ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Ffilm a Theledu (Llawn amser) (BA Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
120 o Bwyntiau UCAS

Wedi’i ddylunio i roi i chi sgiliau hanfodol ar gyfer y diwydiannau ffilm a theledu deinamig, mae’r cwrs hwn yn eich trochi ym mhob agwedd ar gynhyrchu. O sgriptio a chynhyrchu  i sinematograffi a golygu, fe gewch brofiad ymarferol sy’n cyd-fynd â mewnwelediadau damcaniaethol, gan eich grymuso i ddod â’ch gweledigaethau creadigol yn fyw.

Mae ein rhaglen yn cynnig cyfuniad cynhwysfawr o fodylau ymarferol gyda’r bwriad o ddyfnhau eich dealltwriaeth o strwythur ffilmiau ac arferion cyfredol y diwydiant. Byddwch yn meithrin medrau proffesiynol hanfodol er mwyn llwyddo ym maes cynhyrchu ffilm a theledu, a hynny oll o fewn amgylchedd dysgu cefnogol.

Trwy gydol eich gradd, byddwch yn cymryd rhan mewn cyfres o fodylau trochi a gynlluniwyd i hogi eich medrau cyfarwyddo, golygu, ysgrifennu sgriptiau, a sinematograffi. Wedi’u hategu gan astudiaethau damcaniaethol, mae’r profiadau ymarferol hyn yn eich paratoi i fynd i’r afael â heriau cymhleth y diwydiant gyda hyder.

Drwy lunio partneriaethau gydag ymarferwyr y diwydiant, rydym yn cynnig prosiectau byd go iawn sy’n caniatáu i chi gydweithio gyda chleientiaid a mynd i’r afael â briffiau o safon diwydiant. Tu hwnt i leoliadau ystafell ddosbarth traddodiadol, mae ein cwrs yn darparu cyfleoedd ar-leoliad amrywiol, gan sicrhau taith dysgu cyfoethog trwy brofiadau.

Paratowch i ymuno â chymuned ffilm fywiog lle mae dysgu cydweithredol a mynegiant creadigol yn ffynnu. Adeiladwch eich portffolio, mireiniwch eich sgiliau dadansoddi, ac archwiliwch ystod o lwybrau gyrfaol ym maes cynhyrchu ffilm a theledu. Darganfyddwch sut mae ein cyfleusterau stiwdio a dosbarthiadau meistr yn meithrin eich angerdd a’ch potensial yn y maes deinamig hwn.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Cyfunol (ar y campws)
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
W610
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
120 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 1af yng Nghymru am Gynhyrchu Ffilm a Ffotograffiaeth (Tabl Cynghrair y Guardian 2022).
02
Byddwch yn cydweithio ag amrywiaeth o bartneriaid proffesiynol gyda chyfleoedd i glywed siaradwyr o fyd diwydiant yn rhan o’ch dysgu
03
Rydym yn croesawu ac annog ceisiadau o gyrsiau nad ydynt yn ffocysu ar y cyfryngau fel Saesneg, seicoleg, hanes, cyfathrebu ayb.
04
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd ar leoliad er mwyn i fyfyrwyr ffynnu mewn profiad gradd sy’n mynd y tu hwnt i amgylchoedd y dosbarth.
05
Cewch gyfle i ymweld â gŵyl ffilm ryngwladol.
06
Byddwn yn addysgu rolau gwaith penodol i chi mewn sesiynau technegol (fel person camera cynorthwyol cyntaf, cydlynydd cynhyrchu, ymchwilydd, cyfarwyddwr stiwdio, ayb) i ganiatáu i chi wneud cais am swyddi yn eich tymor cyntaf.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae eich siwrne’n dechrau a gorffen gydag adrodd straeon creadigol - cysyniad sy’n ganolog i astudio ffilm a theledu yn PCYDDS Abertawe. Gydag adrodd straeon yn ffocws canolog, mae ein modylau mewn cynhyrchu, dylunio sinematig a ffotograffig, ymchwil ac adrodd straeon, yn golygu y byddwch yn adeiladu portffolio cynhyrchu effeithiol sy’n gweddu eich diddordebau arbenigol eich hun. 

Rydym yn eich rhoi chi wrth wraidd y dysgu, a golyga hyn ein bod yn eich annog i arbrofi mewn ystod o genres a rolau i gynhyrchu llwybr trwy’r cwrs sy’n eich gweddu chi. Bydd y broses o arbrofi yn eich helpu i arbenigo eich arddull unigryw chi a gwireddu eich potensial fel gwneuthurwr ffilm, sgriptiwr ffilmiau, ffilmiwr neu gyfarwyddwr gŵyl, i enwi ond rhaid. Ochr yn ochr â modylau cynhyrchu, anogwn waith gyda chleientiaid go iawn a briffiau byw i sicrhau y cewch chi brofiad uniongyrchol o’r diwydiant. 

Mae llawr o’n modylau yn rhai ymarferol, gyda’r dysgu’n digwydd ar y campws, ond hefyd tu allan yn y byd go iawn mewn caffis, adeiladau gwag, theatrau, traethau a thu hwnt. Ceir cyfleoedd i gydweithio gyda myfyrwyr o gyrsiau eraill gan gynnwys cyrsiau actio, darlunio a ffotograffiaeth. Trwy addysgu  mewn gwahanol leoliadau, rydym yn cynnig profiad dysgu arbennig, gyda chyfuniad cyffrous ac arloesol o sesiynau a addysgir a sesiynau ymarferol a gynhelir mewn amrywiaeth o leoliadau.

Caiff ein modylau seiliedig ar arfer eu haddysgu mewn blociau chwe wythnos gryno un ar ôl y llall, gan efelychu’r broses gynhyrchu. Bydd gweithdai technegol yn eich paratoi ar gyfer y diwydiant creadigol drwy eich addysgu ar leoliad ac oddi ar leoliad. Bydd eich allbwn creadigol yn cael ei danategu gan ystod o fodylau damcaniaethol bywiog a dangos ffilmiau bob wythnos – paratowch i gael eich ysbrydoli.

Yn eich blwyddyn gyntaf, cewch eich trochi mewn agweddau sylfaenol cynhyrchu ffilm a theledu. Cewch brofiad uniongyrchol o adrodd straeon, gweithredu camerâu, a golygu gan archwilio hanes a theori sinema. Byddwch yn cydweithio ar waith  ffilmio mewn stiwdio ac ar leoliad i ddatblygu sgiliau ymarferol.

Y Storïwr

(10 credydau)

Ymchwilio Gofodau

(20 credydau)

Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth

(20 credydau)

Ffyrdd o feddwl

(10 credydau)

Arfer Adrodd Storïau Cymhwysol 1

(20 credydau)

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Arferion Testunol 1

(10 credydau)

Ffyrdd o Ganfod

(10 credydau)

Gan adeiladu ar eich gwybodaeth sylfaenol, mae Blwyddyn 2 yn ffocysu ar fireinio eich sgiliau technegol a’ch arfer. Byddwch yn ennill dealltwriaeth ddyfnach o ddulliau adrodd stori, sinematograffi, a dylunio sain ar draws gwahanol enres gan gynnwys rhaglenni dogfen a chynhyrchu teledu aml-gamera.

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Ymchwil mewn Cyd-destun

(10 credydau)

Dysgu Caru Unigedd

(20 credydau)

Dylunio'r Stori

(10 credydau)

Arfer Adrodd Storïau Cymhwysol 2

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy

(20 credydau)

Arferion Testunol 2

(10 credydau)

Ymchwil ar Waith

(10 credydau)

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn atgyfnerthu eich sgiliau ac yn paratoi ar gyfer gyrfa ym maes cynhyrchu ffilm a theledu. Byddwch yn ymgymryd â phrosiect annibynnol ac yn cael profiad o gyflwyno syniadau y byddwch yn gallu eu rhoi ar waith mewn sefyllfaoedd yn y byd go iawn. 

Cynnig Syniadau ar gyfer Prosiect Graddio

(20 credydau)

Prosiect Graddio

(40 credydau)

Yr Å´yl Ffilmiau

(20 credydau)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Course Page Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Facilities & Exhibitions

Cyfleusterau ac Arddangosfeydd 

Fel myfyriwr BA Ffilm a Theledu bydd gennych fynediad at raglenni Adobe a chyfrifiaduron Mac a’r Creative Cloud yn cynnwys Adobe Premiere ac After Effects.

Film exhibition opening night

Mae un ar ddeg o fyfyrwyr sy’n graddio o’n BA mewn Ffilm a Theledu wedi creu ffilmiau byrion ar gyfer Sioe Haf 2024. Yn amrywio o fyfyrdod ar Paprika y diweddar Satoshi Kon, i deyrnged i ffilm arswyd cyllideb isel, i animeiddiad o bapur wedi’i dorri yn ailadrodd myth Cymreig, mae ein myfyrwyr yn arddangos eu sgiliau, eu gwybodaeth, a’u brwdfrydedd dros arbrofi.

The face of a young woman, her hair and forehead decorated with jewellery and her eyes closed, is seen in soft yellow light through the hollow centre of a golden disc.

Gwybodaeth allweddol

  • Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd o Saesneg, ffotograffiaeth, dylunio i seicoleg i wyddoniaeth i’r cyfryngau.

    I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried.

    Er bod cymwysterau’n bwysig, nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig. Os nad oes gennych y pwyntiau UCAS gofynnol, cysylltwch â thiwtor derbyn y cwrs neu e-bostiwch artanddesign@pcydds.ac.uk oherwydd gallwn ystyried cynigion i ymgeiswyr ar sail teilyngdod unigol, gwaith eithriadol, a/neu brofiad ymarferol.

    Ein cynnig safonol ar gyfer cwrs gradd yw 120 o bwyntiau tariff UCAS. Disgwyliwn i ymgeiswyr gael gradd C neu uwch mewn Saesneg Iaith (neu Gymraeg) ar lefel TGAU, ac iddynt fod wedi llwyddo mewn pedwar pwnc arall. Hefyd rydym yn derbyn ystod o gymwysterau Lefel 3 gan gynnwys:

    • Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio, yn ogystal ag un TAG Safon Uwch mewn pwnc academaidd perthnasol
    • Tair TAG Safon Uwch neu gyfwerth
    • Diploma Estynedig L3 UAL mewn Celf a Dylunio
    • Diploma Cyffredinol Cymhwysol a Diploma Estynedig L3 UAL mewn Celf a Dylunio
    • Diploma a Diploma Estynedig L3 UAL mewn Ymarfer Creadigol: Celf, Dylunio a Chyfathrebu
    • Diploma Estynedig L3 UAL mewn Cynhyrchu a Thechnoleg Cyfryngau Creadigol
    • Diploma Estynedig BTEC mewn pwnc perthnasol
    • Sgôr Bagloriaeth Ryngwladol o 32
    • Gellir ystyried cymwysterau perthnasol eraill fesul achos unigol

    Gwybodaeth am gyfweliadau

    Y peth pwysicaf y byddwn yn disgwyl ei weld yn ystod eich cyfweliad yw angerdd a brwdfrydedd cryf dros adrodd straeon mewn Ffilm a theledu. Nid oes angen portffolio. Os oes gennych chi un, gwych, ond y cyfweliad yw’r prif brawf o’ch addasrwydd ar gyfer y cwrs a’i gofynion. Byddwn yn rhoi ffilm fach i chi ei gwylio ymlaen llaw a byddwn yn seilio strwythur ein cyfweliad ar honno: Lluniwyd strwythur y cyfweliad i roi amser i chi ofyn cwestiynau am y cwrs i sicrhau y bydd y cwrs yn eich gweddu chi ac y byddwch chi’n ein gweddu ni.

  • Mae’r holl asesu wedi’i seilio ar waith cwrs ymarferol 100%.

    Disgwylir i fyfyrwyr ddangos eu dealltwriaeth ar ffurf gwaith prosiect ymarferol. Mae’r holl waith ymarferol wedi’i seilio ar brosiect a phortffolio.

  • Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu’r meddalwedd sylfaenol a chamerâu sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddatblygu eu gwaith ymarferol o fewn sesiynau gweithdy helaeth ac ar leoliad.

    Bydd angen i chi brynu gyriant caled 1TB a dillad addas ar gyfer dysgu tu allan.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Ewch i dudalen Teithio’r Byd gyda’r Drindod Dewi Sant i ddysgu rhagor am gyfleoedd i astudio dramor.

  • Mae ein cyn-fyfyrwyr wedi dod o hyd i rolau cynhyrchu ar draws y diwydiant ffilm a theledu, ac mae graddedigion diweddar yn gweithio ar brosiectau fel Mission Impossible (4, 5 a 6), The Grand Tour, His Dark Materials, Paddington 2, Brissic, Guardians of the Galaxy, Outlaw King, Bancroft, Doctor Who a llawer iawn mwy.

    Mae graddedigion eraill wedi cael swyddi gyda mawrion sefydledig y diwydiant, gan gynnwys BBC, Sky, Amazon, MPC a Milk VFX. Hefyd, mae llawer o gyn-fyfyrwyr wedi dod o hyd i lwyddiant fel gweithwyr llawrydd neu wedi creu eu cwmnïau cynhyrchu eu hunain.