ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Peirianneg Ynni ac Amgylcheddol (Llawn amser) (BEng Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
112 o Bwyntiau UCAS

Wrth i dechnoleg ddatblygu, mae peirianneg drydanol ac electronig yn dod yn bwysicach. Mae’r maes hwn yn hanfodol mewn sawl maes, fel cerbydau trydan, gweithgynhyrchu, cynhyrchu pŵer, rhwydweithiau trawsyrru a dosbarthu, dyfeisiau clyfar a systemau cyfathrebu a gwybodaeth. Rhaid i beirianwyr newydd ddeall technolegau cyfredol a thechnolegau datblygol er mwyn helpu i leihau allyriadau carbon.

Mae cynaliadwyedd bywyd modern yn dibynnu ar leihau allyriadau carbon trwy gynyddu effeithlonrwydd ynni dyfeisiau trydanol a defnyddio cerbydau trydan. Bydd y rhaglen radd hon yn eich helpu i ddeall agweddau allweddol ar ystod o gysyniadau, egwyddorion a thechnolegau sy’n gysylltiedig â pheirianneg drydanol ac electronig, y mae rhai ohonynt yn flaenllaw yn y maes.

Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio’r technolegau, y technegau a’r offer priodol i ddatrys problemau neu ddiwallu anghenion penodol. Byddwch hefyd yn nodi tasgau ac yn cynllunio atebion gyda dogfennaeth briodol, gan ddangos eich gallu i gefnogi eich syniadau gyda thystiolaeth ac i gyfathrebu’n effeithiol.

Mae’r cwrs hwn yn annog trafod cymwysiadau, cysyniadau, egwyddorion, technegau a theori. Bydd yn datblygu eich dealltwriaeth o ddulliau meintiol ac egwyddorion mathemategol sy’n gysylltiedig â pheirianneg drydanol ac electronig. Byddwch hefyd yn dysgu am integreiddio agweddau dylunio, technoleg a masnachol i greu atebion amgylcheddol cynaliadwy ac arloesol i broblemau.

Drwy gydol y cwrs byddwch yn datblygu galluoedd dadansoddol ac yn defnyddio offer arbenigol uwch. Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol, ac yn  cael cyfleoedd i gael profiad uniongyrchol gan ddefnyddio’r dechnoleg orau, wedi’i gefnogi gan ein cysylltiadau diwydiant cryf. Byddwch yn mynd i’r afael â phroblemau peirianneg go iawn ac yn gweithio ar senarios sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant yn unigol ac mewn grwpiau. 

Erbyn diwedd y rhaglen, bydd gennych y sgiliau a’r wybodaeth i ddilyn gyrfa lwyddiannus mewn peirianneg drydanol ac electronig, gyda’r gallu i ddatblygu atebion arloesol ar gyfer dyfodol cynaliadwy.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
42UO
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
112 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae rhagolygon gyrfa ar gyfer Peirianwyr Ynni ac Amgylcheddol yn dda iawn, ac mae’r galw am beirianwyr yn y sector hwn yn uchel iawn ar hyn o bryd.
02
Rhagwelir y bydd angen 1.5 miliwn yn fwy o beirianwyr ar draws Ewrop yn y maes hwn dros y pum i ddeng mlynedd nesaf.
03
Mae’r Drindod Dewi Sant yn darparu amgylchedd croesawgar a chefnogol lle gall myfyrwyr ffocysu ar broblemau/cymwysiadau byd go iawn.
04
Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau bach i ddatblygu datrysiadau i ystod o broblemau gan ganiatáu datblygu gwaith tîm, arweinyddiaeth, rheoli prosiectau a datblygu cysyniadau.
05
Rhoddir i chi’r cyfle i ymweld ag amrywiaeth o sefydliadau sy’n rhan o gynhyrchu trydan a chynhyrchu/defnyddio technolegau amgylcheddol, er enghraifft, Gorsaf Ynni Penfro, y Ganolfan Technoleg Amgen, y Grid Cenedlaethol, ayb.
06
Mae eich prosiect blwyddyn olaf yn rhoi’r cyfle i chi arbenigo mewn maes diddordeb o’ch dewis.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Ein Hathroniaeth

Mae ein hathroniaeth wrth addysgu peirianneg drydanol ac electronig yn canolbwyntio ar ddysgu ymarferol, ymgysylltu â diwydiant a chynaliadwyedd. Ein nod yw rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i chi fynd i’r afael â phroblemau byd go iawn gan ddefnyddio atebion arloesol sy’n ymwybodol o’r amgylchedd.

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen gadarn mewn mathemateg, hanfodion systemau cyfrifiadurol, ac egwyddorion sylfaenol peirianneg drydanol ac electronig. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau hanfodol mewn rhaglennu a datrys problemau, gan eich paratoi ar gyfer pynciau mwy datblygedig yn y blynyddoedd dilynol.

Gorfodol 

Egwyddorion Trydanol ac Electronig

(20 credydau)

Gwyddor Peirianneg

(20 credydau)

Mathemateg Peirianneg

(20 credydau)

Dylunio Peirianneg

(20 credydau)

Cymwysiadau Peirianneg a Sgiliau Astudio

(20 credydau)

Deunyddiau a Chyflwyniad i Brosesu

(20 credydau)

Mae’r ail flwyddyn yn canolbwyntio ar ddyfnhau eich dealltwriaeth o gylchedau trydanol ac electronig a systemau digidol. Byddwch hefyd yn dysgu am systemau rheoli, trawsddygiaduron a chyflyru signalau, a pheirianneg a rheoli prosiectau, gyda phwyslais ar weithredu ymarferol.

Gorfodol 

Prosiect Grŵp

(20 credydau)

Rheoli ac Awtomeiddio

(20 credydau)

Dadansoddi Straen a Dynameg

(20 credydau)

Mecaneg thermohylifau

(20 credydau)

Peirianneg Amgylcheddol ac Ynni Cynaliadwy

(20 credydau)

Rheoli, Arloesi a Chynaliadwyedd

(20 credydau)

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn cymryd rhan mewn pynciau datblygedig fel electroneg a gyriannau ynni, rheolyddion rhesymeg rhaglenadwy, a dylunio systemau electronig. Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect annibynnol ar gyfer eich blwyddyn olaf, gan roi eich gwybodaeth ar waith i ddatrys problem beirianneg y byd go iawn, yn aml mewn cydweithrediad â phartneriaid yn y diwydiant.

Gorfodol 

Rheoli Llygredd Amgylcheddol

(20 credydau)

Peirianneg Peiriannau ac Asedau

(20 credydau)

Dadansoddi Strwythurol a Hylifol

(20 credydau)

Dulliau Cyfrifiadurol

(20 credydau)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Facilities

Cyfleusterau

Mae ein cyfleusterau Amgylchedd, Ynni a Chynaliadwyedd wedi’u lleoli ar gampws bywiog glannau Abertawe gan gynnig ystod eang o offer maes a labordy, sy’n rhoi profiad ymarferol i fyfyrwyr.

A young man in a labcoat inspects a soil sample using tweezers; a microscope can be seen behind him.

Cwrdd â’n Myfyrwyr

Gwybodaeth allweddol

  • 112 pwynt (280 yn flaenorol) o bynciau Safon Uwch rhifog neu dechnegol, gan gynnwys Mathemateg neu Ffiseg gradd B neu uwch. Hefyd, mae angen TGAU Mathemateg gradd C. Gellir ystyried profiad perthnasol.

    Nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig. Rydym yn ystyried eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd hefyd. Yn yr achosion hyn, rhaid darparu tystiolaeth o allu i ddilyn y cwrs yn llwyddiannus. Rydym yn hoffi rhoi pob cyfle i ymgeiswyr o’r fath ddangos bod ganddynt y cymhelliant a’r gallu i lwyddo yn eu dewis raglen.

  • Mae gan fyfyrwyr y math yma o raglen ddiddordeb naturiol yn eu harbenigedd, a nod y tîm addysgu yw ennyn y diddordeb hwn fel bod myfyrwyr yn mwynhau dysgu a gwerthfawrogi’r manteision y gall gradd beirianneg eu hychwanegu i gefnogi eu meysydd diddordeb.

    Bydd asesiadau’r rhaglen yn gymysgedd o waith cwrs ac arholiadau ffurfiol. Bydd cyflwyniadau hefyd yn rhan o fodylau fel y prosiect grŵp a phrosiect Mawr lle cewch y cyfle i arddangos eich gwaith.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hwn heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y prif brosiect, ond nid yw hyn yn ofyniad ac ni chaiff unrhyw effaith ar y marc terfynol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

  • Mae’r diwydiant yn cynnwys gweithgynhyrchwyr arbenigol bychain a diwydiannau graddfa fawr. Mae yna farchnad glir i fyfyrwyr gael eu cyflogi yn y maes hwn, ac mae’r galw am raddedigion peirianneg amgylcheddol yn parhau’n uchel a chynigir cyflogau cychwyn rhagorol i raddedigion.