ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Cadwraeth a Rheolaeth Amgylcheddol (Llawn amser) (MSc)

Abertawe
1 Flwyddyn Llawn amser

Mae ein byd yn wynebu llawer o heriau oherwydd gweithgareddau dynol sy’n effeithio ar yr amgylchedd naturiol. Mae pobl yn dod yn fwy ymwybodol o’r effeithiau anthropogenig hyn a’r angen i gydbwyso buddion ein gweithrediadau â’u cost amgylcheddol. Dyma le mae cadwraeth a rheolaeth amgylcheddol yn dod i rym.

Ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae ein cwrs Cadwraeth a Rheolaeth Amgylcheddol wedi’i gynllunio i roi i chi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r heriau hyn. Byddwch yn dysgu am reoli’r amgylchedd, diogelu’r amgylchedd, a phwysigrwydd deddfwriaeth a pholisi wrth ddiogelu ein planed.

Mae’r cwrs yn cwmpasu ystod eang o bynciau, gan gynnwys rheolaeth adnoddau naturiol a pherfformiad amgylcheddol. Byddwch yn archwilio sut mae gwahanol sectorau yn effeithio ar yr amgylchedd a rôl polisïau amgylcheddol wrth liniaru’r effeithiau hyn. Trwy arfer amgylcheddol, byddwch yn ennill profiad ymarferol o reoli a gwarchod bywyd gwyllt a thirweddau.

Un o brif agweddau’r cwrs hwn yw ei ffocws ar reolaeth adnoddau rhyngwladol. Byddwch yn dysgu sut mae materion byd-eang yn effeithio ar amgylcheddau lleol a sut i gymhwyso’ch gwybodaeth i wneud gwahaniaeth. Mae’r cwrs hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd profiad o ymchwil a phrofiad proffesiynol, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa yn sector yr amgylchedd.

Fe gewch y cyfle i weithio gydag arbenigwyr amgylcheddol ar brosiectau byw ar gyfer cleientiaid go iawn, gan roi profiad ymarferol i chi sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr gan gyflogwyr. Bydd hyn yn eich helpu i gyflawni eich nodau gyrfaol a chael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd.

Mae’r cwrs hefyd yn cwmpasu ecoleg a chadwraeth, gan eich addysgu sut i ddiogelu a rheoli cynefinoedd naturiol a bywyd gwyllt. Byddwch yn dysgu am reolaeth bywyd gwyllt a rheolaeth tirweddau, gan ennill y sgiliau sydd eu hangen i warchod ein treftadaeth naturiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

I grynhoi, mae’r cwrs Cadwraeth a Rheolaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn darparu addysg gynhwysfawr mewn rheoli a chadwraeth amgylcheddol. Byddwch yn ennill y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r heriau amgylcheddol sy’n wynebu ein planed, a byddwch yn barod ar gyfer gyrfa werth chweil yn y maes hanfodol hwn.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Ar y campws
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Amgylchedd dysgu cefnogol, gyda sylw personol yn cael ei roi i bob myfyriwr.
02
Y profiadau dysgu llwyddiannus a phleserus sydd wrth graidd ein gweledigaeth i gynhyrchu gweithwyr proffesiynol heb eu hail ac sydd â sgiliau cyflogadwyedd uchel.
03
Ein lleoliad trefol/morol sy'n agos iawn at 'Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol' gyntaf Prydain a chyda llawer o asedau diwylliannol ac adeiladau difyr yn gyfagos.
04
Dosbarthiadau o 15 neu lai fel arfer, sy’n creu diwylliant ac amgylchedd lle bydd anghenion myfyrwyr unigol yn cael eu clywed a’u cefnogi.
05
Addysg sy’n cael ei lywio gan waith ymchwil mewn pynciau sy'n ymestyn ar draws ein portffolio, gyda chefnogaeth briodol gan arbenigwyr allanol o bob cwr o'r byd.
06
Rydym yn credu mewn ymgysylltu â chyflogwyr er mwyn datblygu, cyflwyno ac adolygu cyrsiau sy'n gwella cymwysterau cyflogadwyedd ein graddedigion mewn ffordd sy'n ganolog i'n gweledigaeth ar gyfer myfyrwyr, y ddinas a'r rhanbarth.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae ein rhaglen Cadwraeth a Rheolaeth Amgylcheddol wedi’i chynllunio i ddatblygu ymarferwyr proffesiynol gwybodus a medrus a all fynd i’r afael â heriau amgylcheddol dybryd ein hoes. Rydym yn canolbwyntio ar brofiad ymarferol, meddwl beirniadol a dysgu rhyngddisgyblaethol i baratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd effeithiol mewn cadwraeth a rheolaeth amgylcheddol.

Drwy gydol y rhaglen flwyddyn MSc llawn amser hon, byddwch yn archwilio sylfeini a chysyniadau cadwraeth a rheolaeth amgylcheddol uwch. Meysydd Astudio Allweddol: Byddwch yn ennill dealltwriaeth gynhwysfawr o reolaeth amgylcheddol, diogelu’r amgylchedd, a phwysigrwydd deddfwriaeth a pholisi wrth ddiogelu ein planed. Mae’r cwrs yn cwmpasu rheolaeth adnoddau naturiol a pherfformiad amgylcheddol, gan archwilio sut mae gwahanol sectorau’n effeithio ar yr amgylchedd a rôl polisïau amgylcheddol wrth liniaru’r effeithiau hyn. Trwy arfer amgylcheddol, byddwch yn ennill 

I grynhoi, mae’r cwrs Cadwraeth a Rheolaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn darparu addysg gynhwysfawr mewn rheolaeth a chadwraeth amgylcheddol. Byddwch yn ennill y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r heriau amgylcheddol sy’n wynebu ein planed, a chewch eich paratoi’n dda ar gyfer gyrfa foddhaus yn y maes hanfodol hwn.

Gorfodol

Cynllunio a Pholisi Amgylcheddol

(20 credydau)

Rheoli Ynni ac Adnoddau

(20 credydau)

Datblygu Cynaliadwy

(20 credydau)

Dulliau Ymchwil a Datblygiad Proffesiynol

(20 credydau)

GIS a Rheoli Cynefinoedd

(20 credydau)

Rheoli Strategol ar gyfer Cadwraeth

(20 credydau)

Prosiect Gradd Meistr

(60 credydau)

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf gradd 2.2 mewn unrhyw bwnc.

    Bydd ymgeiswyr sydd â chymwysterau eraill a phrofiad perthnasol yn cael eu hystyried yn unigol gan Gyfarwyddwr y Rhaglen drwy broses Achredu dysgu blaenorol (APS).

    Mae angen sgôr IELTS o 6.0 neu gyfwerth os nad Saesneg yw’r iaith gyntaf. 

  • Rydym yn credu y dylai’r cwrs gynnwys ystyriaeth academaidd a galwedigaethol er mwyn i fyfyrwyr ddatblygu set o sgiliau a gwybodaeth sy’n addas ar gyfer y gweithle. 

    Felly, cafodd y rhaglen MSc hon ei dylunio ar y cyd â rheolwyr amgylcheddol, ac mae’n defnyddio asesiadau/digwyddiadau ‘byw’ cyfredol er mwyn sicrhau bod y cynnwys yn ymateb i anghenion newidiol cyflogwyr, eu gweithwyr, a’r agenda amgylcheddol sy’n newid yn gyson. 

    Mae’r arddull yma o addysgu’n cynnwys adroddiadau, prosiectau, cyflwyniadau, ac mae’n helpu myfyrwyr i ddatblygu eu diddordebau unigol o fewn fframwaith y modiwl.

    Mae’r traethawd hir yn cael ei ddatblygu gan fyfyrwyr mewn cydweithrediad â’r tîm goruchwylio, a dylai fod yn uniongyrchol berthnasol i ddiddordebau’r myfyriwr yn ogystal â chydymffurfio â thrylwyredd academaidd gwaith ymchwil MSc. Yn olaf, mae’r tîm addysgu’n canolbwyntio’n llwyr ar y myfyrwyr ac yn galluogi myfyrwyr i wireddu eu huchelgeisiau o ran rheoli amgylcheddol.

  • Bydd mynediad i’ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio gyda PCYDDS. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i’ch galluogi i ymgysylltu’n llawn â’ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i’w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu’ch dyfais.

    Efallai y byddwch chi’n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

    • Teithio i’r campws ac oddi yno
    • Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
    • Prynu llyfrau neu werslyfrau
    • Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio

    Bydd disgwyl i chi brynu tiwnig i’w gwisgo yn y lleoliad clinigol - rhoddir fanylion pellach pan fyddwch chi’n dechrau’r rhaglen.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae ôl-raddedigion ein rhaglen MSc Cadwraeth a Rheolaeth Amgylcheddol wedi cael gyrfaoedd gydag amrywiaeth eang o gyflogwyr y sector rheoli amgylcheddol yn y DU ac ar draws y byd, gan gynnwys gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, Awdurdodau Lleol, cwmnïau dŵr a chyrff anllywodraethol amgylcheddol, ac ym meysydd ymgynghori amgylcheddol, rheoli gwastraff ac addysgu. Mae graddedigion hefyd wedi parhau i astudio’n llwyddiannus ar gyfer doethuriaethau mewn gwahanol brifysgolion ledled y byd.