ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Delweddau Symudol - Deialogau Cyfoes (Llawn amser) (MA)

Abertawe
18 Mis Llawn amser

Mae’r MA Delweddau Symudol – Deialogau Cyfoes yng Ngholeg Celf Abertawe wedi’i gynllunio i ddatblygu meddylwyr creadigol a chysyniadol sy’n gallu cyfleu eu syniadau trwy ystod o gyfryngau. Mae’r cwrs meistr hwn yn berffaith i’r rhai sy’n gobeithio archwilio ffyrdd newydd i ddenu cynulleidfaoedd, boed hynny mewn meysydd fel hyrwyddo a hysbysebu, arddangosfeydd, neu’r sector corfforaethol. Mae’r rhaglen hefyd yn cwmpasu maes sy’n ymestyn yn gyflym, sef delweddau symudol ar gyfer dyfeisiau symudol, y we, a mathau eraill o ddylunio symudiad.

Yn fyfyriwr, byddwch yn ymgysylltu ag amgylchedd dysgu deinamig a beirniadol lle byddwch yn gweithio gyda fideo, sain, golygu digidol, cyfryngau amgylcheddol ac animeiddio i adeiladu sylfaen gadarn ar gyfer eich sgiliau creadigol a thechnegol. Mae’r cwrs yn annog ymagweddau arloesol ac yn eich helpu i feithrin eich dealltwriaeth o sut i ddatblygu syniadau a fydd yn gwneud argraff ar draws gwahanol lwyfannau a chyfryngau.

Mae’r rhaglen hon yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn meysydd fel Celf Gyfoes, Ffilm a Fideo Artistiaid, a Ffilm a Fideo, gan gynnig cyfleoedd i archwilio agweddau ymarferol a chysyniadol y meysydd hyn. Byddwch hefyd yn ymgysylltu â ‘r Cyfryngau Digidol, gan wella’ch gallu i greu gwaith sy’n berthnasol yn yr oes ddigidol sydd ohoni.

Trwy ganolbwyntio ar feddwl yn greadigol, dadansoddi beirniadol, a dysgu ymarferol, byddwch hefyd yn meithrin dealltwriaeth o Ddiwylliant Gweledol ac yn arbrofi gyda syniadau wedi’u hysbrydoli gan Sinema Arbrofol. Nod y rhaglen yw rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i chi fynd i’r afael â byd y cyfryngau a delweddau symudol yn hyderus, gan gynnig cyfleoedd ar gyfer twf personol a phroffesiynol.

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch wedi datblygu sylfaen gysyniadol a thechnegol gref ar gyfer eich gwaith yn y dyfodol a byddwch yn barod i ymgymryd ag amrywiaeth o rolau yn y diwydiannau creadigol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Hyd y cwrs:
18 Mis Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae Coleg Celf Abertawe PCYDDS yn cael ei gydnabod fel canolfan ragoriaeth ar gyfer dysgu ac ymchwil ym maes celf a dylunio.
02
Nododd Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 bod 95.8% o'n hymchwil yn arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol.
03
Mae’r portffolio meistr Deialogau Cyfoes yn cynnig amgylchedd dysgu rhyngddisgyblaethol unigryw, gyda mynediad at weithdai a staff ar draws y gyfadran.
04
Mae myfyrwyr meistr ac ymchwil yn cael eu cefnogi gan dîm ymroddgar a phroffesiynol o ddarlithwyr ac arddangoswyr technegol, a gyda'i gilydd maen nhw’n creu amgylchedd dysgu cefnogol a llawn amrywiaeth.
05
Mae Coleg Celf Abertawe yn cynnig opsiynau llawnamser a rhan-amser ac, er mwyn helpu i gefnogi ein myfyrwyr meistr, rydym yn gwneud y rhan fwyaf o'r addysgu craidd ar ddyddiau Iau a Gwener.
06
Daeth PCYDDS yn chweched yn y DU ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni 2018. Daeth y brifysgol yn bumed trwy’r DU am foddhad addysg ôl-radd ym maes Celfyddydau Creadigol a Dylunio, PTES 2018.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Ar y rhaglen MA Delwedd Symudol – Deialogau Cyfoes, mae ein hymagwedd at ddysgu ac addysgu yn canolbwyntio ar feithrin creadigrwydd, meddwl beirniadol, a hyfedredd technegol. Rydym yn annog myfyrwyr i archwilio syniadau arloesol ar draws ystod o gyfryngau, gan eu helpu i ddatblygu sgiliau cysyniadol ac ymarferol trwy brosiectau ymarferol, ymgysylltu beirniadol ac arfer adfyfyriol.

Mae portffolio meistr Deialogau Cyfoes Coleg Celf Abertawe yn cynnig profiad ôl-raddedig unigryw. Mae graddedigion ac ymarferwyr proffesiynol o ystod eang o arbenigeddau yn elwa o ddysgu amlddisgyblaetholynghyd â darlithwyr arbenigol ac ystod eang o gyfleusterau. Fe gewch y cyfle i fanteisio ar brofiadau a gwybodaeth o bob rhan o’r gwahanol lwybrau ac adlewyrchu hyn yn eich astudiaeth bersonol eich hun.

Mae’r amgylchedd ymchwil yn elwa’n fawr o fewnbwn ein staff addysgu a’n darlithwyr gwadd, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn artistiaid, dylunwyr a damcaniaethwyr sy’n ymchwilwyr gweithredol o arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol. Yn rhan gyntaf y rhaglen, byddwch yn cwblhau cyfres o fodylau a addysgir. Byddwch yn cymryd rhan mewn cyfnewidiadau amlddisgyblaethol, trwy seminarau a darlithoedd sy’n cynnwys myfyrwyr o bob rhaglen o fewn y  portffolio Deialogau Cyfoes, i ysgogi safbwyntiau newydd a herio cyfeiriadau. Disgwylir i syniadau newydd a chyffrous sy’n codi drwy ddeialogau o’r fath hyrwyddo ffordd newydd o feddwl am y canfyddiadau a’r technegau cynhyrchu sy’n briodol i’ch disgyblaeth. Trwy gydol yr elfen a addysgir o’r rhaglen, bydd disgwyl i chi gynnal ymchwiliadau ac ymchwil materol i themâu cyfoes, gan ystyried materion amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.

Drwy gydol y cwrs, byddwch yn ymgysylltu ag ystod o ddisgyblaethau creadigol a thechnegol, gan gynnwys fideo, sain, golygu digidol ac animeiddio. Byddwch yn datblygu sail gysyniadol gref ar gyfer eich gwaith, gan archwilio sut y gellir defnyddio’r ddelwedd symudol ar draws gwahanol lwyfannau, o ddyfeisiau symudol i ofodau gwe ac arddangos. Bydd y cwrs hefyd yn eich helpu i asesu eich allbwn creadigol yn feirniadol, gan eich paratoi ar gyfer arfer proffesiynol yn y dirwedd gyfryngau sy’n datblygu’n gyflym.

Gorfodol

Safbwyntiau Cydfodol

(20 credydau)

Yr Arbrawf Meddwl

(20 credydau)

Deialogau Cydweithredol

(20 credydau)

Ymchwil ac Arfer Archwiliol

(60 credydau)

Arfer Cadarnhau

(60 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Gwybodaeth allweddol

  • Fel arfer, rydym yn gofyn i chi fod â gradd 2.1. Ond, byddwn ni hefyd yn ystyried ymgeiswyr sydd â phrofiad perthnasol, a’n nod yw cyfweld â phob un ymgeisydd. Pan fo’n bosibl, rydym yn gwahodd darpar fyfyrwyr i ddod i gael blas ar ddiwrnod o addysgu er mwyn gweld a yw’n addas iddyn nhw.

  • Bydd asesu’n digwydd trwy waith cwrs, sy’n cynnwys cyflwyniadau yn ogystal â gwaith ymarferol ysgrifenedig.

    Yn Semester 1 bydd traethawd damcaniaethol 4,000 o eiriau gyda chyflwyniad poster, ac yn Semester 3 bydd adroddiad 5,000 o eiriau sy’n cyd-fynd â’r gwaith ymarferol.

    Nid oes arholiadau ar y cwrs hwn. Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu’n ffurfiannol drwy gydol pob modiwl. Bydd asesiadau crynodol ar ddiwedd pob modiwl, sy’n cynnwys cyflwyniad o’r gwaith i’r tîm asesu.

    Defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu a dysgu drwy gydol y cwrs, gan gynnwys, ymhlith eraill: 

    Tiwtorialau 

    Mae’r tiwtorialau hyn yn cael eu cynnal yn rheolaidd.

    Yn Semester 1, llawnamser/Blwyddyn 1, rhan-amser, mae pob myfyriwr yn cwrdd ag aelod o staff er mwyn trafod eu gwaith fel rhan o bob modiwl. Yn Semester 2 a 3, llawnamser/Blynyddoedd 2 a 3, rhan-amser, mae myfyrwyr yn gweithio’n fwy annibynnol ac yn cofrestru ar gyfer tiwtorialau o fewn, neu ar draws, eu disgyblaeth, ynghyd â’r rhai a drefnir pan fyddan nhw angen cymorth gyda’u gwaith.

    Fel tîm, rydym yn sicrhau bod pob myfyriwr sydd yn eu semester/blwyddyn olaf ar y cwrs yn cwrdd ag o leiaf un aelod o’r staff academaidd bob wythnos. 

    ³§±ð³¾¾±²Ô²¹°ù²¹³Ü/°Õ¾±·É³Ù´Ç°ù¾±²¹±ô²¹³Ü&²Ô²ú²õ±è;³Ò°ùŵ±è

    Mae’r rhain yn cael eu cynnal yn rheolaidd, yn ystod pob cam o’r cwrs, gydag un aelod o staff. Maen nhw’n gyfle gwych i fyfyrwyr rannu a chyfnewid syniadau gyda’u cyfoedion mewn ffordd strwythuredig ac i gael mewnbwn gwerthfawr gan staff.

    Cyflwyniadau Ffurfiol ac Anffurfiol

    Mae gan rai o’r modiwlau gyflwyniad syniadau yn rhan o ganlyniad y modiwl, ac maen nhw’n ffordd hanfodol o rannu syniadau ar draws y cwrs. Mae cyflwyno gwaith i gyfoedion yn anffurfiol hefyd yn rhan o addysgu’r seminar ac yn ffordd o gael adborth gwerthfawr ar gynnydd y gwaith.

    Arddangos gwaith

    Ar ddiwedd y cwrs bydd cyfle, os yw’n briodol, i arddangos canlyniadau’r cwrs mewn arddangosfa wedi’i guradu. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cefnogaeth i gynnal eu harddangosfeydd eu hunain yn rhan ganol y cwrs, os ydyn nhw’n awyddus i wneud hynny.

  • Gall ein myfyrwyr fanteisio ar amrywiaeth o offer ac adnoddau a fydd, fel arfer, yn ddigon i’w caniatáu i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu’r holl ddeunyddiau sylfaenol y bydd myfyrwyr eu hangen i ddatblygu eu gwaith ymarferol yn ein gweithdai a’n cyfleusterau stiwdio helaeth.

    Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio’n wynebu rhai costau ychwanegol wrth ehangu eu harfer personol. Er enghraifft, wrth brynu eu deunyddiau a’u hoffer arbenigol eu hunain, ymuno â theithiau astudio dewisol, a thalu am argraffu.  

    Yn dibynnu ar bellter a hyd, gall cost yr ymweliad astudio dewisol amrywio o tua £10 i ymweld ag orielau ac arddangosfeydd lleol, i £200 neu fwy ar gyfer ymweliadau astudio tramor neu deithiau hirach yn y DU. Mae’r costau hyn yn cynnwys pethau fel trafnidiaeth, mynediad i leoliadau a llety. Fel arfer mae cyfraddau is ar gael i’n myfyrwyr.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

  • Bydd graddedigion yn aelodau gweithgar o’n diwylliant creadigol, ac yn datblygu gyrfaoedd mewn amrywiaeth o rolau proffesiynol, fel:

    • Entrepreneur diwylliannol
    • Curadur
    • Addysgwr – darlithydd prifysgol
    • Myfyriwr gradd ymchwil a ariennir
    • Artist/dylunydd