Dylunio Gemau Cyfrifiadurol (Llawn Amser) (MA)
Mae ein MA mewn Dylunio Gemau Cyfrifiadurol yn daith gyffrous i feistroli bydoedd gemau, teyrnasoedd gemau a saernïo profiadau deniadol. Fe gewch eich arwain gan academyddion profiadol, gan ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant gemau. Mae’r cwrs hwn yn annog creadigrwydd ac arloesedd, gan eich helpu i adeiladu eich dyluniadau cysyniadol eich hun a defnyddio Unreal Engine Navigation.
Byddwch yn archwilio meysydd allweddol fel dylunio cymeriad, dylunio lefel, a’r theori ac arfer diweddaraf ym maes dylunio gemau, wrth ymchwilio i ludoleg a rhyngweithgarwch. Mae’r cwrs hefyd yn canolbwyntio ar greu prototeipiau a datblygu eich prosiectau o fewn system seiliedig ar gynhyrchu, gan eich helpu i feistroli rolau stiwdio hanfodol. Wrth i chi fireinio’ch gwaith, byddwch yn adeiladu tâp arddangos i’w chyflwyno i gyflogwyr yn y dyfodol.
Trwy gydol y broses, byddwch yn gweithio ar diroedd trochi a thirweddau gweledigaethol, wrth ddelio â heriau creu creaduriaid wedi’u hanimeiddio mewn amgylcheddau rhyfeddol. Bydd gennych hefyd fynediad at fodylau gemau arbenigol, a gynlluniwyd i ddyfnhau eich arbenigedd a chymryd eich sgiliau i’r lefel nesaf.
Mae ein rhaglen hefyd yn cynnig cyfle i chi gydweithio â myfyrwyr eraill ac elwa ar ddysgu trawsddisgyblaethol gyda’r MA Animeiddio a’r MA Ffilm, gan sicrhau eich bod yn ennill dealltwriaeth eang a chynhwysfawr o faes datblygu gemau. Mae’r cwrs wedi’i deilwra i’ch helpu i ddatblygu portffolio sy’n arddangos eich galluoedd ac yn rhoi hwb i’ch gyrfa yn y diwydiant gemau.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Wrth wraidd ein MA mewn Dylunio Gemau Cyfrifiadurol mae ymrwymiad i ddysgu ymarferol, dulliau sy’n canolbwyntio ar y diwydiant, a datblygiad profiadau effeithiol a throchol wrth chwarae gemau. Byddwch yn gweithio gyda thechnoleg arloesol, gan wella eich sgiliau creadigol a thechnegol trwy gyfuniad o brosiectau unigol a gwaith tîm cydweithredol, gydag adborth a chefnogaeth barhaus.
Bydd modylau megis Llif Gwaith a Thechnegau Stiwdio Uwch a Phrototeipio Profiadau Rhyngweithiol yn datblygu eich gallu i greu profiad chwarae atyniadol a throchol a meistroli rheoli cynhyrchiad. Byddwch yn archwilio creu cysyniad a mecaneg gemau, gan ddysgu hanfodion theori dylunio gemau wrth adeiladu’ch portffolio.
Yna byddwch yn ehangu ymhellach eich sgiliau cynhyrchu genre uwch a chreu bydysawdau stori. Byddwch yn mireinio eich sgiliau dylunio cymeriad a chreu lefel, gan ddefnyddio technolegau trochi i greu prototeip ac archwilio profiadau rhyngweithiol. Daw eich taith ddysgu i ben gyda Phrosiect Meistr ar ffurf prosiect cynhyrchu gem ar raddfa fawr.
(20 credyd)
(10 credits)
(20 credyd)
(10 credyd)
(60 credydau)
(10 credyd)
Ymwrthodiad
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
TBC
-
Mae cynnwys o’r dosbarth, ymarferion a chynnwys damcaniaethol yn cael ei gyfleu trwy arddangosiadau ac mewn darlithoedd. Mae gweithdai yn galluogi’r myfyriwr i ymchwilio’r technegau, y fethodoleg a’r gweithdrefnau sy’n cael eu cyflwyno iddyn nhw mewn mwy o ddyfnder, a hynny er mwyn creu dilyniannau animeiddiedig sy’n gweithio. Mae’r set o waith cwrs yn annog y myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd gweledol er mwyn creu dyluniadau apelgar a theimladwy wrth animeiddio â chyfrifiaduron.
Gydag amser astudio ac arbrofi pellach, bydd y myfyriwr yn meistroli’r gofynion technegol y byddan nhw eu hangen i gynhyrchu animeiddiadau cyfrifiadurol. Mae’r dull gweithredu yn systematig a bydd angen i bob myfyriwr brofi ystod eang o dasgau, heriau a phrofiadau animeiddio.
Yn rhan gyntaf y radd MA mewn Animeiddio Cyfrifiadurol bydd angen i bob myfyriwr eirioli eu syniad unigol ar gyfer cynhyrchiad ffilm animeiddiedig. Mae’r prosiect mawr yn cynnig cyfle i fyfyrwyr llawnamser a rhan-amser gydweithio ar brosiect mawr cyffredin neu i ddarparu mewnbwn neu roi cymorth ar brosiectau mawr ei gilydd.
Mae syniadau’n cael eu “cyflwyno” i diwtoriaid a gweddill carfan y myfyrwyr ac mae’r prosiect a ddewiswyd yn cael ei ddatblygu ymhellach yn ail ran y modiwl. Dan oruchwyliaeth, byddan nhw’n cael cyfle i ganfod Prosiect Rhan II uchelgeisiol a heriol sy’n drylwyr yn academaidd ac a fydd yn cael ei gwblhau fel prosiect tîm, lle bydd y deunydd cynhyrchu yn cael ei rannu’n feysydd arbenigol ar wahân ar gyfer bob un o aelodau’r tîm.
-
Gall ein myfyrwyr fanteisio ar amrywiaeth o offer ac adnoddau a fydd, fel arfer, yn ddigon i’w caniatáu i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu’r holl ddeunyddiau sylfaenol y bydd myfyrwyr eu hangen i ddatblygu eu gwaith ymarferol yn ein gweithdy a’n cyfleusterau stiwdio helaeth.
Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr animeiddio yn wynebu rhai costau ychwanegol wrth ehangu eu harfer personol. Er enghraifft, wrth brynu eu deunyddiau a’u hoffer arbenigol eu hunain, meddalwedd a chaledwedd, ymuno â theithiau astudio dewisol, a thalu am argraffu ac ati.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
-
Mae’r prif gyfleoedd gyrfa y mae’r MA mewn Animeiddio Cyfrifiadurol yn eu cynnig i’w cael yn y meysydd hyn:
- Cynnwys ar gyfer Darllediadau Teledu
- Cynnwys ar gyfer Hysbysebion teledu
- Cynnwys ar gyfer Cyfryngau Digidol Cyffredinol
- Cynnwys ar gyfer Ffilm
- Cynnwys Gemau Cyfrifiadurol
- Hyrwyddo Gemau Cyfrifiadurol
- Hyrwyddo yn y Sector Corfforaethol
- Hyfforddiant yn y Sector Corfforaethol
- Hyfforddiant yn y Sector Addysg