ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Mae Elicia Axon, sydd wedi graddio o’r cwrs BA Actio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn cydweithio gyda  ar brosiect cyffrous i greu newid cadarnhaol yn sector y celfyddydau a diwylliant yng Nghymru. 

Elicia Axon sitting in a chair on set

Cwmni theatr a chelfyddydol wedi’i leoli yng Nghaerdydd yw Fio, a’i weledigaeth yw bod pobl o’r Mwyafrif Byd-eang yn cael eu hymgorffori ac yn ffynnu  ym mhob agwedd ar theatr a’r celfyddydau yng Nghymru. Maen nhw’n helpu i siapio newid trwy ddarparu llwybrau a chyfleoedd i ddatblygu, creu a phrofi theatr a chelfyddydau cyffrous. Gan gynrychioli diwylliant a hunaniaeth Gymreig amrywiol gyfoes, bwriad y cwmni yw dileu rhwystrau a chynnig gweledigaethau cynhwysol a chroestoriadol ar gyfer y dyfodol.

Cysylltodd y cwmni ag Elicia Axon i ymuno ag  – rhaglen datblygu artistiaid blwyddyn o hyd am dâl sy’n canolbwyntio ar gefnogi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr creadigol ar ddechrau eu gyrfa, o bob oed ac o bob rhan o Gymru. Mae’r cwmni’n canolbwyntio ar weithio gyda phobl o fewn y mwyafrif byd-eang, pobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y celfyddydau.

Yn ystod y rhaglen, llwyddodd Elicia i gydweithio ag aelodau eraill, cynhyrchu prosiectau cyffrous a rhannu straeon.

Meddai: “Ers rhaglen Arise, mae Fio wedi bod yn hynod gefnogol gan gynnig cyfleoedd, ac roedd y cyfle penodol hwn yn arbennig. Gyda chymorth ariannol a chreadigol gan Fio, cynhyrchais osodwaith amlgyfrwng a oedd yn cynnwys ffilm, bath a llinyn. Roedd y gosodwaith yn canolbwyntio ar hunanhyder, rhywbeth y gallwn ni fel gwneuthurwyr theatr ei chael yn anodd weithiau.â€

Roedd creu gosodweithiau yn rhywbeth yr oedd Elicia’n anghyfarwydd iawn ag ef, ond mae’n rhywbeth a oedd yn wastad wedi apelio ati.

Dywedodd: “Roeddwn i’n ddiolchgar fy mod i wedi gallu archwilio hyn o’r maes creu theatr mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Rwy’n dwli ar actio ond rwy’n wneuthurwr theatr brwd iawn hefyd, rwy’n hoffi creu gwaith sy’n adlewyrchu fi, pwy ydw i fel person. Rydw i’n wastad wedi meddwl bod theatr yn adnodd addysgol gwych, felly mae gallu creu gwaith sydd nid yn unig yn ysgogol yn weledol ond sydd hefyd â gwers y tu ôl iddo yn gyffrous iawn.â€

Roedd yn ddarn a oedd yn dangos bregusrwydd a llwyddodd Elicia drwyddo i fynegi ei hun drwy ysgrifennu a delweddau. Roedd ganddi reolaeth greadigol lawn a threuliodd 5 diwrnod yn ymchwilio ac yn datblygu’r prosiect yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter.

Ar ddiwedd y prosiect, cafodd y rhaglen arddangosfa breifat o’u gwaith lle gwahoddwyd gweithwyr creadigol Cymreig o’r diwydiant i ymuno. Fe wnaethant gynnig eu hadborth a’u mewnwelediadau ar y darn, ac o ganlyniad, mae hi bellach yn gweithio tuag at ddatblygu’r cynhyrchiad ymhellach yn 2024.

Dywedodd Elicia na fyddai wedi gwneud yn fawr o’r cyfle hwn heb y sgiliau a addysgwyd ac a ddatblygwyd trwy ei gradd BA Actio yn PCYDDS. 

“Rwy’n weithiwr creadigol amryddawn ac rwy’n gwybod bod hynny o ganlyniad i’m hyfforddiant yn PCYDDS. Mae’r hyfforddiant rydych chi’n ei gael yn anhygoel. Maen nhw nid yn unig yn eich addysgu i fod yn actor gwych, ond maen nhw hefyd yn eich annog i wneud a chreu eich gwaith eich hun. Oherwydd fy amser yn PCYDDS, rwy’n gwybod sut i gyfathrebu’n effeithiol ag actorion, cyfarwyddwyr, dylunwyr goleuadau ac ati.

“Mae cyfathrebu’n hynod bwysig ym maes y theatr. Rwy’n gwybod am amserlennu, sut i redeg ystafell ymarfer, sut i baratoi fy hun yn iawn ar gyfer prosiect newydd, sut i ofalu am fy nghorff a’m meddwl tra byddaf yn gweithio ar brosiect. Yr holl bethau hyn nad ydych chi wir yn eu hystyried wrth ddewis gyrfa ym maes actio.â€

Meddai Lynne Seymour, Cyfarwyddwr Rhaglen BA Actio: 

“Mae hi wedi bod yn wych gweld Elicia’n datblygu ac yn tyfu fel crëwr a pherfformiwr. Roedden nhw’n wastad yn fyfyriwr ardderchog ac ymroddgar a oedd nid yn unig yn rhagori yn eu hastudiaethau ond a wnaeth gysylltiadau gwerthfawr â’r diwydiant hefyd gyda’r tiwtoriaid llawrydd allanol rydyn ni bob tro’n dod â nhw i mewn i addysgu ar y cwrs. Gwnaeth Elicia gysylltiadau defnyddiol yn ystod y cwrs ac mae wedi parhau i adeiladu eu rhwydwaith ac ymgorffori eu hun o fewn y gymuned greadigol yng Nghaerdydd a thu hwnt. Wynebodd Elicia sawl her yn ystod eu cwrs gradd wrth i ni fynd drwy gyfnod clo Covid a chyfyngiadau ar fannau ymarfer ymarferol, ac rwy’n credu bod eu penderfyniad i ffynnu drwy’r heriau hyn wedi helpu i’w gwneud yn weithiwr creadigol angerddol a gwydn. Rwy’n falch iawn o’r hyn y mae wedi’i gyflawni ac rwy’n edrych ymlaen at eu gweld yn datblygu eu gwaith ymhellach.â€


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
¹ó´Úô²Ô:&²Ô²ú²õ±è;07449&²Ô²ú²õ±è;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon