Seryddiaeth Ddiwylliannol ac Astroleg (Llawn amser) (PGCert)
Mae Seryddiaeth Ddiwylliannol ac Astroleg (MA) yn gwrs unigryw sy’n mynd i’r afael â’r ffyrdd y mae bodau dynol yn priodoli ystyr i’r planedau, y sêr a’r awyr, ac yn llunio cosmolegau sy’n sail i ddiwylliant a chymdeithas.
Mae’r cwrs yn cael ei addysgu
- Yng Nghanolfan Sophia ar gyfer Astudio Cosmoleg mewn Diwylliant
- Yn yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau
Mae’r rhaglen ar gael naill ai’n Llawn Amser neu’n Rhan Amser, ac fel naill ai MA, Diploma neu Dystysgrif. Am wybodaeth lawn, gan gynnwys disgrifiadau modylau, amserlenni, rhestr ddarllen uwch, rhagofynion, ffioedd a sut i wneud cais, ynghyd â’n cyrsiau byr a chynadleddau allgymorth, e-bostiwch reolwr y rhaglen, Dr Nicholas Campion, n.campion@uwtsd.ac.uk.
Pam Seryddiaeth Ddiwylliannol ac Astroleg?
Rydyn ni i gyd yn greaduriaid y bydysawd: mae pob atom yn ein cyrff wedi pasio trwy dair seren - llwch sêr ydyn ni yn llythrennol.
Ers miloedd o flynyddoedd, mae bodau dynol wedi bod yn damcaniaethu am eu cysylltiadau corfforol, emosiynol a seicig gyda’r awyr, y sêr a’r planedau - ac mae’r canlyniadau i’w gweld o ran credoau ac ymddygiad, o ysbrydolrwydd a’r cysegredig i greadigrwydd a’r celfyddydau, ac o wleidyddiaeth i bensaernïaeth.
Seryddiaeth Ddiwylliannol ac Astroleg (MA) yw’r unig radd academaidd yn y byd i archwilio ein perthynas â’r cosmos.
Mae’r rhaglen yn defnyddio gwahanol ddisgyblaethau ym maes y Dyniaethau er mwyn cael golwg mor gyflawn â phosibl ar y pwnc cyfan. Trwy gyfrwng hanes, edrychwn i’r gorffennol, a thrwy gyfrwng anthropoleg, rydym yn astudio’r presennol. Rydym hefyd yn gwneud defnydd o archeoleg, cymdeithaseg, athroniaeth ac astudiaeth o grefyddau.
Mae gan y geiriau seryddiaeth ac astroleg ystyron penodol yn y byd modern:
- Astudiaeth wyddonol o’r bydysawd ffisegol yw Seryddiaeth.
- Yr arfer o gysylltu cyrff nefol â bywydau a digwyddiadau ar y ddaear yw Astroleg.
Mae’r rhaniad rhwng seryddiaeth ac astroleg yn nodwedd o syniadaeth fodern y gorllewin.
Yr astudiaeth o gymhwyso credoau am y sêr i bob agwedd ar ddiwylliant dynol yw Seryddiaeth Ddiwylliannol.
Mae’n cynnwys disgyblaeth newydd sef archeoseryddiaeth: astudio aliniadau seryddol, cyfeiriadedd a symbolaeth mewn pensaernïaeth fodern a hynafol. Mae astroleg hefyd yn bodoli ar ryw ffurf yn y rhan fwyaf o ddiwylliannau.
Ar y cwrs MA rydym yn archwilio’r berthynas rhwng credoau ac arferion astrolegol, seryddol a chosmolegol, a chymdeithas, gwleidyddiaeth, crefydd a’r celfyddydau, ddoe a heddiw.
Mae’r pynciau rydyn ni’n eu hastudio yn amrywio o ran amser a diwylliant. Os byddwch yn astudio gyda ni, byddwch yn astudio:
- Effeithiau a mynegiannau diwylliannol seryddiaeth, astroleg a chosmoleg
- Casglu data ar yr hyn y mae pobl yn ei gredu am y sêr ar hyn o bryd
- Archwilio hanes astroleg
- Archwilio’r defnydd o’r awyr, y sêr a’r planedau mewn crefydd
- Ymchwilio i syniadau am y berthynas rhwng yr enaid, y seice a seicoleg a’r cosmos
- Ymchwilio i arferion hynafol hud a dewiniaeth
- Cadw dyddiadur o’ch sylwadau’ch hun ar yr awyr
- Edrych ar sut mae’r awyr a’r sêr yn cael eu cynrychioli yn y celfyddydau, mewn llenyddiaeth a ffilm
- Dysgu sut i fesur a dehongli aliniadau wybrennol mewn safleoedd archeolegol
Byddwch yn derbyn y radd MA ar ôl cwblhau traethawd hir 15,000 o eiriau yn seiliedig ar brosiect ymchwil dan oruchwyliaeth.
Rydym yn cynnig lefelau hyblyg o astudio a gall myfyrwyr nad ydynt yn dymuno dilyn y rhaglen MA gyfan astudio un modiwl fel Myfyriwr Achlysurol, dau fodiwl ar gyfer Tystysgrif Ôl-raddedig, neu bedwar modiwl ar gyfer Diploma Ôl-raddedig.
Manylion y cwrs
- Dysgu o bell
- Llawn amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Fel myfyriwr ar y rhaglen Seryddiaeth Ddiwylliannol ac Astroleg (MA) byddwch yn:
- Astudio ar gyfer gradd Meistr achrededig a gydnabyddir yn rhyngwladol.
- Rhan o un o brifysgolion mwyaf anrhydeddus y DU.
- Cael y cyfle i weithio gartref heb yr angen i ymweld â’r DU.
- Cael mynediad at filoedd o bapurau academaidd a llyfrau ar-lein.
- Rhan o gymuned ryngwladol o fyfyrwyr o’r un anian.
- Astudio gyda thiwtoriaid arbenigol sydd i gyd yn meddu ar, neu’n gweithio tuag at, PhD yn y maes pwnc.
- Cymryd rhan mewn dadleuon ynglŷn â natur a rôl ddiwylliannol astroleg, cosmoleg a seryddiaeth.
- Mynd i’r afael â chysyniadau fel hud, dewiniaeth, myth a swyngyfaredd, yn ogystal â gofod cysegredig a rôl yr enaid yn y sêr, a’n perthynas ni gyda’r awyr.
- Meithrin data cyfoes a fydd yn cyfrannu at ddealltwriaeth ysgolheigaidd o’n safle ni yn y cosmos.
- Cael cyfle i fynd ar drywydd eich ymchwil annibynnol eich hun o dan oruchwyliaeth arbenigol.
Fel myfyriwr llwyddiannus, byddwch wedi:
- Dod i ddeall rôl seryddiaeth, astroleg a chosmoleg mewn cymdeithas, trwy gydol hanes ac mewn amrywiaeth o ddiwylliannau.
- Meithrin sgiliau ymchwil ansoddol.
- Datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol a’r gallu i ffurfio dadleuon sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn y maes pwnc.
- Ennill cymhwyster sydd â marc ansawdd byd-eang.
- Dysgu sut i gyfathrebu gydag academyddion mewn gwahanol ddisgyblaethau.
Gorfodol
(30 credydau)
Dewisol
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(10 / 20 credydau)
(30 credydau)
Ymwrthodiad
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Dylid anfon ymholiadau cychwynnol at Gyfarwyddwr y Rhaglen, Dr Nicholas Campion (n.campion@pcydds.ac.uk). Rhowch wybod i ni am eich cefndir, gan gynnwys unrhyw gymwysterau academaidd.
Fel arfer mae angen gradd gyntaf dda (2:1 neu gyfwerth i raddau’r DU) mewn maes priodol yn y celfyddydau/y dyniaethau/gwyddorau cymdeithasol gan gynnwys Hanes, Astudiaethau Diwylliannol, Cymdeithaseg, Seicoleg, Diwinyddiaeth a/neu Astudiaethau Crefyddol.
Os oes gennych radd gyntaf dda — BA neu BSc — mewn disgyblaeth arall a/neu brofiad cefndirol perthnasol sylweddol a thystiolaeth o astudio perthnasol, yna trafodwch hyn gyda Chyfarwyddwr y Rhaglen.
Os oes gennych radd 2:2 (system raddio’r DU), yna efallai y byddwn yn eich cynghori i wneud cais am y Diploma Ôl-raddedig, ac yna gallwch symud ymlaen i astudio ar gyfer yr MA ar ôl cwblhau’r chwe modiwl a addysgir yn llwyddiannus.
Os oes gennych radd o’r tu allan i’r DU, nad oedd yn defnyddio system raddio’r DU, dylech gysylltu â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Dr Nicholas Campion.
Os nad oes gennych radd, yna, yn unol â pholisi ehangu mynediad y Brifysgol, byddwn yn ystyried eich cais yn seiliedig ar eich profiad personol, proffesiynol ac addysgol blaenorol. Os ydych yn perthyn i’r categori hwn, byddwn yn ystyried eich derbyn ar gyfer y Dystysgrif Ôl-raddedig (dau fodiwl) ac ar ôl cwblhau’r rhain yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r MA. Cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Dr Nicholas Campion (n.campion@pcydds.ac.uk).
Yn olaf, os ydych yn dymuno astudio fel myfyriwr Achlysurol yna gallwch ddod o dan unrhyw un o’r categorïau uchod.
Rydym yn derbyn myfyrwyr ddwywaith y flwyddyn, ym mis Hydref a mis Chwefror.
-
Caiff pob modiwl ei asesu drwy 7,500 o eiriau o waith ysgrifenedig. Er enghraifft, mae rhai modiwlau yn gofyn am un traethawd byr 1,500 o eiriau ac un traethawd hirach 6,000 o eiriau, i’w cyflwyno yn wythnos 10 i 12 fel arfer. Mewn modiwlau eraill, gall y traethawd cyntaf fod yn 3,000 o eiriau a’r ail yn 4,500 o eiriau, er enghraifft.
Gall gofynion asesu, hyd yr asesiadau a dyddiadau cau amrywio fesul modiwl. Gall y traethodau byrrach fod yn adolygiad beirniadol o ddarn o waith ysgrifenedig neu gellir eu dewis rhwng dau deitl. Mae dewis ehangach o deitlau ar gyfer traethodau hirach. Mewn rhai modiwlau, bydd y teitl a’r pwnc yn cael eu trafod gyda thiwtor y cwrs.
Yna dychwelir pob darn o waith gyda sylwadau gan naill ai un neu ddau o diwtoriaid, a chaiff y myfyrwyr gyfle i gael tiwtorial dros Skype er mwyn trafod y sylwadau.
-
Nid oes unrhyw gostau ychwanegol ffurfiol. Fodd bynnag, bydd angen gwe-gamera i gymryd rhan mewn dosbarthiadau ar-lein – tua deg punt sterling neu ddeg doler yr UD. Bydd rhai myfyrwyr yn dymuno prynu llyfrau ychwanegol (mae angen rhai), er bydd y rhan fwyaf o ddeunyddiau’r cwrs ar-lein.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r rhan fwyaf o’n myfyrwyr yn astudio’r cwrs MA heb unrhyw reswm arall ond oherwydd eu bod wrth eu bodd â’r pwnc. Mae rhai yn mynd ymlaen i astudio ar gyfer PhD, naill ai gyda ni neu mewn prifysgolion eraill.
Mae’r berthynas rhwng pob gwaith academaidd a chyflogaeth anacademaidd bob amser yn seiliedig ar werthfawrogiad darpar gyflogwyr o’r sgiliau cyffredinol sy’n cael eu meithrin wrth astudio ar gyfer MA. Fel arfer, mae’r rhain yn cynnwys meddwl yn feirniadol, sgiliau cyfathrebu, rheoli amser a’r gallu i ymgymryd â phrosiectau annibynnol a’u cwblhau.
Mae’r nodwedd olaf, yn enwedig, yn un sy’n cael ei werthfawrogi gan lawer o gyflogwyr. Mae rhai o’n graddedigion yn parhau ym myd addysg naill ai fel myfyrwyr ymchwil neu fel athrawon: mae un o’n myfyrwyr graddedig yn addysgu ar lefel israddedig tra bod un arall, athrawes ysgol, wedi cael dyrchafiad yn ei swydd a chodiad cyflog ar ôl iddi raddio.