ϳԹ

Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi datblygu gradd cymhwyster ôl-raddedig newydd, MA Theatr Gymhwysol: Cymuned, Addysg a Lles, sy’n ffocysu ar rôl drama a theatr y tu allan i ofodau traddodiadol.

Grŵp o fyfyrwyr yn sefyll mewn neuadd o flaen athro.
Credyd: People Speak Up

Drwy weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, cymunedau, busnesau, ysgolion ac asiantaethau eraill, mae’r Drindod Dewi Sant yn cael effaith sylweddol yn y maes hwn, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ledled y wlad.

Mae MA Theatr Gymhwysol: Cymuned, Addysg a Lles, sy’n arbenigo mewn arferion theatr, drama a pherfformio cynhwysol yn croesawu ei charfan gyntaf ym mis Medi 2024.

Bydd y radd ôl-raddedig yn cynnwys modiwl gwaith ar leoliad lle bydd myfyrwyr yn cyflwyno arferion drama gyfranogol mewn dosbarthiadau, canolfannau cymunedol ac ysbytai, gyda’r nod o gael effaith gymdeithasol, lles ac addysgol ar yr unigolion hynny sy’n cymryd rhan.  

Wedi’i lleoli ar gampws y Brifysgol yng Nghaerfyrddin, mae’r rhaglen yn cyd-fynd yn agos â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n cydnabod ac yn hyrwyddo celfyddydau a diwylliant fel rhan annatod o lesiant.

Dywedodd Alison Franks, Darlithydd a Rheolwr Rhaglen MA Theatr Gymhwysol:  

“Nid yw’r celfyddydau perfformio bellach ar gyfer y rhai sydd eisiau gweithio yn y diwydiant fel actorion neu gyfarwyddwyr. Mae hefyd yn llwybr gyrfa a all effeithio ar fywydau ystod o bobl a chymunedau.

“Mae gan Gymru hanes cyfoethog o ymarfer theatr gyfranogol a chelfyddydau cymunedol, ac mae mor bwysig ein bod yn edrych i barhau â’r etifeddiaeth honno yma yn Y Drindod Dewi Sant.  

“Fel adran mae gennym eisoes berthynas waith anhygoel gyda sefydliadau celfyddydol a theatr flaenllaw fel People Speak Up, Theatr Hijinx, Theatr y Torch a  nifer o ysgolion lleol a byrddau iechyd.

“Rydym yn edrych ymlaen at lansio’r rhaglen hon a chydag ef y genhedlaeth nesaf o ymarferwyr theatr gymhwysol a fydd yn gweithio gyda chymunedau lleol a chenedlaethol, gan ysbrydoli creadigrwydd, newid, lles ac addysg trwy ddrama a theatr.” 


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;+447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon