gofal Blynyddoedd Cynnar. Bydd trafodaethau a gweithdai yn eich herio i gymhwyso eich gwybodaeth i senarios cymhleth a materion sy’n dod i’r amlwg mewn addysg plentyndod cynnar.
Yn ystod eich cyfnod yn astudio ar y cwrs, bydd cyfleoedd ar gyfer ymweliadau preswyl dewisol yn y DU neu dramor sy’n cynnig dirnadaethau diwylliannol amhrisiadwy ac yn ehangu eich rhwydwaith proffesiynol. Yn ogystal, byddwch yn cael cyfle i wrando ar siaradwyr gwadd a fydd yn eich ysbrydoli gyda’u profiadau a’u dirnadaethau, gan sicrhau eich bod wedi’ch paratoi’n dda i lywio tirwedd esblygol Ymarfer Blynyddoedd Cynnar a chael effaith gadarnhaol ar fywydau plant ifanc.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 Credydau)
Ymwrthodiad
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Cynnig nodweddiadol ar gyfer y cwrs hwn yw 88-104 o bwyntiau UCAS.
Bydd rhaid i bob ymgeisydd ddarparu dogfen datgeliad manylach boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Mae’r radd hon yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sy’n gadael ysgol ar ôl astudio amrywiaeth o gyrsiau gan gynnwys Safon Uwch, BTEC, CACHE a Bagloriaeth Cymru. Gellir cysylltu’r pynciau cwrs hyn â datblygiad a gofal plant; fodd bynnag, mae’r radd hefyd yn briodol ar gyfer y rheiny nad oes ganddynt unrhyw gymwysterau gofal plant penodol ac sydd wedi astudio pynciau fel iaith, y celfyddydau, cerddoriaeth, drama, mathemateg, y gwyddorau neu’r Dyniaethau.
Mae’r rhaglen Blynyddoedd Cynnar yn annog a rhoi gwerth ar geisiadau gan fyfyrwyr sy’n dychwelyd at addysg.
Yn rhan o’r broses gwneud cais, bydd myfyrwyr yn cael cyfle i fynychu diwrnodau ymweld. Mae hyn yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ymweld â’r campws, cwrdd â’r darlithwyr, gofyn cwestiynau am y radd a mynd am dro o amgylch y safle gyda myfyriwr cyfredol.
Yn ystod diwrnodau ymweld, mae darlithwyr y cwrs bob amser yn ymddiddori ym mhrofiadau’r ymgeiswyr o wirfoddoli a gweithio gyda phlant ifanc, er enghraifft, lleoliadau ysgol/coleg. Mae’r tîm hefyd yn hoffi clywed am ddiddordebau, hobïau a chyfrifoldebau’r ymgeiswyr.
Er mwyn ennill cymwyseddau ymarferydd graddedig mae’n bosibl y bydd angen TGAU Mathemateg a Saesneg gradd C neu gymwysterau llythrennedd a rhifedd cyfatebol addas arall hefyd.
-
Mae’r rhaglen yn cael ei hasesu 100% drwy waith cwrs. Nid oes unrhyw arholiadau.
Rydym ni wedi gweld bod defnyddio ystod amrywiol o ddulliau asesu’n cynyddu sgiliau cyflogadwyedd. Mae cyflogwyr yn chwilio am raddedigion sy’n gallu datrys problemau ac sydd ag ystod o sgiliau cyflogadwyedd trosglwyddadwy.
Mae’r asesu’n rhoi cyfleoedd i ddatblygu sgiliau megis y gallu i weithio mewn tîm, cyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, ar yr un pryd â defnyddio ystod o ddulliau o rannu gwybodaeth yn cynnwys papurau briffio, posteri academaidd, dadleuon grŵp a thrafodaethau proffesiynol.
Hefyd ceir cyfleoedd am brofiadau gwaith ymarferol, gan gefnogi cyflogadwyedd, datblygiad proffesiynol a gyrfaoedd.
Mae astudiaeth ddwyieithog a chyfrwng Cymraeg yn ganolog i’n darpariaeth; gallwch ddewis cofrestru ar y rhaglen cyfrwng Cymraeg neu gyfrwng Saesneg a gallwch gyflwyno’ch aseiniadau yn y naill iaith neu’r llall.
-
Mae’n rhaid i fyfyrwyr wneud cais am, a chael Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Y Drindod Dewi Sant. Mae’r ffi’n cael ei bennu gan y DBS; ar hyn o bryd, y ffi yw tua £44.
Mae’n rhaid i fyfyrwyr gael cyfwerth â 700 awr o brofiad ymarferol mewn lleoedd fel lleoliadau blynyddoedd cynnar. Bydd costau teithio a chostau lluniaeth yn sgil hyn.
Efallai y bydd rhaid i fyfyrwyr dalu costau ychwanegol gan fod rhaid iddynt fynychu rhai darlithoedd modwl gyda dillad addas ar gyfer astudio yn yr awyr agored.
Mae’r Blynyddoedd Cynnar yn trefnu profiadau astudio gorfodol a gweithgareddau cyfoethogi i fyfyrwyr. Bydd y rhageln yn talu am y costau teithio ac astudio a gyfyd yn sgil hyn. Fodd bynnag, ar gyfer rhai ymweliadau, bydd rhaid i fyfyrwyr gyflenwi eu lluniaeth eu hunain.
Yn ogystal â hyn, mae’r Blynyddoedd Cynnar yn trefnu cyfleoedd dewisol i fyfyrwyr gael cymwysterau ychwanegol yn ystod rhan olaf eu rhaglen, er enghraifft Iechyd a Diogelwch, Amddiffyn. Bydd y rhain yn gofyn i’r myfyrwyr dalu costau; a chaiff y gost ei phennu gan y darparwr.
Mae’r rhaglen hefyd yn cynnig cyfleoedd dewisol i fyfyrwyr i gymryd rhan mewn ymweliadau tu hwnt i’r campws er enghraifft Caerdydd, Llundain, Sweden a Chanada. Rhaid i’r myfyrwyr dalu cost yr ymweliadau dewisol hyn.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r rhaglen Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar hon wedi’i chynnwys yn rhestr Gofal Cymdeithasol Cymru o gymwysterau gofynnol i weithio o fewn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru. Bydd gan fyfyrwyr sy’n cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus radd yn ogystal â thrwydded i arfer mewn ystod o rolau arfer a rheoli mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.
Mae graddedigion yn mynd ymlaen i yrfaoedd mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys:
- Cymorth anghenion dysgu ychwanegol
- Arweinydd ar ôl ysgol
- Gwarchodwr plant
- Rolau gydag elusennau plant (e.e. Barnardo’s)
- Swyddog Cymorth Cymunedol
- Hwylusydd Teuluoedd
- Swyddog Cymorth Teuluoedd
- Swyddog Rhianta
- Cymorth Bugeiliol
- Gweithwyr chwarae
- Arweinwyr Ystafell
- Rheolwr Lleoliad
- Gweithwyr Ieuenctid
Astudiaethau Pellach
Mae rhai o’n graddedigion yn mynd yn eu blaenau i astudiaethau pellach eraill. Mae rhai myfyrwyr wedi mynd ymlaen i’n rhaglenni MA ein hunain, gan gynnwys ein MA Llythrennedd Cynnar ac MA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar.
Mae rhaglenni ôl-raddedig fel y rhain yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr uwchsgilio a dyfnhau eu dealltwriaeth o blant ifanc a’u teuluoedd. Mae astudiaethau o’r fath wedi galluogi myfyrwyr ôl-raddedig i symud ymlaen yn eu maes gwaith cyfredol ac i eraill symud i yrfaoedd newydd.
Llwybr i addysgu
Yn fyfyriwr Blynyddoedd Cynnar Y Drindod Dewi Sant, byddwn yn sicrhau y cewch gyfweliad ar gyfer y rhaglen TAR Cynradd, ar yr amod y byddwch yn bodloni’r gofynion cymwysterau mynediad. Wrth wneud cais ar gyfer y rhaglen TAR Cynradd fe fyddwn, ar y cyd ag Addysg Gychwynnol Athrawon, yn eich cefnogi drwy proses gwneud cais a chyfweld ffug.
Astudiaeth ôl-raddedig a llwybrau amgen
Hefyd, bydd graddedigion yn gallu symud ymlaen i nifer o gyrsiau ôl-radd yn eu maes diddordeb; mae dosbarth da mewn gradd Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yn bodloni’r gofynion mynediad ar gyfer llawer o lwybrau ôl-radd.
Isod, ceir ychydig esiamplau o lwybrau y mae graddedigion blaenorol wedi’u cymryd.
- Teulu a Chymunedau
- Nyrsio
- Therapi Chwarae
- Polisi a Llywodraeth
- Ymchwil
- Gwaith Cymdeithasol
- Therapi Lleferydd ac Iaith